Ein Cynllun Gweithredu

Integreiddio, Cyfathrebu ac Ymddygiadau

Mae CSP wedi mabwysiadu dull corfforaethol o ddrafftio'r cynllun gweithredu hwn, gyda'r aelodau'n arwain cyfarfodydd trawsbleidiol ‘Gweithgor Carbon Sero Net 2030’ o dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Joshua Beynon a fynychwyd gan amrywiol swyddogion a phartïon â diddordeb i archwilio camau datgarboneiddio.

Cydnabyddir y bydd angen ymwybyddiaeth a chefnogaeth staff ac aelodau er mwyn galluogi'r cyngor i gyflenwi gostyngiadau carbon sylweddol yn llwyddiannus. Efallai y bydd hyn yn gofyn am hyfforddiant a sgiliau cyfathrebu penodol.

Mewn partneriaeth â Fforwm Arfordirol Sir Benfro a Phrifysgol Caerdydd (gan ddefnyddio cyllid o’u prosiect Cymunedau Arfordirol yn Gweithredu gyda’i Gilydd [CCAT]), mae arolwg sylfaenol ymwybyddiaeth staff am newid hinsawdd wedi’i gynnal. Dywedodd cyfanswm o 86% o'r ymatebwyr fod mater y newid yn yr hinsawdd yn bwysig neu'n bwysig iawn. Mae’r cyngor yn aros am yr adroddiad manwl a’r canlyniadau, ac mae cynnig i ddilyn yr arolwg sylfaenol hwn gyda gwaith ymgysylltu pellach â'r staff. Gallai arolwg staff nodi sut y gall unigolion gyfrannu at ymrwymiad CSP i ddod yn awdurdod lleol carbon sero net. Mae angen i'r cyngor ystyried sut i ymgysylltu â staff sy'n gweithio y tu allan i'w swyddfeydd sefydlog, gan mai dim ond y staff ‘desg’ hynny sy'n gysylltiedig â system e-bost yr awdurdod y mae arolygon yn eu cofnodi ar hyn o bryd.

O bosibl, gallai CSP ychwanegu gofyniad mewn adolygiadau perfformiad staff i bob aelod o staff wirfoddoli i gymryd cam gweithredu bob blwyddyn i gyfrannu at ddatgarboneiddio – boed yn eu hamgylchedd personol neu yn y gwaith. Gallai’r camau hyn fod yn unrhyw beth o gyfnewid i fylbiau golau ynni isel i fwyta llai o gig, prynu car allyriadau isel iawn (ULEV), defnyddio’r ceir cronfa trydan, cymryd un hediad yn llai y flwyddyn, newid i dariff ynni adnewyddadwy gartref, neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn yn helpu pawb yn y sefydliad i gymryd perchnogaeth o’r mater datgarboneiddio, sydd ei angen er mwyn gwneud cynnydd sylweddol.

Dylid ystyried cymell mathau mwy cynaliadwy o deithio pan fydd staff yn cymryd gwyliau pellter byr. Gallai hyn olygu, er enghraifft, cytuno i ddarparu un diwrnod o wyliau blynyddol ychwanegol pe bai staff yn dewis mynd ar y trên i Ewrop yn hytrach na hedfan, neu pan fydd staff yn dewis mynd ar wyliau yn y DU yn hytrach na mynd ar awyren dramor.

Unwaith y bydd ymfudiad y cyngor o Skype i MS Teams wedi'i gwblhau, cynigir defnyddio fforwm y Caffi Sgwrsio ar gyfer trafodaeth staff ar waith carbon sero net 2030.

Mae CSP wedi bod yn gweithredu trefniadau gweithio ystwyth a doethach ers 2018. Ar gyfer staff desg, arweiniodd hyn at fudo cymharol syml i weithio gartref pan ddechreuodd pandemig COVID-19. Dylai'r cyngor atgyfnerthu arferion gwaith doethach er mwyn creu mwy o arbedion effeithlonrwydd datgarboneiddio – yn benodol, o ran defnydd doethach o weithleoedd, gweithio gartref a llai o filltiroedd cymudo. Rhaid i lesiant ac amodau gwaith gweithwyr fod yn hollbwysig yn yr ystyriaeth hon. Dylid ystyried rhoi dodrefn swyddfa addas ac offer effeithlon o ran ynni i staff, gwneud lwfans ar gyfer costau ynni cynyddol gweithio gartref, a chymell staff i uwchraddio i ryngrwyd band eang cyflym iawn pan fo ar gael.

Yn 2019, ymgysylltodd y cyngor yn adeiladol â grwpiau ymgyrchu amgylcheddol lleol – er enghraifft, cynnal fforwm ieuenctid hinsawdd a chyfarfod â chynrychiolwyr Extinction Rebellion yn Neuadd y Sir. Dylid ystyried parhau i ymgysylltu â thrigolion Sir Benfro, o bosibl drwy system EngagementHQ ar-lein newydd y cyngor.

