Ein Cynllun Gweithredu

Atodiad 1 - Cynllun Gweithredu

Ôl Troed Carbon - Adeiladau Annomestig

 

Cyf: NZC-01

  • Cam Gweithredu: Cwblhau'r gwaith o gyflawni prosiectau Cam 1 a 2 Re:fit Cymru (Effeithlonrwydd Ynni) i gyflawni arbedion ynni / carbon.
  • Swyddog Arweiniol: Pennaeth Seilwaith
  • Erbyn Pryd: Ebrill 2021

 

Cyf: NZC-02

  • Cam Gweithredu: Cwblhau gwaith uwchraddio goleuadau LED mewn naw ysgol bellach sydd wedi’i ariannu gan gyllid Llywodraeth Cymru i glirio’r ôl-groniad o waith cynnal a chadw ym myd addysg.
  • Swyddog Arweiniol: Pennaeth Seilwaith
  • Erbyn Pryd: Ebrill 2021

 

Cyf: NZC-03

  • Cam Gweithredu: Datblygu camau pellach o brosiect Re:fit Cymru (Effeithlonrwydd Ynni), neu debyg (e.e. defnyddio cronfeydd ôl-groniad cynnal a chadw Llywodraeth Cymru ar gyfer effeithlonrwydd ynni mewn ysgolion), i gyflawni arbedion ynni / carbon cyflymach. 
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
  • Erbyn Pryd: Yn parhau

 

Cyf: NZC-04

  • Cam Gweithredu: Ymgorffori geiriad mewn briffiau dylunio adeiladau newydd i ddatgan bod Cyngor Sir Penfro yn mynnu bod adeiladau newydd yn garbon niwtral / carbon sero net wrth ddefnyddio ynni – ac yn garbon bositif yn ddelfrydol, gan eu bod yn cynhyrchu mwy o ynni nag y gallant ei ddefnyddio.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni, yr Uwch-bensaer ac uwch-beirianwyr
  • Erbyn Pryd: Yn parhau

 

Cyf: NZC-05

  • Cam Gweithredu: Ystyried y safon ‘gwneuthuriad yn gyntaf’ neu ‘Passivhaus’, lle bo'n briodol, mewn prosiectau adeiladu o’r newydd.
  • Swyddog Arweiniol: Uwch-bensaer
  • Erbyn Pryd: Yn parhau

 

Cyf: NZC-06

  • Cam Gweithredu: Adolygu a diwygio manylebau a briffiau dylunio yn barhaus i adlewyrchu technolegau newydd a chyfarpar effeithlon o ran ynni.
  • Swyddog Arweiniol: Uwch-bensaer ac uwch-beirianwyr
  • Erbyn Pryd: Yn parhau

 

Cyf: NZC-07

  • Cam Gweithredu: Ymestyn technoleg ‘glyfar’ ac is-fesuryddion i sicrhau bod data defnydd ynni yn cael ei gasglu'n gywir ac yn amserol. Ystyried gwneud cais am fesuryddion dŵr clyfar.
  • Swyddog Arweiniol: Amrywiol
  • Erbyn Pryd: Yn parhau

 

Cyf: NZC-08

  • Cam Gweithredu: Datblygu targed lleihau carbon priodol ar gyfer adeiladau annomestig y cyngor fel rhan o adolygiad blynyddol o'r cynllun gweithredu.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
  • Erbyn Pryd: Ebrill 2021

 

Ôl Troed Carbon - Goleuadau Stryd

Cyf: NZC - 09

  • Cam Gweithredu: Datblygu targed lleihau carbon priodol ar gyfer goleuadau stryd y cyngor fel rhan o adolygiad blynyddol y cynllun gweithredu.
  • Swyddog Arweiniol: Peiriannydd Goleuadau Stryd
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 10

  • Cam Gweithredu: Uwchraddio 11,231 o oleuadau stryd pŵer uchel sy'n weddill i oleuadau LED rhwng 2020 a 2022 gan ddefnyddio cyllid Salix a CSP y cytunwyd arno.
  • Swyddog Arweiniol: Peiriannydd Goleuadau Stryd
  • Erbyn Pryd: Rhagfyr 2022

 

Cyf: NCZ - 11

  • Cam Gweithredu: Datgomisiynu goleuadau stryd nad ydynt bellach yn cydymffurfio os na all y cyngor eu hatgyweirio'n economaidd – h.y. mae atgyweirio'n costio mwy na lamp newydd.
  • Swyddog Arweiniol: Peiriannydd Goleuadau Stryd
  • Erbyn Pryd: Adolygiad blynyddol cyntaf Mawrth 2021

 

