Ein Cynllun Gweithredu
Cydweithio ag Arbenigwyr o'r Sector Preifat, y Trydydd Sector a’r Sector Cymunedol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (yn agor mewn tab newydd) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau; i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd; ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi pum ffordd allweddol o weithio ar waith wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol:
(1) edrych i'r tymor hir;
(2) mabwysiadu dull integredig;
(3) cynnwys amrywiaeth o’r boblogaeth;
(4) gweithio gydag eraill mewn ffordd gydweithredol;
(5) deall yr achosion sydd wrth wraidd problemau i'w hatal rhag digwydd eto.
Mae'r cyngor yn cydweithio'n agos ag ystod eang o bartneriaid preifat, trydydd sector a chymuned. Mae'r rhestrau canlynol (nad ydynt yn hollgynhwysfawr) yn rhoi enghreifftiau o rai o'r sefydliadau sector preifat a thrydydd sector y mae'n bwriadu gweithio gyda nhw er mwyn cyflawni'r cynllun gweithredu hwn.
Dan arweiniad Cyngor Sir Penfro, mae Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni (yn agor mewn tab newydd) (MH:EK) yn brosiect dwy flynedd gwerth £4.5 miliwn, a fydd yn cael ei gwblhau yn 2022, i archwilio sut olwg allai fod ar system ynni leol ‘glyfar’ wedi’i datgarboneiddio ar gyfer Aberdaugleddau, Penfro a Doc Penfro. Partneriaid y prosiect yw:
- CSP;
- Porthladd Aberdaugleddau;
- Offshore Renewable Energy Catapult;
- Riversimple;
- Wales & West Utilities;
- Arup;
- Energy Systems Catapult.
Cefnogwyr a chydweithwyr y prosiect yw:
- RWE Generation UK plc;
- Simply Blue Energy;
- Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru;
- Community Energy Pembrokeshire.
Bydd y prosiect yn archwilio potensial hydrogen fel rhan o ddull aml-fector o ddatgarboneiddio. Yn ganolog i’r prosiect, ac i gyflawni sero net, mae ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned a diwydiant lleol, gan ddarparu mewnwelediad a chyfleoedd ar gyfer twf. Uchelgais CSP yw casglu mewnwelediad manwl i’r system ynni gyfan o amgylch Aberdaugleddau er mwyn nodi a dylunio system ynni leol a chlyfar ar gyfer y dyfodol yn seiliedig ar ddull gwirioneddol aml-fector (gwres, trydan, trafnidiaeth) a phensaernïaeth systemau ynni cynhwysfawr. Mae’r prosiect yn amlochrog, a bydd y tîm yn ymchwilio i’r meysydd canlynol:
- ynni adnewyddadwy lleol – gan gynnwys solar, ynni gwynt ar y tir, ynni gwynt ar y môr yn y dyfodol, a biomas ar gyfer pontio i nwy wedi’i ddatgarboneiddio;
- marchnadoedd hadau amrywiol ar gyfer hydrogen ar draws adeiladau, trafnidiaeth a diwydiant;
- treialon defnyddwyr o gerbydau celloedd tanwydd;
- systemau gwresogi hybrid sy’n barod ar gyfer hydrogen.
Mae'r prosiect yn addo arddangos manteision pellgyrhaeddol ynni carbon isel. Os bydd yn llwyddiannus, mae ganddo’r potensial i arwain y ffordd a dod y cyntaf o lawer o Systemau Ynni Lleol Clyfar sy’n cefnogi’r DU a’i chymunedau lleol i gyrraedd targed sero net y llywodraeth mewn perthynas ag allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Mae MH:EK yn un o'r prosiectau ‘dyluniad manwl’ a ddewiswyd o fewn rhaglen waith ‘Prospering from the Energy Revolution’ (PfER) a ariennir gan Innovate UK fel rhan o'i Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol (ISCF).
