CYSAG

Addoli ar y Cyd

  • Rhaid i ysgolion ddarparu cyfle i addoli ar y cyd bob dydd i bob disgybl sydd wedi'i gofrestru. 
  • Nid oes yna ofyniad cyfreithiol i ddarparu cyfle i addoli ar y cyd i blant o dan bump oed.
  • Dylai mwyafrif y gweithredoedd o addoli ar y cyd fod yn gyfan gwbl neu'n bennaf Gristnogol eu natur; mae hyn yn golygu y dylent adlewyrchu traddodiadau eang cred Gristnogol heb fod yn nodweddiadol o unrhyw enwad Cristnogol penodol. 
  • Gall y weithred o addoli ar y cyd ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod y diwrnod ysgol. 
  • Gall y cyfle i addoli ar y cyd gael ei ddarparu i ddisgyblion mewn grwpiau o unrhyw faint, er enghraifft dosbarth, grŵp blwyddyn, grŵp cyfnod neu gymuned yr ysgol gyfan. 
  • Dylai'r weithred o addoli ar y cyd gymryd i ystyriaeth gefndir teuluol, oedrannau ac addasrwydd y disgyblion dan sylw. 
  • Gall rhiant wneud cais i'w blentyn gael ei esgusodi rhag addoli ar y cyd, a rhaid i ysgolion gytuno i geisiadau o'r fath. Nid oes rhaid i'r rhieni roi rheswm. Rhaid i'r ysgol oruchwylio'r plant a esgusodir. Trwy gytundeb â'r rhieni, gall yr ysgol ddarparu trefniadau amgen ar gyfer addoli i un neu ragor o ddisgyblion a esgusodir, ond nid oes rhaid iddi wneud hynny. 
  • Dylai prosbectws yr ysgol gyfeirio at hawl rhieni i wneud cais i'w plentyn gael ei esgusodi rhag addoli ar y cyd a nodi'r trefniadau ar gyfer y disgyblion a esgusodir. 
  • Mae Bil Addysg ac Arolygiadau 2006 yn rhoi hawl i ddisgyblion yn y chweched dosbarth eu hesgusodi eu hunain rhag addoli ar y cyd. Daeth y ddeddfwriaeth i rym yng Nghymru ym mis Chwefror 2009. 
  • Mae gan athrawon yr hael i dynnu'n ôl o addoli ar y cyd. Fodd bynnag, rhaid i'r ysgol sicrhau bod cyfle i addoli ar y cyd yn dal i gael ei gynnig yn ddyddiol i bob plentyn
ID: 12009, adolygwyd 05/09/2024