Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol

Ar bwy y codir ffioedd

Bydd defnyddwyr gwasanaethau nad ydynt yn dod o fewn un o’r categorïau yn adran 6 o’r polisi codi ffioedd hwn yn cael asesiad ariannol sy’n dangos eu ffi asesedig. Byddant yn cael anfoneb am eu cyfraniad tuag at gost eu gofal a chymorth.

Codir y gyfradd briodol ar awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau eraill sy’n defnyddio cyfleusterau a gwasanaethau Cyngor Sir Penfro i ddiwallu anghenion plant. Codir ffi ar rieni plant sy’n dewis opsiynau gwasanaethau sydd y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion asesedig y plant hynny, yn unol â’r rheoliadau Cyfraniad Cost Ychwanegol.

Codir ffi ar drydydd partïon sy’n cyfrannu tuag at gost y gofal ar gyfer ffrind / perthynas. Gelwir hyn yn gyfraniad cost ychwanegol.

Hunanariannu

O dan adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gall y rhai sy’n ariannu eu lleoliad cartref gofal eu hunain ofyn i’w hawdurdod lleol drefnu eu gofal a’u cymorth ar eu cyfer os dymunant. Bydd Cyngor Sir Penfro yn cytuno i drefnu’r lleoliad gofal os bydd asesiad o anghenion yn canfod bod angen y gwasanaeth y gofynnir amdano. Os bydd Cyngor Sir Penfro yn trefnu’r lleoliad cartref gofal, Cyngor Sir Penfro fydd yn dal y contract a bydd yr unigolyn neu ei gynrychiolydd ariannol yn cael ei anfonebu am gost lawn y lleoliad. Bydd Cyngor Sir Penfro yn codi ffi weinyddol am y gwasanaeth hwn. Os bydd adnoddau ariannol yr unigolyn yn gostwng islaw’r terfyn a osodwyd yn y rheoliadau, tra bo’r unigolyn yn dal i fod yn y lleoliad, bydd rhaid darparu gwybodaeth ariannol fel y gellir cynnal asesiad ariannol er mwyn cyfrifo’r ffi ar gyfer gofal yr unigolyn. Os yw cost y lleoliad yn fwy na’r gost safonol y bydd Cyngor Sir Penfro fel arfer yn ei thalu am leoliad o’r fath, bydd rheolau’r cyfraniad cost ychwanegol yn berthnasol pan fydd adnoddau ariannol yr unigolyn yn gostwng islaw’r terfyn a osodwyd yn y rheoliadau.

Bydd angen i’r rheiny sy’n cytuno ar gontract ac yn ariannu eu lleoliad cartref gofal eu hunain gyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol am asesiad o anghenion o leiaf chwe mis cyn i’w cynilion fynd islaw’r trothwy deddfwriaethol. Bydd Cyngor Sir Penfro yn cychwyn contract gyda’r cartref gofal ar eu rhan o’r dyddiad y cytunwyd arno yn y cynllun gofal a chymorth. Bydd eu ffi asesedig hefyd yn cychwyn o’r dyddiad y cytunwyd arno yn y cynllun gofal a chymorth.

Bydd angen i’r rheiny sy’n hunanariannu drwy Gyngor Sir Penfro hysbysu timau rheoli gofal ac asesiad ariannol y gwasanaethau cymdeithasol o leiaf dri mis cyn i’w cynilion ddisgyn islaw’r trothwy. Efallai y bydd yn ofynnol iddynt ddarparu’r wybodaeth ariannol ddiweddaraf ar gyfer asesiad ariannol diwygiedig. Bydd eu ffi diwygiedig yn gymwys o’r dyddiad pan fydd eu cynilion yn disgyn islaw’r trothwy. Os bydd cost lleoliad a hunanariennir yn uwch na’r gyfradd y byddai Cyngor Sir Penfro fel arfer yn ei thalu, gellir gofyn i’r sawl sy’n hunanariannu symud i leoliad sydd â chost safonol pan fydd eu cynilion / cyfalaf yn disgyn islaw’r trothwy.

