Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-25
Diweddariad Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Cyngor Sir Penfro
Ym mis Mawrth 2024, ffurfiwyd is-grŵp ar gyfer Cynllun Gweithredu Sir Benfro Wrth-hiliol i ddarparu dull mwy penodedig o ran bwrw ymlaen â'r agenda hon yn unol â hysbysiad o gynnig y cytunwyd arno gan y cyngor. Galwodd yr hysbysiad o gynnig ar Gyngor Sir Penfro i gydnabod pa mor bwysig yw meithrin cymuned gynhwysol a gwrth-hiliol i bobl Sir Benfro sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn hyrwyddo cydraddoldeb.
Ym mis Tachwedd 2024, cafodd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru ei adnewyddu, gan roi pwyslais ar gyflawni effaith a newid mesuradwy i gefnogi Cymru i fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030.
Cyflwynwyd adroddiad diweddaru yn ymwneud â hysbysiad o gynnig ar gyfer Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cyngor Sir Penfro i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ym mis Mawrth 2025. Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan yr is-grŵp yn cadarnhau ein hymrwymiad a'n cefnogaeth i Gymru wrth-hiliol.