Mae CSP yn rhedeg rhaglen lwyddiannus Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy. Sefydlwyd y cynllun yn 2003 i helpu ysgolion i wreiddio Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) mewn addysgu a dysgu ac wrth reoli ysgolion Sir Benfro yn gynaliadwy. Dylai'r cyngor sicrhau bod Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy yn cyd-fynd â'r amcan yng nghasgliad ‘’Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel (yn agor mewn tab newydd)’  Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘gweithio gyda phartneriaid i gynnwys mwy am gynaliadwyedd a datgarboneiddio yn y cwricwlwm newydd’.

Bydd angen cwblhau Asesiad Effaith Integredig o gynigion a phenderfyniadau'r cyngor cyn rhoi'r cynllun gweithredu ar waith yn 2020/21. Bydd Asesiad Effaith Integredig yn cynnwys gofynion i asesu effeithiau fel y nodir yn y ddeddfwriaeth ganlynol:

Bydd perfformiad ar gynyddu tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030 yn cael ei adrodd yn flynyddol, ynghyd ag adolygiadau blynyddol o'r cynllun gweithredu.

 

Camau i'w Cymryd

Cyf: NZC - 29

  • Cam Gweithredu: Cynnal arolwg staff i nodi sut y gall unigolion gyfrannu at ymrwymiad CSP i ddod yn awdurdod lleol carbon sero net. Bydd y cyngor yn ystyried sut i ymgysylltu â staff sy'n gweithio y tu allan i'w swyddfeydd sefydlog.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Marchnata
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 30

  • Cam Gweithredu: Ystyried ychwanegu gofyniad mewn adolygiadau perfformiad staff i bob aelod o staff wirfoddoli i gymryd cam bob blwyddyn i gyfrannu at ddatgarboneiddio – boed yn eu hamgylchedd personol neu yn y gwaith.
  • Swyddog Arweiniol: Pennaeth Adnoddau Dynol
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 31

  • Cam Gweithredu: Ystyried cymell mathau mwy cynaliadwy o deithio pan fydd staff yn cymryd gwyliau byr – er enghraifft, cytuno i ddarparu un diwrnod o wyliau blynyddol ychwanegol pe bai staff yn dewis mynd ar y trên i Ewrop yn hytrach na hedfan, neu pan fydd staff yn dewis mynd ar wyliau yn y DU yn hytrach na mynd ar awyren dramor.
  • Swyddog Arweiniol: Pennaeth Adnoddau Dynol
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 32

  • Cam Gweithredu: Defnyddio fforwm y Caffi Sgwrsio ar gyfer trafodaeth staff ar waith carbon sero net 2030 a’r cynllun gweithredu.
  • Swyddog Arweiniol: Tîm Trawsnewid a TG
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 33

  • Cam Gweithredu: Atgyfnerthu arferion gwaith callach i greu mwy o arbedion effeithlonrwydd datgarboneiddio – e.e. defnydd callach o weithleoedd, gweithio gartref a llai o filltiroedd cymudo. Mae’n rhaid i lesiant ac amodau gwaith gweithwyr fod yn hollbwysig yn yr ystyriaeth hon – gan gynnwys rhoi dodrefn swyddfa addas ac offer effeithlon o ran ynni i staff, gwneud lwfans ar gyfer costau ynni uwch gweithio gartref, a chymell staff i uwchraddio i rhyngrwyd band eang cyflym iawn lle mae ar gael.
  • Swyddog Arweiniol: Tîm Trawsnewid a TG
  • Erbyn Pryd: Mawtth 2021

 

Cyf: NZC - 34

  • Cam Gweithredu: Dylid ystyried parhau i ymgysylltu â thrigolion Sir Benfro, o bosibl drwy system EngagementHQ ar-lein newydd y cyngor.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Marchnata
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 35

  • Cam Gweithredu: Sicrhau bod Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy yn cyd-fynd â’r amcan yn ‘Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel’ LlC ar gyfer ‘gweithio gyda phartneriaid i gynnwys mwy am gynaliadwyedd a datgarboneiddio yn y cwricwlwm newydd’.
  • Swyddog Arweiniol: Swyddog Ysgolion Cynaliadwy
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 36

  • Cam Gweithredu: Cynnal Asesiad Effaith Integredig ar y cynigion sero net 2030 yng nghynllun gweithredu’r cyngor.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaethau
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 37

  • Cam Gweithredu: Adolygu'r cynllun gweithredu yn dilyn cyhoeddi canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer adrodd ar garbon.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 38

  • Cam Gweithredu: Cyhoeddi adroddiadau perfformiad blynyddol ar gynnydd tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030.
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
  • Erbyn Pryd: Bob blwyddyn
ID: 11716, adolygwyd 24/07/2024