Ôl Troed Carbon - Millitiroedd Fflyd

Cyf: NZC - 12

  • Cam Gweithredu: Cynnal adolygiad i nodi'r cerbydau tanwydd mwyaf priodol ar gyfer pob un o wasanaethau'r cyngor ac i nodi cyfleoedd ar gyfer cyflwyno cerbydau allyriadau isel iawn (ULEVs).
  • Swyddog Arweiniol: Pennaeth Seilwaith a Rheolwr Fflyd
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 13

  • Cam Gweithredu: Caffael system adrodd telemateg newydd, gyfredol a’i chraffu i ddarparu dadansoddiad manylach ar allyriadau CO2;  nodi cyfleoedd i gefnogi’r gwaith o leihau allyriadau yn y fflyd gyfan.
  • Swyddog Arweiniol: Pennaeth Seilwaith a Rheolwr Fflyd
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 14

  • Cam Gweithredu: Datblygu targed lleihau carbon priodol ar gyfer milltiroedd fflyd y cyngor fel rhan o adolygiad blynyddol o'r cynllun gweithredu.
  • Swyddog Arweiniol: Pennaeth Seilwaith a Rheolwr Fflyd
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Ôl Troed Carbon - Milltiroedd Busnes

Cyf: NZC - 15

  • Cam gweithredu: Paratoi Cynllun Teithio Gwyrdd, gan gynnwys cynnal adolygiad o geir cronfa'r cyngor i nodi cyfleoedd ar gyfer cyflwyno cerbydau allyriadau isel iawn (ULEVs).
  • Swyddog arweiniol: Pennaeth Seilwaith
  • Erbyn pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 16

  • Cam gweithredu: Parhau i ehangu'r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan sy'n eiddo i'r cyngor.
  • Swyddog arweiniol: Pennaeth Seilwaith
  • Erbyn pryd: Adolygiad blynyddol cyntaf Mawrth 2021

 

Cyf: NCZ - 17

  • Cam gweithredu: Datblygu targed lleihau carbon priodol ar gyfer milltiroedd busnes y cyngor fel rhan o adolygiad blynyddol o'r cynllun gweithredu.
  • Swyddog arweiniol: Pennaeth Seilwaith
  • Erbyn pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NCZ - 18

  • Cam gweithredu: Casglu data i gefnogi'r achos busnes a'r galw am gerbydau HFCEV ac i ddangos pa mor ddefnyddiol ydynt. 
  • Swyddog arweiniol: Pennaeth Seilwaith / Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
  • Erbyn pryd: Mawrth 2022

 

Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy/Cyfrannu at Niwtraleiddio Carbon

Cyf: NZC - 19

  • Cam Gweithredu: Gweithio gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i archwilio a darparu cyfleoedd ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr.
  • Swyddog arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
  • Erbyn pryd: Yn parhau

 

Cyf: NZC - 20

  • Cam Gweithredu: Gweithio gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i gefnogi mwy o gaffael ynni o brosiectau ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol.
  • Swyddog arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
  • Erbyn pryd: Yn parhau

 

Cyf: NZC - 21

  • Cam Gweithredu: Archwilio dichonoldeb plannu coed a mesurau eraill o’r fath (megis cynyddu’r storfa garbon mewn priddoedd a biomas), a nodi tir a reolir gan y cyngor ar gyfer hynny, er mwyn cyfrannu at niwtraleiddio carbon.
  • Swyddog arweiniol: Rheolwr Asedau Strategol
  • Erbyn pryd: Yn parhau

 

Cyf: NZC - 22

  • Cam Gweithredu: Datblygu targed priodol ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy fel rhan o’r adolygiad blynyddol o’r cynllun gweithredu.
  • Swyddog arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni / Pennaeth Seilwaith
  • Erbyn pryd: Mawrth 2021/20

 

Gweithio gyda Llywodraeth Cymru

Cyf: NZC - 23

  • Cam Gweithredu: Cydweithredu â Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill sy’n ‘fabwysiadwyr cynnar’ er mwyn cyflwyno adroddiadau carbon fel rhan o’r uchelgais i gyflawni sector cyhoeddus sy’n garbon niwtral yng Nghymru erbyn 2030.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
  • Erbyn Pryd: Mehefin 2021

 

Cyf: NZC - 24

  • Cam Gweithredu: Parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ym mhob maes datgarboneiddio.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
  • Erbyn Pryd: Yn parhau

 

Gweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro/Partneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Cyf: NZC - 25

  • Cam Gweithredu: Gweithio gyda Gweithgor Newid Hinsawdd a Risg Amgylcheddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro i gynnal Asesiad Newid Hinsawdd a Risg Amgylcheddol ar gyfer Sir Benfro.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaethau
  • Erbyn Pryd: Yn parhau

 

