Ein Cynllun Gweithredu
Ol Troed Carbon - Milltiroedd Busnes
Milltiroedd Busnes
Milltiroedd Busnes |
2016/17 (canlyniad) |
2017/18 (canlyniad) |
2018/19 (canlyniad) |
2018/19 v 2017/18 Cynnydd |
2018/19 v 2017/18 % y newid |
Allyriadau carbon (tCO2e) | 555 | 526 | 544 | wedi lleihau | +3.42% |
Milltiroedd (milltiroedd) | 1,841,242 | 1,786,730 | 1,858,148 | wedi lleihau | +3.99% |
Noder: Mae'r dangosydd hwn yn ymdrin â dyletswyddau yn gysylltiedig â gwaith a gyflawnwyd gan staff y cyngor yn eu ceir eu hunain neu wrth ddefnyddio cerbydau cronfa.
Mae’r cyngor wedi lleihau ei allyriadau carbon o'i filltiroedd busnes dros 1.98% ers 2016/17 – o 555 tCO2e i 544 tCO2e. Bu cynnydd o 3.42% mewn allyriadau rhwng 2017/18 a 2018/19.
Nodiadau:
(1) Mae’r data perfformiad a ddyfynnir yn y ddogfen hon yn defnyddio, lle bo’n briodol, ffactorau trosi allyriadau’r DU a gyhoeddwyd gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Cyhoeddir y ffactorau hyn yn flynyddol – er enghraifft:
Greenhouse Gas Reporting Conversion Factors (yn agor mewn tab newydd)
Camau Gweithredu
- Mae'r cyngor yn paratoi Cynllun Teithio Gwyrdd. Fel rhan o'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol a'r adroddiad cynnydd blynyddol, mae'r awdurdod wedi ymrwymo i leihau traffig sy'n gysylltiedig â cheir a dangos arfer da. Nod y cynllun teithio yw hyrwyddo dewisiadau teithio cynaliadwy a lleihau dibyniaeth ar y car. Er budd y cyflogwr a’r gweithiwr, mae CSP yn bwriadu annog staff ac eraill sy’n ymweld â Neuadd y Sir i ddefnyddio dewisiadau mwy ecogyfeillgar ac iachach na gyrru ar eich pen eich hun. Bwriedir hefyd cynnwys teithiau cymudwyr, teithiau busnes a theithiau ymwelwyr o fewn y dull hwn. Mae cynlluniau teithio yn mynd i'r afael â'r gwastraff ariannol a'r difrod amgylcheddol a achosir gan orddibyniaeth ein cymdeithas ar drafnidiaeth cerbydau modur preifat. Bydd y Cynllun Teithio Gwyrdd yn cwmpasu teithiau cymudwyr, teithiau busnes, ceir cronfa a theithiau ymwelwyr i weithleoedd y cyngor ac oddi yno, a bydd yn archwilio dewisiadau eraill heblaw teithio megis fideogynadledda, gweithio gartref ac oriau gwaith hyblyg / ystwyth / clyfar. Dylai'r cynllun hwn anelu at fanteisio ar y lefelau llygredd ac allyriadau is o ganlyniad i bandemig COVID-19 er mwyn dadlau y dylid cynnal y rhain er llesiant pobl a’r amgylchedd.
- Mae'r cyngor yn anelu at gynyddu nifer ei geir cronfa trydan (dau ar hyn o bryd) yn lle ceir presennol sy'n rhedeg ar ddiesel.
- Cafwyd cyllid grant o £368,000 gan Cronfa Trafnidiaeth Lleol Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd) i osod 28 pwynt gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan (56 soced – h.y. pwyntiau gwefru ‘pen dwbl’ sy'n gallu gwefru dau gerbyd ar yr un pryd) a dau bwynt gwefru chwim ledled y sir.
- Yn 2018/19, cyflwynwyd Cam 1, sef 16 o byst gwefru ‘cyflym’ (32 soced) mewn wyth lleoliad.
- Yn 2020, mae’r broses o gyflwyno Cam 2 bron wedi’i chwblhau a bydd yn ychwanegu 12 cyfleuster gwefru cyflym arall (24 soced) mewn saith lleoliad arall. Bydd Cam 2 hefyd yn gweld dau bostyn gwefru chwim yn cael eu gosod mewn dau leoliad trafnidiaeth a thwristiaeth strategol (Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod) ger y rhwydwaith cefnffyrdd yn Sir Benfro.
- Mae CSP hefyd wedi cefnogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) trwy gyd-gaffael gwefrwyr cerbydau trydan cyflym Cam 2 ar ei gyfer mewn pedwar safle – gan sicrhau dull cydgysylltiedig o wefru cerbydau trydan yn y sir. Gweler Llun 1 am fap o’r ddarpariaeth ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn Sir Benfro yn 2020.
