Ein Cynllun Gweithredu
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (yn agor mewn tab newydd) yn gosod targed i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o leiaf 80% (ar lefelau 1990) erbyn 2050. Gwnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan ei bod yn argyfwng ar yr hinsawdd ar 29 Ebrill 2019 (yn agor mewn tab newydd) ac, mewn ymateb, derbyniodd yr argymhellion gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i leihau allyriadau 95% erbyn 2050 gyda'r uchelgais o fod yn sero net. (Noder: Am allyriadau carbon Cymru / Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) )
Mae ‘Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel (yn agor mewn tab newydd)’ (Mawrth 2018) yn nodi dull Llywodraeth Cymru o dorri allyriadau carbon a chynyddu effeithlonrwydd mewn ffordd sy’n sicrhau’r manteision ehangach mwyaf posibl i Gymru, gan sicrhau cymdeithas decach ac iachach. Mae’n nodi 100 o bolisïau a chynigion sy’n lleihau allyriadau’n uniongyrchol ac yn cefnogi twf yr economi carbon isel ar draws holl feysydd y llywodraeth, gan gynnwys:
- cynyddu plannu coed i, i ddechrau, o leiaf 2,000 hectar y flwyddyn ac yna dyblu hynny i 4,000 hectar mor gyflym â phosibl;
- comisiynu astudiaeth ddichonoldeb annibynnol ar ddefnyddio a storio carbon;
- lleihau allyriadau o gynhyrchu pŵer yng Nghymru, gan gynnwys defnyddio pwerau cydsynio, cynllunio a thrwyddedu a datblygu safbwynt polisi ar y tanwyddau a ddefnyddir i gynhyrchu pŵer;
- annog y defnydd o gerbydau trydan trwy ddatblygu rhwydwaith gwefru chwim;
- uchelgais i fysiau, tacsis a cherbydau hurio preifat fod yn gerbydau di-allyriadau erbyn 2028;
- adolygu rheoliadau adeiladu i archwilio sut y gellir gosod safonau effeithlonrwydd ynni uwch ar gyfer adeiladau newydd;
- gweithio gyda phartneriaid i gynnwys mwy am gynaliadwyedd a datgarboneiddio yn y cwricwlwm newydd;
- darparu coed ffrwythau a thanwydd ar gyfer holl ranbarth Mynydd Elgon yn Uganda erbyn 2030 (cyfrannu at niwtraleiddio carbon).
Rhwng 2010 a 2014, cymerodd CSP ran yng Ngham 1 cynllun gorfodol ar gyfer y DU gyfan, sef Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon (CRC) (yn agor mewn tab newydd). O ganlyniad, bu'n ofynnol iddo brynu lwfansau na ellir eu had-dalu ar gyfer pob tunnell o garbon cymwys sy'n deillio o'i ddefnydd o drydan a nwy. Talodd y cyngor £233,000 o dan y cynllun hwn, yn seiliedig ar ei allyriadau ar gyfer 2013/14. Trwy waith effeithlonrwydd ynni, cafodd ei eithrio o Gam 2 yr Ymrwymiad Lleihau Carbon, a oedd yn rhedeg o 2014 i 2019 (roedd yr esemptiad i bob pwrpas yn arbed £932,000 i CSP drwy gydol Cyfnod 2). O dan yr Ymrwymiad Lleihau carbon, er i allyriadau'r cyngor barhau i ostwng, cynyddodd lefel y ‘dreth’ a godir am bob tunnell o garbon a allyrir yn flynyddol er mwyn cymell gostyngiad pellach mewn carbon. Diddymwyd Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon yn dilyn blwyddyn gydymffurfio 2018/19; fodd bynnag, ni fydd y gost ‘trethiant’ hon yn diflannu gan y codir yr Ardoll Newid Hinsawdd (yn agor mewn tab newydd) i wneud iawn am hyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar opsiynau ar gyfer olynydd i gynllun yr Ymrwymiad Lleihau Carbon (Polisi 19, ‘Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel’).
Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais ar gyfer sector cyhoeddus sy’n garbon niwtral erbyn 2030 (yn agor mewn tab newydd), a bydd yn cefnogi’r sector cyhoeddus i greu llinell sylfaen a monitro ac adrodd ar gynnydd tuag at niwtraliaeth carbon (Polisi 20, ‘Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel’). Ar sail gwaith diweddar i gyfrifo ôl troed carbon gan Cyfoeth Naturiol Cymru a GIG Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig blaenoriaethu’r pedair thema allweddol a ganlyn i gyflawni’r uchelgais hwn:
(1) Symudedd a Thrafnidiaeth;
(2) Caffael;
(3) Defnydd Tir;
(4) Adeiladau.
