Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28
Pam mae angen cynllun cydraddoldeb strategol ar Gyngor Sir Penfro?
Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) 2024-28 yn disgrifio sut rydym yn bwriadu parhau â'n hymrwymiad i gydraddoldeb a sut byddwn yn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
O fewn Deddf Cydraddoldeb 2010, mae gan gyrff cyhoeddus gyfrifoldeb ychwanegol i gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Amlinellir y rhain isod.
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Y Ddyletswydd Gyffredinol
Wrth wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau, rhaid i ni roi sylw dyledus i:
- Ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd gan y Ddeddf.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu (ceir esboniad o nodweddion gwarchodedig yn nes ymlaen yn yr adroddiad hwn).
- Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu. Wrth feddwl am sut i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu, mae angen i ni hefyd:
- Ddileu neu leihau anfanteision a ddioddefir gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac sy’n gysylltiedig â’r nodwedd honno.
- Diwallu anghenion pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol lle mae’r rhain yn wahanol i anghenion pobl nad ydynt yn ei rhannu.
- Annog pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill lle mae eu cyfranogiad yn anghymesur o isel. Hefyd, rhaid i ni feddwl yn benodol am sut y bydd hyn yn mynd i’r afael â rhagfarn ac yn hybu dealltwriaeth.
Y Dyletswyddau Penodol
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn darparu pŵer i wneud rheoliadau sy’n gosod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus i gefnogi cyflawni’r ddyletswydd gyffredinol yn well; gelwir y rhain yn Ddyletswyddau Cydraddoldeb Penodol y Sector Cyhoeddus ac maent yn wahanol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r Dyletswyddau Penodol yn sail i’r Ddyletswydd Gyffredinol ac fe’u datblygwyd o amgylch pedair prif egwyddor:
- Defnyddio tystiolaeth
- Ymgynghori a Chynnwys
- Tryloywder
- Arweinyddiaeth
Cyhoeddwyd rheoliadau gan Lywodraeth Cymru a gyflwynodd y Dyletswyddau Penodol i Gymru ym mis Mawrth 2011, ac mae’r rhain yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r Cyngor eu cymryd er mwyn cydymffurfio, ac yn cynnwys y meysydd canlynol:
- Gosod Amcanion Cydraddoldeb a chyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Sicrhau ei fod yn cynnwys pobl sydd â diddordeb yn y ffordd y mae penderfyniadau’r Cyngor yn effeithio arnynt
- Casglu a chyhoeddi gwybodaeth sy’n berthnasol i gydymffurfedd â’r Ddyletswydd Gyffredinol
- Cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb a chyhoeddi’r canlyniadau os nodir effaith sylweddol ar y Cyngor
- Cyhoeddi gwybodaeth monitro cyflogaeth yn flynyddol
- Hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Ddyletswydd Gyffredinol ymhlith ei weithwyr a defnyddio ei weithdrefnau asesu perfformiad i nodi a mynd i’r afael ag anghenion hyfforddiant ei weithwyr mewn perthynas â’r Dyletswyddau Cyffredinol
- Gosod amcan cydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau lle mae gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yn cael ei nodi
- Meddwl am gynnwys amodau sy’n berthnasol i’r Ddyletswydd Gyffredinol yn ei brosesau caffael
Pwy sy'n cael eu gwarchod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?
Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd ei nodwedd warchodedig. Dyma’r term a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 i nodi’r mathau o bethau sy’n effeithio ar y ffordd y mae pobl yn cael eu trin ac sy’n gallu golygu y gall pobl brofi gwahaniaethu. Mae’r gyfraith wedi’i llunio i’w gwarchod. Dyma’r nodweddion gwarchodedig:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd, cred neu ddiffyg cred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Strategaeth ar gyfer y Gymraeg
Nid ydym wedi cyfeirio at y Gymraeg o fewn y cynllun hwn, na'r cynllun blaenorol. Roedd yn ofynnol i Gyngor Sir Penfro gyhoeddi ei Strategaeth gyntaf ar y Gymraeg yn 2016, a oedd yn rhedeg tan 2021. Mae ein Strategaeth 5 Mlynedd gyfredol 2021-2026 yn nodi sut y byddwn yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach yn Sir Benfro. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir, a chyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r iaith. Mae'r strategaeth a'r adroddiadau blynyddol ar gael ar ein gwefan.
Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol (Cymru) 2015
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (yn agor mewn tab newydd) yn ei holl wasanaethau a gweithgareddau.
Mae’r Ddeddf yn rhoi egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith, sy’n golygu bod rhaid i ni ‘weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau’.
Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar y Cyngor fel corff cyhoeddus i gyfrannu i’r eithaf at gyrraedd y saith nod Llesiant cenedlaethol. Fel Cyngor, mae angen i ni ymgorffori'r nodau yn ein holl waith a sicrhau, pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau, ein bod yn ystyried yr effaith y gallent ei chael ar bobl sy'n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol.
Er ei bod yn glir bod rhai nodau Llesiant yn ymwneud yn benodol â chydraddoldeb, mae’n bwysig cydnabod bod gan amcanion cydraddoldeb, sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn a’u cynlluniau gweithredu cysylltiedig, rôl arwyddocaol ar draws yr holl nodau Llesiant; er enghraifft, bydd camau i wella cyflogaeth ymhlith pobl anabl yn cyfrannu nid yn unig at ‘Gymru sy’n fwy cyfartal’, ond hefyd at ‘Gymru iachach’, ‘Cymru lewyrchus’ a ‘Chymru o gymunedau cydlynus’.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol hefyd yn gofyn i wasanaethau cyhoeddus unigol gymhwyso pum ffordd o weithio, sydd wedi’u mabwysiadu gennym wrth ddatblygu’r cynllun hwn.
- Hirdymor: Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion hirdymor hefyd.
- Atal: Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.
- Integreiddio: Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar eu hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
- Cydweithio: Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant.
- Cynnwys: Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae’r corff yn ei gwasanaethu.