Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-25

Perfformiad Cydraddoldeb a Thlodi 2024-25

Daeth y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Nod cyffredinol y ddyletswydd yw sicrhau gwell canlyniadau i’r rheini sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol.

Er mwyn deall anghydraddoldebau o ran canlyniadau yn well a ble gallant gael yr effaith fwyaf ar leihau canlyniadau anghyfartal o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol, rydym yn cael mynediad at ystod o adroddiadau data cenedlaethol ac yn casglu tystiolaeth drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd. Darperir crynodeb o'r perfformiad, tystiolaeth i ategu hyn, a chamau gwella o hunanasesiad blynyddol y cyngor (2024-25) isod.

 

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Mae cyflawni Strategaeth Trechu Tlodi Sir Benfro, a gyhoeddwyd ddechrau 2024, yn parhau, dan arweiniad Gweithgor Tlodi ac Anghydraddoldebau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Mae’r is-grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd i oruchwylio cyflawniad camau gweithredu ac i gydweithio ar gyflawni prosiectau a ariennir gan grant.
  • Cynhaliwyd ail Uwchgynhadledd Tlodi Sir Benfro ym mis Ebrill 2025, gyda chanolbwyntio parhaus ar archwilio materion lleol a nodi atebion creadigol i frwydro yn erbyn tlodi yn Sir Benfro.  Cynhaliwyd gweithdai i annog y mynychwyr i ystyried pa gamau cadarnhaol y gellir eu cymryd i helpu i ddatrys problemau sy’n ymwneud â thlodi.
  • Yn dilyn Uwchgynhadledd Tlodi 2024, awgrymodd adborth fod prif negeseuon y digwyddiad yn taro’r galon yn galed. Nid oedd llawer o’r mynychwyr yn sylweddoli pa mor helaeth oedd tlodi yn Sir Benfro i ddechrau. Cymerodd uwchgynhadledd eleni ymagwedd fwy cytbwys, gan gyfleu’r neges, er nad oedd tlodi am ddiflannu, fod gwaith cadarnhaol a rhagweithiol y gellir ei wneud i gefnogi a helpu pobl.
  • Roedd uwchgynhadledd eleni yn cynnwys cyflwyniad ar y llwyfan LIFT (traciwr teuluoedd incwm isel) newydd.  Prynwyd y feddalwedd hon ddechrau 2025 ac mae’n defnyddio data o nifer o ffynonellau i nodi’r rhai nad ydynt efallai’n hawlio budd-daliadau y maent yn gymwys i’w cael, gan alluogi’r cyngor i gysylltu’n rhagweithiol â’r bobl hynny i’w cefnogi i wneud hawliad.  Mae’r ymgyrch gyntaf ar gyfer y llwyfan yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd.
  • Mae strategaeth gyfathrebu a chydweithio yn cael ei datblygu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ymgyrch llwyfan LIFT. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu ag aelodau etholedig a sicrhau aelodau’r cyhoedd bod y llythyrau y gallent eu derbyn am hyn yn ddilys.
  • Yn seiliedig ar gamau gweithredu o fewn y Strategaeth Trechu Tlodi, mae is-grŵp profiad bywyd hefyd yn cael ei ddatblygu sy’n cynnwys unigolion yr effeithir arnynt gan dlodi, i archwilio eu profiadau o gael mynediad at wasanaethau a systemau cymorth sydd ar gael.
  • Mae prosiect Hawliau Lles Pobl Sir Benfro wedi bod yn arbennig o lwyddiannus, gyda’r nod o wella cyllid a gwella dyfodol y rhai dan anfantais.  Mae’r prosiect wedi derbyn 506 o atgyfeiriadau, gyda £261,834 o enillion ariannol wedi’u creu i deuluoedd Sir Benfro (gyda theuluoedd yn elwa ar gyfartaledd o tua £3,000).  Mae’r prosiect hefyd wedi cefnogi teuluoedd gydag atgyfeiriadau i fanciau bwyd, talebau tanwydd, a chymorth i gael mynediad at y Gronfa Cymorth Dewisol.
  • Fe wnaethon ni gynyddu nifer y plant oed ysgol gynradd sy’n cael prydau ysgol am ddim o 68% i 73%.  Mae hyn yn hyrwyddo bwyta’n iach yn ogystal â mynd i’r afael â thlodi plant.
  • Mae’r cyfraddau tlodi plant (yn agor mewn tab newydd) diweddaraf wedi’u hadrodd ar-lein. Ar gyfer ardal etholaeth Canol a De Sir Benfro ar gyfer 2023-24, mae tlodi cymharol wedi cynyddu i 26%, i fyny o 24.3% yn 2022-23.  Mae hyn yn cymharu â ffigurau o 21.8% ar gyfer y DU a 24% ar gyfer Cymru. Er mai dim ond rhan fach o Sir Benfro sy'n dod o dan etholaeth seneddol Ceredigion Preseli, mae data tlodi cymharol ar gyfer yr ardal hon yn uwch, gyda chyfradd tlodi plant gymharol o 27.2%. Mae data ar gyfer ardaloedd bach yn dangos bod dros draean o blant mewn tlodi cymharol mewn 10 o 71 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is Sir Benfro a bod gan un Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is, Garth 2, gyfradd o 47.2%, sydd o fewn y 5% o gyfraddau uchaf ar gyfer Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn y DU. Gellir gweld cyfraddau ar gyfer pob Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is yn Sir Benfro (a gweddill Cymru a'r Deyrnas Unedig) drwy'r ddolen uchod. 

 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

 

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Adolygu’r Strategaeth Trechu Tlodi yn flynyddol i sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol ac yn gyfredol a bod profiadau bywyd pobl yn cael eu hadlewyrchu’n briodol.
  • Sefydlu’r is-grŵp profiad bywyd ac integreiddio argymhellion y grŵp i waith y Gweithgor Tlodi ac Anghydraddoldebau.
  • Myfyrio ar yr adborth o Uwchgynhadledd Tlodi 2025 cyn dechrau cynllunio ar gyfer yr uwchgynhadledd nesaf yn 2026 er mwyn sicrhau bod yr uwchgynhadledd yn diwallu anghenion y rhai sy’n gweithio i gefnogi’r rhai sydd mewn tlodi yn y sir.
  • Cryfhau aelodaeth y Grŵp Tlodi ymhellach drwy wahodd cynrychiolaeth o ysgolion i’r grŵp – yn aml, staff ysgolion yw’r cyntaf i weld sut mae tlodi’n effeithio ar blant a phobl ifanc yn ein cymunedau.
ID: 14742, adolygwyd 02/03/2026