Mae Aether Ltd wedi sicrhau’r contract i ddatblygu’r canllawiau adrodd, ac mae CSP yn un o nifer o gyrff cyhoeddus sydd wedi cytuno i ddod yn ‘fabwysiadwyr cynnar’ ac sy’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu methodolegau cyson, Cymru gyfan ar gyfer adrodd ar allyriadau carbon. Roedd y set derfynol o ddogfennau i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd 2019/20 ond mae hyn wedi’i ohirio oherwydd COVID-19. Y bwriad ar hyn o bryd yw dosbarthu dogfennau terfynol i bob corff cyhoeddus cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn helpu i osod man cychwyn cyffredin ar allyriadau carbon, datblygu cynlluniau, a monitro cynnydd tuag at dargedau lleihau allyriadau.
Fel y crybwyllwyd mewn adrannau blaenorol, mae'r cyngor yn gweithio gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i archwilio a darparu cyfleoedd ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr a cherbydau allyriadau isel iawn (ULEVs).
Fel yr amlinellwyd yn flaenorol, mae prosiect Re:fit Cymru yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyngor sy’n defnyddio fframwaith contractwyr a gaffaelwyd ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru a chronfeydd buddsoddi i arbed Salix.
Rhwng 2014 a 2019, bu CSP yn cydweithio ar brosiect ‘Byw'n Glyfar’ a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i edrych ar greu ardal carbon sero net yng Nglannau Aberdaugleddau. Ariannodd ‘Menter Byw'n Glyfar’ Llywodraeth Cymru yr astudiaethau a darparodd y cyngor y cyswllt ‘llywodraethu’ i'r hyn a oedd, mewn gwirionedd, yn brosiect a arweiniwyd gan Borthladd Aberdaugleddau. Mae'r adroddiad terfynol, drwy gonsortiwm dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn argymell defnyddio generaduron ynni adnewyddadwy i bweru grid clyfar; storio mewn batris er mwyn cydbwyso’r grid; cynhyrchu hydrogen gwyrdd wedi'i electroleiddio (ar gyfer storio, gwres a chludiant); cynhyrchu bio-nwy o weithfeydd treulio anaerobig); a defnyddio pympiau gwres ar gyfer gwresogi hybrid. Y prosiect hwn oedd y catalydd ar gyfer prosiect Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni (MH:EK), yr ymhelaethir arno yn Adran 3.6.
Mae'r cyngor yn rhan o Grŵp Cyfeirio Hydrogen LlC, sy'n bwriadu hyrwyddo trafodaethau ar y ffordd orau i Gymru ddatblygu'r farchnad hon. Mae cysylltiad agos rhwng y grŵp a MH:EK a Chlwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), yn ogystal â’r gadwyn gyflenwi a rhwydweithiau hydrogen ehangach. Mae LlC yn bwriadu datblygu ei safbwynt polisi hydrogen a nodi cyfleoedd ariannu. Bydd canlyniadau’r gwaith grŵp hwn, yn eu tro, yn bwydo i mewn i grŵp hydrogen mewnol Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o lawer o adrannau sydd â buddiannau mewn hydrogen.
Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cynnig datblygu Cynllun Ynni Rhanbarthol ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn seiliedig ar waith diweddar a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) a Regen, Swansea Bay City Region: A Renewable Energy Future (yn agor mewn tab newydd). Mae'r cyngor yn ymwneud â'r ffrwd waith hon.
Camau i'w Cymryd
Cyf: NZC - 23
- Cam Gweithredu: Cydweithredu â Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill sy’n ‘fabwysiadwyr cynnar’ er mwyn cyflwyno adroddiadau carbon fel rhan o’r uchelgais i gyflawni sector cyhoeddus sy’n garbon niwtral yng Nghymru erbyn 2030.
- Swyddog Arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
- Erbyn Pryd: Mehefin 2021
Cyf: NZC - 24
- Cam Gweithredu: Parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ym mhob maes datgarboneiddio.
- Swyddog Arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
- Erbyn Pryd: Yn parhau