Ein Cynllun Gweithredu

Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy / Cyfrannu at Niwtraleiddio Carbon

Ôl Troed Carbon - Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy Cyfrannu at Niwtraleiddio Carbon = Carbon Sero Net

Yn haf 2020, mae CSP wedi gosod y lefelau canlynol o fesurau ynni adnewyddadwy a charbon isel:

  • Paneli solar ffotofoltäig: 498 kW mewn 34 o adeiladau gwahanol, gan gynnwys ysgolion.
  • Arwyddion, lampau a chelfi stryd sy’n cael eu pweru gan baneli solar ffotofoltäig – lleoliadau amrywiol.
  • Paneli dŵr poeth solar: 40 kW mewn deg adeilad ar wahân, gan gynnwys ysgolion.
  • Pelenni pren biomas i ddarparu gwresogi a dŵr poeth: 500 kW mewn tri adeilad ar wahân, gan gynnwys ysgolion.
  • Tyrbin gwynt bach: 6 kW yn Ysgol Mair Ddihalog, Hwlffordd.
  • Gwres a phŵer cyfunedig wedi'i danio â nwy: 260 kWe / 520 kW thermol mewn 15 adeilad ar wahân, gan gynnwys ysgolion.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r cyngor wedi ceisio cynyddu'n sylweddol faint o drydan adnewyddadwy y mae'n ei gynhyrchu ond mae wedi'i rwystro gan gapasiti cyfyngedig y rhwydwaith dosbarthu trydan lleol (y Grid Cenedlaethol). Mae ceisiadau blaenorol i weithredwr y rhwydwaith dosbarthu trydan – Western Power Distribution – ar gyfer cysylltu â'r rhwydwaith trydan wedi arwain at gostau anhyfyw oherwydd bod yn rhaid i ddarpar ddatblygwyr megis y cyngor dalu costau atgyfnerthu sylweddol.

Felly, er mai prif ddull CSP o wneud iawn am ei ôl troed carbon gweddilliol yw cynyddu'n sylweddol faint o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar ei dir, mae hyn yn dibynnu ar welliannau i gapasiti'r rhwydwaith dosbarthu trydan lleol. Yn anffodus, mae hyn y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y cyngor – ac mae trafodaethau’n parhau gyda Western Power Distribution a Llywodraeth Cymru i geisio’r gwelliannau angenrheidiol.

Mae cyfrannu at niwtraleiddio carbon yn golygu gwneud iawn am allyriadau carbon deuocsid (CO2) sy’n deillio o weithgarwch diwydiannol neu weithgarwch dynol arall drwy gymryd rhan mewn cynlluniau â nod o wneud gostyngiadau cyfatebol mewn CO2 yn yr atmosffer. Oherwydd bod un uned o CO2 yn cael yr un effaith ar yr hinsawdd lle bynnag y caiff ei allyrru, mae'r budd yr un fath lle bynnag y caiff ei leihau neu ei osgoi. Gallai cyflawni lleihau carbon wedi'i ddilysu gynnwys diogelu coedwigoedd glaw yn Ne America neu, o bosibl, plannu coed yn lleol. Gall hwn fod yn fater cymhleth a dyma’r opsiwn olaf oni bai fod plannu coed / gwella mawndir  ar dir a reolir gan y cyngor yn cael ei ystyried i fod yn gyfraniad at niwtraleiddio carbon. (Noder: Caiff hyn ei gadarnhau pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chanllawiau defnydd tir fel rhan o’r fframwaith adrodd ar wasanaethau cyhoeddus sy’, garbon niwtral.).

Mae CSP yn gweithio gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd) i archwilio a darparu cyfleoedd ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr. Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru i roi prosiectau diriaethol ar waith ac yn cynghori ar faterion yn ymwneud ag ynni. Ar hyn o bryd, mae'n cynnal adolygiad o dir y cyngor er mwyn nodi cyfleoedd posibl ar gyfer gosod paneli solar ffotofoltäig a thyrbinau gwynt ar y llawr. Yn hanesyddol, ymgymerwyd ag ymarferion tebyg gyda Partnerships for Renewables a Local Partnerships – ond, er bod safleoedd posibl wedi'u nodi, ni chawsant eu hystyried yn ariannol hyfyw oherwydd cyfyngiadau cost / grid lleol a/neu ddefnydd tir. Mae prosiectau ynni adnewyddadwy mawr fel arfer yn cymryd sawl blwyddyn i'w datblygu hyd at eu cwblhau. (Noder: Mae Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2018 (yn agor mewn tab newydd) (Hydref 2019) yn nodi gallu presennol Cymru i gynhyrchu ynni ac yn dadansoddi sut mae wedi newid dros amser.) Mae'n werth nodi bod gan Sir Benfro 20% o'r holl gapasiti ar gyfer paneli solar ffotofoltäig a osodwyd yng Nghymru, sy'n dyst i'r arbelydriad solar ardderchog a geir ar ledred Sir Benfro o'i chymharu ag ardaloedd eraill o'r wlad. Bydd cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y dyfodol ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn dibynnu ar gapasiti'r grid (neu gael dadlwytho lleol ar gyfer cynhyrchu pŵer), a bydd angen iddo hefyd fod yn foddhaol o ran cynllunio.

