Eich Diogelwch Personol

Cyfarpar i wneud eich cartref yn ddiogelach

Nod y rhan hon yw rhoi gwybodaeth am offer a all eich helpu i aros yn ddiogel yn eich cartref eich hun.

Carbon Monocsid

Cynhyrchir CO trwy losgi nwy naturiol neu nwy naturiol hylifedig (LPG) yn annigonol. Mae hyn yn digwydd pan fydd dyfais nwy wedi’i ffitio’n anghywir, wedi’i hatgyweirio’n wael neu ei chynnal a’i chadw’n wael. Gall ddigwydd hefyd os bydd y ffliwiau, simneiau neu’r fentiau wedi’u rhwystro.

Mae larymau CO modern yn debyg o ran cynllun i larymau mwg (nad ydynt yn synhwyro CO) a gellir eu prynu o oddeutu £15 mewn nifer fawr o siopau adwerthu mawrion gan gynnwys siopau DIY ac archfarchnadoedd.

Os na all rhywun sy’n byw adref ymateb i larwm monitro CO, gall larymau CO clyfar anfon rhybudd at unrhyw un i ffwrdd o’r cartref ac mae’r rhain ar gael i’w prynu’n breifat, neu gall Gwasanaeth Larwm Cymunedol Sir Benfro ddarparu larymau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth monitro ar ôl mynd trwy asesiad o anghenion.

Gellir canfod rhagor o gyngor am CO yn y Gofrestr Diogelwch Nwy (yn agor mewn tab newydd). Cewch hefyd ofyn am Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref (yn agor mewn tab newydd) o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Diogelwch Tân

Cynigia Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref (yn agor mewn tab newydd) am ddim i’r rhai sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain neu gartrefi a rentir yn breifat er mwyn lleihau’r risg o dân ac i fod yn ymwybodol o unrhyw bobl ddiamddiffyn yn y cartref. Gallant ffitio offer ar eu pen eu hun am ddim fel larymau mwg a synwyryddion gwres neu, hyd yn oed glustogau sy’n dirgrynu i bobl drwm eu clyw. Gweithiant yn agos gyda Gwasanaeth Larwm Cymunedol Sir Benfro i ffitio offer sy’n gysylltiedig â gwasanaeth monitro os na all rhywun ymateb i sefyllfa o argyfwng.

Mae synwyryddion mwg clyfar ar gael i’w prynu’n breifat a gallant anfon rhybudd at unrhyw un sydd i ffwrdd o’r cartref – sy’n hynod ddefnyddiol i rywun sy’n methu ag ymateb i argyfwng yn y cartref.

Diogelwch Nwy

Cwcers

Mae diogelwch yn y gegin yn ofid mynych, yn enwedig i’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain ac/neu sydd â nam gwybyddol. Hwyrach yr hoffech ystyried buddsoddi mewn cwcer nwy modern gyda Dyfais Goruchwylio Fflamau integredig a fydd yn edrych i sicrhau bod fflam mewn unrhyw losgwr sydd wedi’i danio. Os bydd y fflam wedi diffodd am unrhyw reswm, bydd y ddyfais yn cau’r cyflenwad nwy’n awtomatig i’r llosgwr dan sylw, gan atal nwy rhag cronni.

Cloi falfiau cwcers

Mae hyn yn addas i bobl sy’n methu gweithio’u cwcers nwy yn ddiogel mwyach, fel pobl sy’n byw gyda chlefyd Alzheimer neu Ddementia a allai fod mewn perygl o niweidio’u hunain a’u cartref trwy adael nwy ymlaen heb fflam neu drwy anghofio diffodd y pentan. Mae Cloi Falfiau Cwcers yn galluogi ar gyfer defnyddio’r cwcer dan oruchwyliaeth, a’u cloi yn y safle diffodd pan fydd deilydd yr allwedd yn gadael y tŷ neu’r ystafell, a fydd yn golygu bod eu teulu neu ofalwr yn dawel eu meddwl na fydd unrhyw niwed yn dod i’w rhan pan fyddant ar eu pen eu hunain. Mae’r falfiau hyn wrthi’n cael eu cyflenwi’n rhad ac am ddim i Gwsmeriaid Blaenoriaeth Wales & West Utilities (yn agor mewn tab newydd)

Synwyryddion Nwy

Mae Synwyryddion Nwy y Cartref ar gael ar raddfa eang ar y farchnad ac yn cynnig ffordd ddarbodus o gyflwyno rhybudd (heb yr angen i gael falf cau nwy) os bydd dyfais yn gollwng nwy.

Falfiau Cau Nwy

Mae’r risg o anghofio tanio cylch nwy neu dân nwy yn cynyddu wrth i bobl gael anawsterau gyda’u cof. Mae Falfiau Cau Nwy yn torri’r cyflenwad nwy o gael eu sbarduno gan synhwyrydd nwy wedi’i gysylltu â blwch rheoli teleofal. Caiff swîts sy’n cael ei weithio trwy allwedd ar y blwch rheoli ei ddefnyddio i aildanio’r cyflenwad nwy ar ôl i’r rheswm am y gollyngiad gael ei ymchwilio. Bydd y falfiau cau hyn yn cael eu ffitio a’u hailosod gan ffitwyr Gas Safe cofrestredig yn unig ac ni chânt eu darparu gan Gyngor Sir Penfro. 

Blancedi Trydan

Mae blancedi trydan sydd wedi torri neu sydd â nam yn achosi 5,000 o danau y flwyddyn yn y Deyrnas Unedig. Gall y Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyflawni Archwiliad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref (yn agor mewn tab newydd) o flancedi trydan.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch blancedi trydan, cyfeiriwch at y cyngor sydd yn Electrical Safety First (yn agor mewn tab newydd).

 

ID: 2033, adolygwyd 26/04/2024