Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-25

Perfformiad Cydraddoldeb 2024-25

Mae Grŵp y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol wedi adolygu'r camau gweithredu o dan bob un o'r pum amcan cydraddoldeb yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28. Darperir crynodeb o'r perfformiad, tystiolaeth i ategu hyn, a chamau gwella ar gyfer 2024-25 isod.

 

Q1: Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Cyd-destun strategol ein gwaith ar gydraddoldeb yw Deddf Cydraddoldeb 2010 a rheoliadau cysylltiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrff cyhoeddus.  Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 yn cael ei fonitro gan Grŵp y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol, sy’n cyfarfod bob chwarter.
  • Ein proses asesiad effaith integredig yw’r dull a ddefnyddir i asesu effaith penderfyniadau a chynigion allweddol. Adolygwyd proses asesiad effaith integredig y cyngor yn ystod 2024 i gryfhau a chefnogi prosesau gwneud penderfyniadau drwy wneud y broses asesiad effaith integredig yn symlach ac yn haws eidilyn a thrwy ehangu’r ystod o ymrwymiadau deddfwriaeth/polisi a gwmpesir. Yn fras, mae’r meysydd hyn yn cwmpasu ystyriaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, yn ogystal ag effeithiau ar grwpiau penodol o bobl. Mae cynllun peilot o’r broses newydd ar waith i sicrhau bod y fframwaith yn gadarn.
  • Mae monitro cydraddoldeb yn parhau i gael ei wneud fel rhan o waith ymgysylltu ac ymgynghori. Rydym wedi adolygu'r cwestiynau monitro cydraddoldeb a'r Gymraeg a ofynnwn fel rhan o ymgynghoriadau cyhoeddus ac sydd wedi'u llenwi ymlaen llaw yn y templed Microsoft Forms, gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n gyson a’u monitro, ac y gellir eu cymharu ag ystadegau cenedlaethol a lleol, e.e. Cyfrifiad 2021. 
  • Mae’r cyngor yn parhau i gyhoeddi data y bwlch cyflog rhywedd gyda’r adroddiad ar gyfer 2024-25 wedi’i gyhoeddi ym mis Ebrill 2025.  Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth am gyflogau i ddynion a merched yn ogystal â phobl o wahanol darddiadau ethnig.  Yn 2024-25, yn seiliedig ar gyflog canolrifol yr awr, roedd menywod yn y cyngor yn ennill yr un faint â dynion.
  • Cyhoeddwyd Adroddiad Cydraddoldeb mewn Cyflogaeth 2023-24 ym mis Ebrill 2025; mae adroddiad 2024-25 yn cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.   Nod yr adroddiad yw rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd ehangach a rhanddeiliaid am arferion cyflogaeth yr awdurdod, yn ogystal â chaniatáu i’r awdurdod sefydlu sut yr oedd yn cyflawni ei amcanion cyflogaeth yn ei Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol.
  • Mae ‘insport’ yn rhaglen Chwaraeon Anabledd Cymru a gyflwynir gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru, ac mae ganddi’r nod o gefnogi’r sectorau gweithgareddau corfforol, chwaraeon a hamdden i ddarparu ar gyfer pobl anabl mewn ffordd gynhwysol. Chwaraeon Sir Benfro a Hamdden Sir Benfro yw’r partner awdurdod lleol cyntaf yn genedlaethol i gyflawni Safon Aur Partneriaethau insport (Rhagfyr 2024). Mae cyflawni’r Safon Aur yn golygu bod dull cynhwysol wedi’i wreiddio mewn strategaethau, rhaglenni a ffyrdd o feddwl. Mae’r cyflawniad yn cydnabod yr ymdrechion i greu cyfleoedd sy’n sicrhau y gall pawb, waeth beth fo’u gallu, gymryd rhan a ffynnu mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon ar lefel o’u dewis.
  • Drwy gydol 2024-25, fe wnaethom barhau i ddarparu cefnogaeth ymarferol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches drwy’r Tîm Partneriaeth Mudo.   Mae’r tîm yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i gefnogi integreiddio cymunedol. Yn y gymuned, mae digwyddiadau’r Tîm Mudo a rhaglenni integreiddio yn cefnogi’r camau gweithredu hyn. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda nifer o wasanaethau, yn enwedig cydweithwyr ym maes addysg, i sicrhau integreiddio disgyblion yn llwyddiannus.  Mae Gwasanaethau Ieuenctid yn darparu diwrnodau allan i bobl dros 16 a thros 11 oed, yn ogystal â gweithgareddau a theithiau preswyl sy’n helpu i ymgartrefu a meithrin cyfeillgarwch, ac mae’r Adran Gwaith a Phensiynau, Gwaith yn yr Arfaeth, staff cyflogadwyedd a Maximus yn helpu teuluoedd i ddod o hyd i waith.   Rydym hefyd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, cymorth i deuluoedd a’r heddlu ac yn gweithio ar raglen o ddigwyddiadau lles.
  • Yn ystod 2024-25, fe wnaethom gyflogi 75 o bobl anabl yn uniongyrchol gyda 56 ohonynt ar y rhaglen cyflogaeth â chymorth.  Mae’r rhaglen yn cynorthwyo pobl i gael mwy o annibyniaeth mewn lleoliadau gwaith â chymorth, sy’n cynnwys ein ffatri (Diwydiannau Norman), gweithdy crefftau, siop, melin lifio a chaffis.
  • Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud i nodi lleiniau ychwanegol posibl i ddiwallu anghenion y gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Mae’r gwaith hwn yn parhau ac mae nifer o safleoedd wedi’u cyflwyno i’w hystyried ar y cyd ag adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol.  
  • Mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion (PDG) yn parhau i ariannu ymyriadau, cymorth a gweithgareddau wedi’u targedu ar draws ysgolion Sir Benfro i leihau effaith tlodi.  Mae ymyriadau wedi’u targedu yn cynnwys cymorth llythrennedd a rhifedd ac ymyriadau lleferydd ac iaith ar gyfer disgyblion. Mae cymorth bugeiliol ac emosiynol yn cynnwys cwnsela, therapi drama a therapi chwarae, staff bugeiliol a lles ymroddedig, ac ymyriadau gan gynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol (ELSA). Mae gweithgareddau cyfoethogi ac allgyrsiol yn cynnwys mynediad cynyddol at ddigwyddiadau chwaraeon a chelfyddydau (e.e. tenis, gwersi cerddoriaeth), tripiau ac ymweliadau preswyl. Mae ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned yn cynnwys cyrsiau addysg i oedolion, cymorth i deuluoedd a gweithdai i rieni. Mae mesurau mynediad a chydraddoldeb yn cynnwys cefnogaeth i gael mynediad at wisg ysgol, canllawiau adolygu, pecynnau hylendid, clybiau brecwast a chlybiau ar ôl yr ysgol, mynediad i fysiau mini i gynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau oddi ar y safle, a chynrychiolaeth gyfrannol mewn grwpiau arweinyddiaeth disgyblion / llais y dysgwr a gweithgareddau/clybiau ysgol ehangach.
  • Gweithredwyd yr archwiliad dwfn o’r llwybr ar gyfer codi cyrhaeddiad pobl ifanc ddifreintiedig fel fframwaith cyson ar gyfer cau’r bwlch cyrhaeddiad.  Atgyfnerthodd bwysigrwydd perchnogaeth arweinyddiaeth, cynllunio wedi’i dargedu, a gwerthuso cyson wrth gefnogi dysgwyr difreintiedig.  Roeddem yn falch bod canlyniadau disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim wedi gwella’n sylweddol mewn gwyddoniaeth, gyda’u gradd gyfartalog yn codi o draean, llwyddiant allweddol o’i gymharu â phatrymau cenedlaethol.
  • Rydym yn parhau i fonitro tensiynau cymunedol gyda chydweithwyr rhanbarthol, gan gynnwys paratoi digwyddiadau hyfforddi ac ymwybyddiaeth ac offer ymyrraeth gynnar ymarferol gydag awdurdodau lleol. Datblygwyd a chyflwynwyd ystod o hyfforddiant wedi’i dargedu’n rhanbarthol, gan gynnwys sesiynau dan arweiniad Cymorth i Ddioddefwyr ym mis Mawrth mewn ymateb i gasineb ar-lein yn targedu’r trydydd sector.

