Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol
Ffioedd a Thaliadau
Llywodraethir ffioedd a thaliadau yn rhannol gan ddeddfwriaeth ac yn rhannol gan bolisïau ariannol lleol. Bydd y rhain wedi’u gosod ar lefel a fydd yn caniatáu ar gyfer adennill y gost lawn i’r awdurdod lleol. Byddant yn cael eu hadolygu fel rhan o broses y gyllideb bob blwyddyn. Ni fydd ffioedd am wasanaethau yn fwy na chost darparu neu drefnu’r gofal a chymorth neu’r hyn y gellir ei gyrchu trwy daliadau uniongyrchol. Bydd ffioedd yn berthnasol o’r dyddiad y dechreuodd y gwasanaeth neu, os yw’r gwasanaeth wedi newid caiff y ffi newydd ei chodi o’r dyddiad y newidiodd y gwasanaeth. Bydd defnyddwyr gwasanaethau / cynrychiolwyr ariannol yn cael eu hysbysu am newidiadau i ffioedd a thaliadau. Bydd hyn yn cynnwys hysbysiad am y dyddiad y cânt eu codi ohono. Efallai y bydd angen gwneud newidiadau i ffioedd a thaliadau yn ôl-weithredol, a phan fydd hyn yn digwydd bydd Cyngor Sir Penfro yn casglu’r taliadau hyn mewn ffordd resymol.
Caiff y ffi a godir ar y defnyddiwr gwasanaethau ei chyfrifo fel rhan o’r asesiad ariannol. Caiff y ffi ei hanfonebu neu ei didynnu o daliad uniongyrchol / dyfarniad cyfle dydd, ar ôl darparu datganiad ariannol sy’n nodi’r tâl / cyfraniad. Am restr o ffioedd a thaliadau gweler: ffioedd a thaliadau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol
Fel arfer mae oedi rhwng dechrau’r gwasanaeth a’r anfoneb gyntaf. Mae hyn fel arfer oherwydd y bu oedi cyn i wybodaeth ariannol gyflawn ddod i law ar gyfer yr asesiad ariannol. Pan fydd hyn yn digwydd bydd y ffi yn berthnasol o ddyddiad dechrau’r gwasanaeth. Mae’n bwysig sicrhau y cedwir digon o arian i dalu’r taliad swmp cyntaf. Os bydd defnyddiwr gwasanaethau / cynrychiolydd ariannol wedi methu â chadw digon o arian at y diben hwn, dylai gysylltu â’r tîm Adennill Dyled i drefnu cynllun ad-dalu. Bydd cynllun ad-dalu at y diben hwn fel arfer yn rhychwantu rhwng tri a chwe mis.
Mae’n anffodus y gall fod camddealltwriaeth weithiau ynghylch a fydd ffi gofal yn cael ei chodi, ac os felly pryd, neu pa fath o ffi y dylid ei chodi. O dan yr amgylchiadau hyn bydd Cyngor Sir Penfro yn hysbysu’r defnyddiwr gwasanaethau / cynrychiolydd ariannol am y gwall a bydd yn gweithredu cyfnod rhybudd o ddau fis cyn y codir y ffi gywir.
Ffioedd a thaliadau dibreswyl
Ar gyfer gwasanaethau dibreswyl mae Llywodraeth Cymru yn gosod uchafswm wythnosol ar gyfer y ffi y caniateir ei chodi ar unigolyn. Os yw defnyddiwr gwasanaethau yn cael mwy nag un math o wasanaeth dibreswyl caiff costau’r rhain i gyd eu hadio at ei gilydd, a bydd un ffi gofal, hyd at y ffi wythnosol asesedig / yr uchafswm wythnosol (pa un bynnag sydd isaf) yn cael ei chodi.
Ffioedd cyfradd safonol
Bydd ffioedd cyfradd safonol yn cael eu gosod ar gyfer gofal a chymorth lefel isel, cost isel, megis larymau cymunedol, costau gweinyddol, atebion technoleg cynorthwyol ac ati. Caiff y ffioedd cyfradd safonol hyn hefyd eu codi pan fydd pobl yn dewis yr opsiwn taliadau uniongyrchol ar gyfer y gwasanaethau hyn. Ni fydd ffioedd cyfradd safonol yn fwy na’r gost yr eir iddi i drefnu neu ddarparu’r gofal a chymorth cysylltiedig. Ar gyfer ffioedd cyfradd safonol, ni chynigir ac ni chynhelir asesiadau ariannol oni bai y bernir, naill ai ar wahân neu ar y cyd â ffioedd gofal a chymorth eraill, y bydd y taliadau cyfradd safonol yn cael effaith andwyol ar incwm unigolyn.