CYSAG

Maes Llafur Cytunedig Sir Benfro ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Rhagymadrodd – Cyfarwyddwr Addysg

Mae’n bleser gennyf gyflwyno Maes Llafur Cytunedig Sir Benfro ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) i gefnogi datblygiad cwricwlwm plwraliaethol, beirniadol a gwrthrychol i bob ysgol. Yn ddiau, bydd CGM o ansawdd uchel yn chwarae rhan bwysig mewn gwireddu’r pedwar diben a gwn y bydd ysgolion yn ymwybodol o’u dyletswyddau yn unol â deddfwriaeth a hawliau dysgwyr a ddisgrifir yn y maes llafur hwn. 

Bydd angen i ni werthuso pa mor dda y mae’r maes llafur hwn yn cefnogi ysgolion i gyflawni’r disgwyliadau hyn, a’i addasu yn ôl yr angen. Bydd cymorth dysgu proffesiynol parhaus yn cael ei lywio gan farn ac awgrymiadau ysgolion. Gofynnaf fod ysgolion yn gwneud defnydd da o’r ystod o sianeli cyfathrebu sydd ar gael er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn llywio ein cynllunio a’n cymorth. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â Chyngor Ymgynghorol Sefydlog ar CGM  (CYSCGM) Sir Benfro sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol i fonitro ansawdd darpariaeth a safonau CGM o fewn y sir, a darparu cyngor ac arweiniad.

Gofynnaf i bob pennaeth ysgol gynnwys gwerthusiad byr yn eu hadroddiadau tymhorol i lywodraethwyr ar gynnydd eu hysgolion o ran CGM, gan gynnwys datgan a fyddai unrhyw gymorth ychwanegol yn ddefnyddiol. Bydd hyn yn galluogi CYSCGM i gynnal trosolwg o gynnydd a darparu’r lefel cymorth angenrheidiol. Bydd o ddefnydd mawr pe bai ysgolion yn gallu rhannu enghreifftiau o’u harfer cryfaf o ran CGM a’i effaith ar ddysgwyr, fel y gall CYSCGM arddangos y gwaith hwn a’i rannu gydag eraill er mwyn ysgogi meddwl. Rydym yn rhagweld adolygu’r maes llafur hwn yn 2023, yn dilyn adborth gan bob ysgol.

Edrychaf ymlaen at glywed am ystod amrywiol o brofiadau dysgu deinamig ac ystyrlon sy’n galluogi dysgwyr o bob oedran i ddeall ein byd yn well a’i wneud yn lle gwell fyth.

Steven Richards-Downes

Cyfarwyddwr Addysg

Rhagair gan cyscgm sir benfro
CGM o fewn y Cwricwlwm i Gymru
Gofynion cyfreithiol
Canllawiau cgm llywodraeth cymru
Cyfrifiad 2011
Cyd awduror maes llafur cytunedig
Nodau cgm
Canllawiau awgrymedig ar ddyrannu amser
Amcanion y maes llafur cytunedig
Addysgu a dysgu yn cgm

ID: 9312, adolygwyd 13/12/2022