Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-25

Monitro

Mae ein Grŵp Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol yn cynnwys cynrychiolwyr o bob cwr o'r awdurdod sy'n cyfarfod bob chwarter i adolygu a monitro cynnydd yn erbyn ein hamcanion. Mae cylch gwaith y grŵp yn cynnwys cyflawni amcanion o fewn y cynllun, materion yn ymwneud â chydymffurfedd, gwaith datblygu, a rhannu arferion da. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys y Cyfarwyddwr Addysg, sef yr uwch-swyddog sy'n gyfrifol am weithredu'r Cynllun Gweithredu Strategol ar Gydraddoldeb o fewn Cyngor Sir Penfro a chadeirydd y cyfarfodydd. Mae'r cyfarwyddwr yn adrodd i uwch-swyddogion eraill ac aelodau'r cabinet, yn rhinwedd bod yn aelod o'r Uwch-dîm Arwain.

Mae ein rhaglen weinyddu wedi'i threfnu o amgylch portffolios aelodau’r cabinet, sy'n cynnwys Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, ac mae Hyrwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Democratiaeth.

ID: 14740, adolygwyd 02/03/2026