- Mae cais Cam 3 yn cael ei baratoi i'w cyflenwi yn 2021/22 ac, yn amodol ar gyllid, mae'n bwriadu ehangu rhwydwaith gwefru’r cyngor ymhellach drwy ychwanegu 26 o byst gwefru ychwanegol (52 soced) mewn 11 lleoliad pellach. Byddai Cam 3 hefyd yn gweld pedwar postyn gwefru chwim arall yn cael eu gosod mewn pedwar lleoliad trafnidiaeth a thwristiaeth strategol gerllaw’r rhwydwaith cefnffyrdd a therfynfeydd fferi rhyngwladol yn Sir Benfro.
- Bydd gosod mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan, gan gynnwys ehangu'r cyfleusterau gwefru yn Neuadd y Sir ac o bosibl gwefru yn Nepo Thornton y cyngor, yn annog mwy o ddefnydd o geir cronfa trydan, nad ydynt yn cael eu defnyddio'n ddigonol ar hyn o bryd oherwydd diffyg cyfleusterau gwefru am deithiau hwy.
- Bydd mwy o ddarpariaeth ar gyfer gwefru cerbydau trydan hefyd yn annog mwy o bobl i ddefnyddio cerbydau allyriadau isel iawn (ULEVs) yn fflyd ‘lwyd’ y staff (y fflyd o yrwyr sy'n defnyddio eu ceir eu hunain at ddibenion busnes – gan gynnwys cymudo). Mae'r gwasanaeth gwefru cerbydau trydan a gyflwynwyd hyd yma wedi'i anelu at ddiwallu anghenion trigolion ac ymwelwyr, ac yn bennaf i gefnogi ac annog y cyfnod pontio i gerbydau trydan. O ystyried diwydiant twristiaeth sefydledig a hanfodol Sir Benfro, mae'r prosiect hefyd yn galluogi'r sir i hyrwyddo'r cysyniad o ‘eco-dwristiaeth’ i ymwelwyr.
- Mae CSP wedi ymgysylltu (Mai 2020) â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o’r fflyd a thrafnidiaeth busnes, er mwyn canfod yr achos busnes ac amgylcheddol dros newid i gerbydau allyriadau isel iawn (ULEVs).
- Darperir beiciau cronfa i'r staff yn Hwlffordd a’r cyffiniau i helpu i leihau’r milltiroedd busnes sy’n gysylltiedig â theithiau byr. Yn ogystal, mae'r cyngor yn gweithredu cynllun beicio i'r gwaith i'r staff, gyda'r bwriad o ddefnyddio'r beiciau hyn ar gyfer cymudo a theithiau busnes.
- Mae’r cyngor yn gosod peiriant ail-lenwi ar gyfer cerbydau hydrogen ym Marina Aberdaugleddau o dan brosiect Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni (MH:EK), lle bwriedir i ddau gerbyd trydan celloedd tanwydd hydrogen (HFCEV) Riversimple – y Rasa – gael eu defnyddio gan CSP a staff Porthladd Aberdaugleddau ar gyfer teithiau busnes. Nod y prosiect yw casglu data i gefnogi'r achos busnes a'r galw am gerbydau HFCEV ac i ddangos pa mor ddefnyddiol ydynt.
Llun 1. Map 2020 o leoliadau gwefru cerbydau trydan sy'n eiddo i CSP ac APCAP
Targed
Bydd targed lleihau carbon priodol yn cael ei ddatblygu fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r cynllun gweithredu.
Camau i'w Cymryd
Cyf: NZC - 15
- Cam gweithredu: Paratoi Cynllun Teithio Gwyrdd, gan gynnwys cynnal adolygiad o geir cronfa'r cyngor i nodi cyfleoedd ar gyfer cyflwyno cerbydau allyriadau isel iawn (ULEVs).
- Swyddog arweiniol: Pennaeth Seilwaith
- Erbyn pryd: Mawrth 2021
Cyf: NZC - 16
- Cam gweithredu: Parhau i ehangu'r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan sy'n eiddo i'r cyngor.
- Swyddog arweiniol: Pennaeth Seilwaith
- Erbyn pryd: Adolygiad blynyddol cyntaf Mawrth 2021
Cyf: NCZ - 17
- Cam gweithredu: Datblygu targed lleihau carbon priodol ar gyfer milltiroedd busnes y cyngor fel rhan o adolygiad blynyddol o'r cynllun gweithredu.
- Swyddog arweiniol: Pennaeth Seilwaith
- Erbyn pryd: Mawrth 2021
Cyf: NCZ - 18
- Cam gweithredu: Casglu data i gefnogi'r achos busnes a'r galw am gerbydau HFCEV ac i ddangos pa mor ddefnyddiol ydynt.
- Swyddog arweiniol: Pennaeth Seilwaith / Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
- Erbyn pryd: Mawrth 2022