Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol

Gwasanaethau na chaiff ffi ei chodi amdanynt

Bydd rhai gwasanaethau yn cael eu darparu am ddim, sef y rhai a ganlyn:

  • Gwasanaeth ailalluogi (a ddarperir yng nghartref yr unigolyn yn y gymuned) neu welyau adsefydlu / ailalluogi gofal canolraddol (a ddarperir mewn cartref gofal Cyngor Sir Penfro) am hyd at chwe wythnos, er mwyn galluogi defnyddwyr gwasanaethau i gynnal neu adennill y gallu i fyw’n annibynnol yn eu cartref yn y gymuned.
  • Gwasanaethau ôl-ofal a ddarperir / a drefnir o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
  • Cludiant i wasanaeth dydd, lle nodwyd bod angen y cludiant fel angen asesedig yng nghynllun gofal y defnyddiwr gwasanaethau.
  • Gwasanaeth eiriolaeth broffesiynol annibynnol a ddarperir / a drefnir gan Gyngor Sir Penfro o dan Ran 10 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
  • Asesiad o anghenion, asesiad ariannol, cynllun gofal, darparu datganiadau ffi, ac adolygiadau o ffioedd gofal.
  • Rhaglenni cyflogaeth a drefnir / a ddarperir gan Gyngor Sir Penfro.
ID: 12535, adolygwyd 08/01/2025