Ffi cost lawn

Bydd ffi cost lawn, sydd wedi’i hasesu ar sail gwybodaeth a ddarparwyd ar gyfer asesiad ariannol, yn parhau i gael ei godi hyd nes y bydd gwerth cynilion / ased(au) y defnyddiwr gwasanaethau yn gostwng islaw’r terfynau a osodwyd yn y rheoliadau. Os oes gan unigolyn gynilion sydd uwchlaw’r terfyn cenedlaethol a buddiant mewn eiddo, ni fydd yr eiddo’n cael ei ystyried yn yr asesiad ariannol hyd nes i’r cynilion ostwng islaw’r terfyn cenedlaethol. Os bydd y gostyngiad hwn yn cymryd mwy na 12 wythnos i ddigwydd, ni fydd y ddiystyriaeth eiddo 12 wythnos yn berthnasol mwyach. Bydd Cyngor Sir Penfro yn defnyddio’r gyfran o’r ffi cost lawn y gellir ei phriodoli i’r arbedion / ased(au) i leihau eu gwerth. Bydd hyn yn parhau i fod yn berthnasol oni bai y darperir tystiolaeth i’r gwrthwyneb i Gyngor Sir Penfro. Bydd ffi cost lawn a godwyd gan na ddarparwyd unrhyw wybodaeth ariannol yn parhau i gael ei godi hyd nes y darperir yr wybodaeth honno a hyd nes y cynhelir asesiad ariannol er mwyn cyfrifo’r ffi ar gyfer gofal yr unigolyn. Caiff y ffi asesedig newydd hon ei chodi o’r dyddiad y cwblheir yr asesiad ariannol.

Cyfraniadau cost ychwanegol

Gwasanaethau dibreswyl

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol mewn perthynas â gweithgareddau a gynhelir yn ystod y cyfnod y darperir gwasanaethau dibreswyl. Gallai’r rhain gynnwys costau fel ffioedd mynediad, prydau bwyd allan ac ati. Caiff y costau hyn eu talu gan y defnyddiwr gwasanaethau neu drydydd parti, megis cynorthwyydd personol neu weithiwr cymorth y defnyddiwr gwasanaethau, ar adeg prynu eitemau. Ni fydd taliadau uniongyrchol a dyfarniadau cyfleoedd dydd yn cael eu darparu i dalu am y mathau hyn o gostau gan nad ydynt yn ymwneud ag anghenion asesedig y defnyddiwr gwasanaethau.

Os yw’r defnyddiwr gwasanaethau neu ei gynrychiolydd eisiau gofal neu gymorth ychwanegol, bydd angen iddo drefnu hyn yn uniongyrchol gyda darparwr y gwasanaeth dibreswyl. Bydd rhaid i’r unigolyn neu ei gynrychiolydd ariannol dalu’r holl gostau ar gyfer y trefniant hwn i’r darparwr gwasanaeth yn uniongyrchol.

Gwasanaethau preswyl

Gall defnyddiwr gwasanaethau ddewis opsiwn drutach sy’n ychwanegol at yr hyn y mae ei angen i ddiwallu ei anghenion asesedig. Mewn achosion o’r fath, efallai y bydd modd i drydydd parti dalu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn y bydd Cyngor Sir Penfro yn ei dalu a chost y gwasanaeth. Bydd angen i’r trydydd parti fod yn fodlon talu, allan o’i adnoddau ariannol ei hun, y gost ychwanegol ar gyfer y cyfnod y mae angen y gwasanaeth. Rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth ariannol ofynnol fel y gellir gwneud asesiad o fforddiadwyedd a chynaliadwyedd hirdymor y taliad hwn. Os bydd y trydydd parti yn methu â thalu ac yn methu neu’n anfodlon talu’r gost ychwanegol, mae’n bosibl y caiff y defnyddiwr gwasanaethau ei symud i leoliad ystafell / cartref gofal ar gyfradd safonol Cyngor Sir Penfro.

Ni chaniateir i ddefnyddiwr gwasanaethau dalu cyfraniad cost ychwanegol oni bai y gellir ei ohirio yn erbyn eu budd ariannol mewn eiddo. Gwneir hyn os bydd yr eiddo yn gymwys i’w gynnwys yn yr asesiad ariannol. Os na ellir cymryd yr eiddo i ystyriaeth yn yr asesiad ariannol, o dan y rheoliadau ariannol, ni chaniateir i’r defnyddiwr gwasanaethau ohirio’r cyfraniad cost ychwanegol yn ei erbyn.

Os na all Cyngor Sir Penfro ddarparu dau opsiwn ar gyfer lleoliad cartref gofal dros dro neu barhaol ar y gyfradd safonol y byddai Cyngor Sir Penfro fel arfer yn disgwyl ei thalu, bydd Cyngor Sir Penfro yn talu cost ychwanegol lleoliad addas a fydd yn diwallu anghenion yr unigolyn.

ID: 12533, adolygwyd 08/01/2025