Mae'r cyngor yn gydweithredwr heb ei ariannu o fewn prosiect map trywydd Clwstwr Diwydiannol De Cymru (yn agor mewn tab newydd) (SWIC), a fydd yn ceisio nodi'r opsiynau gorau ar gyfer datgarboneiddio diwydiant yn gosteffeithiol yn Ne Cymru – gan gynnwys y clwstwr diwydiannol ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau. Bydd y prosiect yn edrych ar y seilwaith sydd ei angen ar gyfer datblygu'r economi hydrogen; ar gyfer dal, defnyddio a storio carbon ar raddfa fawr (CCUS) a thrafnidiaeth; yn ogystal â chyfleoedd strategol ar y safle sy'n benodol i bob diwydiant. Y partneriaid allweddol ar gyfer cynnig £1.5 miliwn Cam 2 fydd diwydiant, darparwyr seilwaith, cynhyrchwyr pŵer a chynghorau – sef cyrff megis:
- Wales and West Utilities;
- National Grid Electricity Transmission plc;
- Western Power Distribution;
- Calon Energy;
- RWE Generation UK plc;
- Cyngor Sir Penfro;
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Mae partneriaid arfaethedig eraill yn cynnwys:
- CR Plus Limited
- Costain Limited
- Progressive Energy Limited
- Siemens plc
- ITM power
- Prifysgol De Cymru
- Environmental Resources Management Limited
- Capital Law Limited
- Tata Steel
- Valero Energy Limited
- Vale Europe Limited
- Celsa Manufacturing (UK) Limited
- Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau (MHPA)
- Tarmac Trading Limited
- Cydffederasiwn Diwydiannau Papur
- Associated British Ports
- Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU)
- BOC
- Rockwool Limited
- Calor
Mae CSP wedi sefydlu cydberthnasau gwaith gyda grwpiau preifat a chymunedol lleol, a gyda grwpiau rhanbarthol a chenedlaethol sy’n gweithredu’n lleol, ym maes ynni glân a chynaliadwyedd – gan gynnwys y canlynol:
- Community Energy Pembrokeshire (CEP (yn agor mewn tab newydd))
- Transition Bro Gwaun (TBG (yn agor mewn tab newydd))
- Rhwydwaith Amgylcheddol Sir Benfro (TENP)
- Planed (yn agor mewn tab newydd)
- Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF (yn agor mewn tab newydd))
- Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) (yn agor mewn tab newydd)
- Ynni Sir Gar (yn agor mewn tab newydd)
- Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian (CARE (yn agor mewn tab newydd))
- Egn (yn agor mewn tab newydd)i Co-op
- Awel Aman Tawe (yn agor mewn tab newydd)
- Ynni Môr Cymru (yn agor mewn tab newydd) (Ynni Môr Sir Benfro gynt)
- ateb (yn agor mewn tab newydd) (Cymdeithas Tai Sir Benfro gynt)
- Western Solar – Tŷ Solar (yn agor mewn tab newydd)
- Silverstone Green Energy (paneli solar ffotofoltäig) a Dragon Charging (gwefru cerbydau trydan)
- Bourne Leisure Ltd, Bluestone Resorts Ltd a Folly Farm Ltd (pob un yn aelod o Fforwm Ynni Sir Benfro)
Camau i'w Cymryd
Cyf: NZC - 27
- Cam Gweithredu: Gweithio gyda phartneriaid sector preifat y cyngor a thirfeddianwyr mawr i archwilio dulliau arloesol o leihau allyriadau carbon.
- Swyddog Arweiniol: Amrywiol
- Erbyn Pryd: Yn parhau
Cyf: NZC - 28
- Cam Gweithredu: Cydweithredu â sefydliadau trydydd sector a chymunedol Sir Benfro i archwilio cyfleoedd i leihau carbon ac i hyrwyddo nodau ynni adnewyddadwy.
- Swyddog Arweiniol: Amrywiol
- Erbyn Pryd: Yn parhau