Cyf: NZC - 26

  • Cam Gweithredu: Gweithio gyda phartneriaid Dinas-ranbarth Bae Abertawe i gyflawni prosiectau Ardal Forol Doc Penfro a Chartrefi yn Orsafoedd Pŵer.
  • Swyddog Arweiniol: Pennaeth Adfywio
  • Erbyn Pryd: Yn parhau

 

Cydweithio ag Arbenigwyr o'r Sector Preifat, y Trydydd Sector a'r Sector Cymunedol

Cyf: NZC - 27

  • Cam Gweithredu: Gweithio gyda phartneriaid sector preifat y cyngor a thirfeddianwyr mawr i archwilio dulliau arloesol o leihau allyriadau carbon.
  • Swyddog Arweiniol: Amrywiol
  • Erbyn Pryd: Yn parhau

 

Cyf: NZC - 28

  • Cam Gweithredu: Cydweithredu â sefydliadau trydydd sector a chymunedol Sir Benfro i archwilio cyfleoedd i leihau carbon ac i hyrwyddo nodau ynni adnewyddadwy.
  • Swyddog Arweiniol: Amrywiol
  • Erbyn Pryd: Yn parhau

 

Integreiddio, Cyfathrebu ac Ymddygiadau

Cyf: NZC - 29

  • Cam Gweithredu: Cynnal arolwg staff i nodi sut y gall unigolion gyfrannu at ymrwymiad CSP i ddod yn awdurdod lleol carbon sero net. Bydd y cyngor yn ystyried sut i ymgysylltu â staff sy'n gweithio y tu allan i'w swyddfeydd sefydlog.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Marchnata
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 30

  • Cam Gweithredu: Ystyried ychwanegu gofyniad mewn adolygiadau perfformiad staff i bob aelod o staff wirfoddoli i gymryd cam bob blwyddyn i gyfrannu at ddatgarboneiddio – boed yn eu hamgylchedd personol neu yn y gwaith.
  • Swyddog Arweiniol: Pennaeth Adnoddau Dynol
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 31

  • Cam Gweithredu: Ystyried cymell mathau mwy cynaliadwy o deithio pan fydd staff yn cymryd gwyliau byr – er enghraifft, cytuno i ddarparu un diwrnod o wyliau blynyddol ychwanegol pe bai staff yn dewis mynd ar y trên i Ewrop yn hytrach na hedfan, neu pan fydd staff yn dewis mynd ar wyliau yn y DU yn hytrach na mynd ar awyren dramor.
  • Swyddog Arweiniol: Pennaeth Adnoddau Dynol
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 32

  • Cam Gweithredu: Defnyddio fforwm y Caffi Sgwrsio ar gyfer trafodaeth staff ar waith carbon sero net 2030 a’r cynllun gweithredu.
  • Swyddog Arweiniol: Tîm Trawsnewid a TG
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 33

  • Cam Gweithredu: Atgyfnerthu arferion gwaith callach i greu mwy o arbedion effeithlonrwydd datgarboneiddio – e.e. defnydd callach o weithleoedd, gweithio gartref a llai o filltiroedd cymudo. Mae’n rhaid i lesiant ac amodau gwaith gweithwyr fod yn hollbwysig yn yr ystyriaeth hon – gan gynnwys rhoi dodrefn swyddfa addas ac offer effeithlon o ran ynni i staff, gwneud lwfans ar gyfer costau ynni uwch gweithio gartref, a chymell staff i uwchraddio i rhyngrwyd band eang cyflym iawn lle mae ar gael.
  • Swyddog Arweiniol: Tîm Trawsnewid a TG
  • Erbyn Pryd: Mawtth 2021

 

Cyf: NZC - 34

  • Cam Gweithredu: Dylid ystyried parhau i ymgysylltu â thrigolion Sir Benfro, o bosibl drwy system EngagementHQ ar-lein newydd y cyngor.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Marchnata
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 35

  • Cam Gweithredu: Sicrhau bod Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy yn cyd-fynd â’r amcan yn ‘Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel’ LlC ar gyfer ‘gweithio gyda phartneriaid i gynnwys mwy am gynaliadwyedd a datgarboneiddio yn y cwricwlwm newydd’.
  • Swyddog Arweiniol: Swyddog Ysgolion Cynaliadwy
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 36

  • Cam Gweithredu: Cynnal Asesiad Effaith Integredig ar y cynigion sero net 2030 yng nghynllun gweithredu’r cyngor.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaethau
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 37

  • Cam Gweithredu: Adolygu'r cynllun gweithredu yn dilyn cyhoeddi canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer adrodd ar garbon.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 38

  • Cam Gweithredu: Cyhoeddi adroddiadau perfformiad blynyddol ar gynnydd tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
  • Erbyn Pryd: Bob blwyddyn

 

ID: 11719, adolygwyd 25/07/2024