Mae'r cyngor yn gweithio, ac mewn rhai achosion yn arwain, ar nifer o fentrau rhanbarthol sydd â'r nod o greu marchnad a chanolfan ragoriaeth wedi'u sefydlu yn Sir Benfro ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy. Gweler adrannau 3.4, 3.5 a 3.6.

Camau Gweithredu

Cyffredinol
  • Fel y soniwyd eisoes, mae 100% o’r trydan sy’n cael ei gaffael trwy’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gyda thua 50% o hwn yn dod o Gymru. Mae'r pryniant hwn yn darparu marchnad ar gyfer cynhyrchwyr adnewyddadwy ac felly'n ysgogi'r farchnad trydan adnewyddadwy. (Noder: Mae’r defnydd o’r trydan ‘gwyrdd’ hwn eisoes wedi’i adlewyrchu yn ffactor trosi allyriadau [sy’n lleihau] y DU ar gyfer trydan ac, o ganlyniad, nid yw’r cyngor ar hyn o bryd yn gallu elwa’n uniongyrchol ar arbedion carbon sy’n deillio o’i gaffaeliad o drydan ‘gwyrdd’ gan i bob pwrpas byddai hyn yn cyfrif yr arbedion carbon ddwywaith.)
  • Mae GCC wrthi'n chwilio am ffynonellau nwy carbon isel – e.e. biofethan o dreulio anaerobig – ac yn monitro'r agenda nwy hydrogen.
  • Cwblhaodd tîm Cynlluniau Datblygu’r cyngor Asesiad Ynni Adnewyddadwy yn 2017, sy’n ffurfio rhan o sylfaen dystiolaeth Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2. Mae wedi llywio’r polisïau cyffredinol sy’n dod i’r amlwg, sef GN 4 a GN 5, yn CDLl 2.
  • Mae CSP yn parhau i fonitro'r sefyllfa i asesu ymddangosiad mecanweithiau marchnad fel y Warant Allforio Clyfar (SEG), sy'n caniatáu trafodaethau gyda chyflenwyr trydan er mwyn sicrhau lefel taliad y cytunwyd arni am drydan adnewyddadwy wedi'i allforio.

 

Solar
  • Yn 2019/20, cytunodd CSP i lunio partneriaeth ag Egni Community Co-op, a ddarparodd systemau solar ffotofoltäig di-gyfalaf ar y to i chwe ysgol yn Saundersfoot, Llandyfái, Prendergast, Ysgol y Frenni, Gelli Aur ac Ysgol Bro Ingli. Mae’r ysgolion hyn yn cael y trydan adnewyddadwy o’r systemau solar am gost 20% yn rhatach na’r hyn a gynigir gan dariff trydan grid yr ysgol.
  • Yn 2016, ymrwymodd y cyngor i bartneriaeth gyda Nwy Prydain a Generation Community, a ddarparodd systemau solar ffotofoltäig di-gyfalaf ar y to i ysgolion uwchradd Greenhill ac Aberdaugleddau. Mae'r ysgolion hyn yn cael y trydan adnewyddadwy o'r systemau solar am ddim.
  • Mae systemau solar ffotofoltäig wedi'u gosod ar sail buddsoddi i arbed mewn ysgolion lluosog; ar draws llety gwarchod CSP; yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun; ac yn Llyfrgell ac Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd.
  • Mae systemau solar ffotofoltäig yn cael eu gosod ym mhob Ysgol yr 21ain Ganrif newydd.
  • Ers 2015, bu gostyngiad yng nghymorthdaliadau’r Tariff Cyflenwi Trydan (FiT) ar gyfer gosodiadau solar ffotofoltäig newydd, a daeth taliadau FiT ar gyfer paneli solar ffotofoltäig i ben yn gyfan gwbl yn 2019. Arweiniodd dileu'r cymhorthdal at ostyngiad dramatig yn nifer y ceisiadau am brosiectau ynni adnewyddadwy yn ardal gynllunio CSP. Fodd bynnag, mae cost systemau solar ffotofoltäig wedi parhau i ostwng (tua 70%) ac mae technoleg batri wedi dod i'r amlwg fel cymhwysiad prif ffrwd posibl. Ynghyd â chost gynyddol trydan mewn llawer o safleoedd, lle mae defnydd digonol, mae ateb solar ffotofoltäig hyfyw o hyd.
  • Mae'r cyngor ar fin gosod canopïau parcio ceir solar ffotofoltäig ym  meysydd parcio Archifdy Sir Benfro (28 kW) a Neuadd y Sir (70 kW) yn 2020/21 fel rhan o gynllun Cam 1 Re:fit Cymru.
  • Mae'r cyngor wedi gosod paneli dŵr poeth solar mewn wyth ysgol, un neuadd chwaraeon a chanolfan ieuenctid.