 

Q2: Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

 

Q3: Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Parhau i fonitro Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024–2028, gan gynnwys y gwaith sy’n cael ei ddatblygu gan yr is-grŵp.
  • Cwblhau’r cynllun peilot ar gyfer y canllawiau a’r templed Asesiad Effaith Integredig, gan gynnwys adborth gan ddefnyddwyr o bob cwr o’r awdurdod i sicrhau bod y fframwaith yn gadarn.
  • Parhau i fonitro bylchau cyflog a sicrhau bod ein harferion recriwtio yn galluogi gweithlu’r cyngor i adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
  • Datblygu ein Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig (CDLl 2), gan gynnwys dyraniadau safle-benodol a all ddiwallu’r angen heb ei ddiwallu am lety Sipsiwn a Theithwyr a pholisi i ganiatáu gwerthuso cynigion ar gyfer llety o’r fath wrth symud ymlaen ar safleoedd heb eu dyrannu (a fydd yn bennaf ar gyfer safleoedd preifat).  Bydd hyn yn cynnwys cynnal ymgynghoriad ar newidiadau â ffocws a wnaed mewn ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd, gan roi cyfle i wneud sylwadau i gefnogi neu wrthwynebu’r newidiadau penodol hyn yn unig.
ID: 14741, adolygwyd 02/03/2026