Eich Diogelwch Personol
Atal Cwympiadau
Mae llawer o bobl yn cael eu hanafu bob blwyddyn trwy gwympo yn eu cartrefi eu hunain ac mae’r risg yn cynyddu wrth i chi heneiddio, ond mae ofn cwympo yn peri pryder mawr i rai pobl. Fodd bynnag, gallwch gymryd rhai camau syml i leihau eich risg o gwympo yn eich cartref.
Cael gwared ar beryglon baglu
- Tynnu rygiau neu sicrhau bod cefn di-lithro neu dâp arnynt
- Tapiwch ymylon carpedi rhydd i lawr lle byddwch yn cerdded, neu gosodwch stripiau ar drothwyon drysau
- Sicrhewch nad oes gwifrau neu geblau trydanol yn llusgo lle byddwch yn cerdded
- Trefnwch y celfi er mwyn sicrhau na fyddant yn eich rhwystro pan fyddwch yn cerdded
- Cadwch yr ardaloedd lle byddwch yn cerdded yn rhydd rhag llanast, yn enwedig grisiau
Goleuadau
- Sicrhewch fod digon o olau yn eich cartref a bod y bylbiau’n gweithio ac yn ddigon llachar
- Trowch y goleuadau ymlaen yn syth pan fydd hi’n dechrau tywyllu
- Dylech gael golau y gallwch ei droi ymlaen yn y gwely
- Os byddwch yn defnyddio’r tŷ bach gyda’r nos, rhowch olau’r landin ymlaen neu osod golau sy’n ymateb i symudiadau
Symud yn ddiogel
- Gosodwch reiliau llaw yn yr ystafell ymolchi, ger y tŷ bach, wrth y grisiau neu ar hyd coridorau
- Defnyddiwch y rheiliau llaw wrth fynd i fyny neu i lawr y grisiau, a dylech ystyried gosod ail reilen
- Gallwch osgoi pendro trwy godi’n araf os ydych chi wedi bod yn eistedd neu’n gorwedd am amser hir
- Cymerwch amser – peidiwch â brysio i ateb y drws neu’r ffôn, na throi’n gyflym
- Defnyddiwch gymorth cerdded sy’n briodol ar gyfer eich anghenion
Dillad
- Gwiriwch fod eich sliperi neu eich esgidiau’n eich ffitio’n iawn
- Sicrhewch nad yw eich dillad nos yn agos at eich traed
- Gwisgwch ddillad sy’n hawdd i’w gwisgo a’u diosg. Eisteddwch wrth ymwisgo neu ddadwisgo
- Defnyddiwch gymhorthion sy’n eich atal rhag plygu, fel cymorth sanau neu gymorth esgidiau â handlen hir
Meddyliwch am eich dulliau storio
- Cadwch eitemau yr ydych yn eu defnyddio’n aml, fel potiau a phadellau neu ddillad, mewn cypyrddau neu ar silffoedd sy’n hawdd eu cyrraedd heb blygu neu ymestyn
- Os oes rhaid i chi estyn rhywbeth uchel, defnyddiwch ysgol fach gadarn – gyda handlen, yn ddelfrydol – a pheidiwch â sefyll ar gadair
Golwg
- Dylech brofi eich llygaid yn rheolaidd
- Cofiwch wisgo eich sbectol
- Os oes gennych chi wahanol barau am wahanol weithgareddau, cofiwch eu newid nhw pan fydd angen
- Byddwch yn ymwybodol bod sbectol amrywffocal yn anffurfio pellteroedd
Gofalwch am eich traed
- Torrwch ewinedd eich traed yn aml a dylech ymweld â chiropodydd os oes angen
- Gwisgwch esgidiau sy’n eich ffitio’n dda ac sy’n cynnal eich troed
- Mae gan Age UK wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn ag edrych ar ôl eich traed (yn agor mewn tab newydd)
Gwnewch ymarfer corff
- Mae ymarfer corff ysgafn rheolaidd yn helpu gyda chryfder esgyrn a chyhyrau a chydbwysedd, ac mae’r rhain yn atal cwympiadau
- Gofynnwch i’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall a all fod yn eich cynorthwyo p’un a fyddant yn ystyried eich atgyfeirio i’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (yn agor mewn tab newydd)
Iechyd meddygol
- Dylai eich meddyg teulu neu fferyllydd wirio eich meddyginiaethau yn rheolaidd
Rhagor o wybodaeth a chymorth
- Gallwch lenwi Hunan-atgyfeiriad Ffisiotherapi Cymunedol y GIG (yn agor mewn tab newydd) i wneud cais am asesiad o’ch symudedd neu i drafod unrhyw bryderon am gwympo sydd gennych chi.
- Os ydych chi’n byw yn eich cartref eich hun neu’n rhentu’n breifat, cysylltwch â Care & Repair (yn agor mewn tab newydd) i wneud cais am ‘Wiriad Diogelwch Cartref’
- Ystyriwch gael Larwm Cymunedol
ID: 2035, adolygwyd 26/04/2024