 

Biomas
  • CSP oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu system wresogi pelenni pren biomas, gyda phrosiect biomas Preseli yn 2003. Yn 2015, bu’r cyngor mewn partneriaeth â Pembrokeshire Bioenergy ar gyfer contract cyflenwi ynni 20 mlynedd (ESCo) i osod system boeler pelenni coed biomas 400 kW di-gyfalaf yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd, gan arwain at ddarpariaeth gwresogi allyriadau isel iawn ar gyfer ei systemau pwll nofio a dŵr poeth.

 

Plannu coed / atafaelu carbon
  • Mae'r cyngor yn bwriadu adolygu ei strategaeth goed i'w gweithredu – gan gynnwys rheoli ardaloedd coetir presennol ac arfaethedig yn y dyfodol, cynlluniau rheoli, tynnu coed a chylch bywyd.
  • Wrth gydnabod na ddylid anwybyddu gallu priddoedd a glaswelltiroedd i atafaelu carbon, a bod tir pori wedi’i reoli ar gyfer iechyd y pridd yn lle cynhyrchu yn rhoi manteision i storio carbon a rheoleiddio dŵr ffo, mae’r cyngor yn adolygu arferion ar gyfer diogelu a chynyddu storio carbon mewn priddoedd a biomas, megis:
    • Newid arferion amaethyddol ar ffermydd sirol Sir Benfro i leihau cynhyrchu allyriadau a chynyddu atafaelu carbon trwy reoli pridd yn dda.
    • Ymgysylltu â’r sector bwyd-amaeth i gael dealltwriaeth o sut y gallai’r cyngor gefnogi arferion ffermio mwy cynaliadwy ar draws y sir.
    • Mwy o seilwaith gwyrdd.
    • Rheolaeth arfordirol – gan fod ‘gwasgfa arfordirol’ yn broblem mewn cynefinoedd arfordirol, archwilio caniatáu i gynefinoedd gilio un cae yn ôl o'r draethlin er mwyn cynyddu maint.
    • Ymgysylltu ag ymchwilydd lleol a Phrifysgol Abertawe ynghylch y potensial i greigiau diorit gael eu malu a’u gwasgaru ar gaeau i ddal y carbon.

 

Targed

Bydd targed priodol ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r adolygiad blynyddol o’r cynllun gweithredu.

Nodiadau:

(1) Bydd angen cynnydd sylweddol mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy i wneud iawn am ôl troed carbon gweddilliol y cyngor.

(2) Mae targed ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy wedi’i fewnosod yn y fersiwn adneuo (drafft ymgynghori cyhoeddus) CDLl 2 – polisi GN 5.  Mae gosod targed y cyfeirir ato yma yn ymwneud yn benodol â gweithgareddau / mentrau CSP – yn wahanol i'r un yn CDLl 2, sy'n ystyried yr holl faterion cynllunio.

 

Camau i'w Cymryd
Cyf: NZC - 19
  • Cam Gweithredu: Gweithio gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i archwilio a darparu cyfleoedd ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr.
  • Swyddog arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
  • Erbyn pryd: Yn parhau

 

Cyf: NZC - 20
  • Cam Gweithredu: Gweithio gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i gefnogi mwy o gaffael ynni o brosiectau ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol.
  • Swyddog arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
  • Erbyn pryd: Yn parhau

 

Cyf: NZC - 21
  • Cam Gweithredu: Archwilio dichonoldeb plannu coed a mesurau eraill o’r fath (megis cynyddu’r storfa garbon mewn priddoedd a biomas), a nodi tir a reolir gan y cyngor ar gyfer hynny, er mwyn cyfrannu at niwtraleiddio carbon.
  • Swyddog arweiniol: Rheolwr Asedau Strategol
  • Erbyn pryd: Yn parhau

 

Cyf: NZC - 22
  • Cam Gweithredu: Datblygu targed priodol ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy fel rhan o’r adolygiad blynyddol o’r cynllun gweithredu.
  • Swyddog arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni / Pennaeth Seilwaith
  • Erbyn pryd: Mawrth 2021/20
ID: 11712, adolygwyd 23/07/2024