Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol
Adennill dyledion ac amddifadu asedau
Adennill dyledion
Caiff hyn ei ddechrau pan fo’n amlwg ei fod o ganlyniad i fethiant bwriadol yr unigolyn i dalu. Caiff pob opsiwn rhesymol arall ei ystyried cyn defnyddio pwerau adennill dyledion o dan adran 70 (adennill costau, llog etc) o’r Ddeddf, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: ymgysylltu / ymgynghori, negodi, cyfryngu a chamau llys os ystyrir bod hyn yn briodol. Ni fydd gweithwyr achos a rheolwyr gwasanaethau cymdeithasol yn adennill dyledion er mwyn sicrhau nad oes gwrthdaro buddiannau a sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i ganolbwyntio ar ddiwallu yr
anghenion asesedig. Fodd bynnag, bydd staff gwasanaethau cymdeithasol yn cymryd rhan yng ngham cyntaf y broses adennill dyledion er mwyn ymgysylltu â’r defnyddiwr gwasanaethau; er mwyn canfod yr amgylchiadau sydd wedi arwain at fethu â thalu a cheisio datrys hyn yn gynnar. Ymgynghorir â staff gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y broses hefyd pan fo angen. Caiff pob achos ei ystyried yn ôl ei rinweddau er mwyn sicrhau y rhoddir sylw priodol i amgylchiadau penodol megis iechyd a llesiant ac unrhyw anghenion cyfathrebu.
Llog ar ddyledion
Codir llog ar ddyledion sy’n weddill yn unol â’r rheoliadau sy’n caniatáu disgresiwn i godi ffioedd gweinyddol a llog hyd at 0.15% yn fwy na chyfradd gilt y farchnad fel y’i hadroddir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn eu hadroddiad Rhagolygon Economaidd a Chyllid.
Amddifadu asedau
Pan fydd unigolyn yn cael gwared ar ased yn fwriadol er mwyn lleihau’r swm y mae’n ei gyfrannu at gost ei ofal, fe’i gelwir yn amddifadu asedau. Yn yr achosion hyn caiff cyfalaf tybiannol ei gymhwyso i asesiadau ariannol. Mae hyn yn digwydd pan nad yw unigolyn yn berchen ar gyfalaf mewn gwirionedd ond ei fod yn cael ei drin fel pe bai ganddo.
Caiff gwerth cyfalaf tybiannol ei gymhwyso i asesiad ariannol os canfyddir bod yr unigolyn wedi amddifadu ei hun o’r cyfalaf yn fwriadol, megis gwerthu neu drosglwyddo perchnogaeth eiddo, er mwyn lleihau’r swm y byddai angen iddo ei dalu tuag at gost ei ofal.
Os oes gan y defnyddiwr gwasanaethau gyfalaf sy’n fwy na’r terfyn cenedlaethol sy’n ychwanegol at ei gyfalaf tybiannol, caiff y rheol cyfalaf tybiannol ei gymhwyso o’r dyddiad y bydd y cyfalaf gwirioneddol yn gostwng islaw’r terfyn cyfalaf.
Bydd y broses o ganfod amddifadedd asedau ar gyfer cymhwyso cyfalaf tybiannol yn dibynnu ar amgylchiadau unigol megis y rhai a ganlyn:
- Pa wasanaeth oedd yn cael ei ddarparu i’r defnyddiwr gwasanaethau ar adeg yr amddifadedd honedig.
- Pryd y canfuwyd yr anghenion asesedig ar gyfer y gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu y gellir codi ffi ar ei gyfer.
- Ar beth y cafodd yr arian a oedd yn ymwneud â’r ased(au) ei wario.
- Mewn achosion pan ystyrir bod y defnyddiwr gwasanaethau mewn perygl o ddioddef cam-drin ariannol gan berthnasau / pobl eraill, gwneir atgyfeiriad i’r tîm Gwasanaethau Diogelu.
- Os bydd ymchwiliad diogelu yn canfod bod cam-drin ariannol wedi arwain at amddifadu asedau, ni chaiff cyfalaf tybiannol ei gymhwyso i’r asesiad ariannol.
- Os bydd ymchwiliad gan yr heddlu yn canfod bod cam-drin ariannol neu ladrad wedi arwain at amddifadu asedau, ni chaiff cyfalaf tybiannol ei gymhwyso i’r asesiad ariannol.
- Caiff arian a adenillir o ganlyniad i ymchwiliad diogelu neu ymchwiliad gan yr heddlu ei ddefnyddio fel cynilion. Bydd hyn yn amodol ar y rheolau asesu ariannol ar drin cynilion.
Os honnir bod asedau wedi’u hamddifadu, gwahoddir y defnyddiwr gwasanaethau / cynrychiolydd ariannol i adolygiad. Fel rhan o’r adolygiad bydd angen rhagor o wybodaeth, ar sail y tair egwyddor ganlynol a ddefnyddir ar gyfer profi achosion o amddifadedd asedau yn unol ag adran 11.4 o’r Ddeddf ac a gydnabyddir hefyd gan yr Ombwdsmon:
- A oedd osgoi neu leihau ffi yn gymhelliant sylweddol;
- Amseriad gwaredu’r ased. Ar adeg gwaredu’r cyfalaf, a allai’r unigolyn fod wedi disgwyl yn rhesymol y byddai angen gofal a chymorth arno, hyd yn oed os nad oedd yn ei gael eto ar yr adeg hon; a hefyd
- A fyddai’r unigolyn wedi disgwyl yn rhesymol y byddai angen iddo gyfrannu tuag at gost hyn, naill ai nawr neu rywbryd yn y dyfodol.
Bydd angen tystiolaeth o’r tair egwyddor uchod, beth ddigwyddodd i’r ased, a’r rheswm dros ei waredu yn ystod yr adolygiad.
Gallai enghreifftiau gynnwys:
Ar gyfer asedau cyfalaf, tystiolaeth dderbyniol o’u gwaredu, megis y canlynol: (a) gweithred ymddiriedolaeth; (b) gweithred rhodd; (c) derbyniadau ar gyfer gwariant; (ch) tystiolaeth bod dyledion wedi’u had-dalu.
Llythyrau gan feddyg teulu a chofnodion meddygol ynghylch anghenion iechyd hirdymor yr unigolyn ar yr adeg y gwaredwyd yr ased.
Tystiolaeth wedi’i darparu o ble’r oedd yr unigolyn yn byw ar yr adeg y gwaredwyd yr ased ac a oedd yn cael unrhyw ofal a chymorth.