Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol

Gwasanaethau y gellir codi ffi amdanynt

Bob blwyddyn, cyhoeddir rhestr o ffioedd a thaliadau yn dilyn adolygiad blynyddol ohonynt.

Ffioedd gweinyddol

Penodeiaeth

Larymau cymunedol a thechnoleg gynorthwyol

Cyfleoedd dydd

Dirprwyaeth

Taliadau uniongyrchol

Cymorth yn y cartref a’r gymuned (a elwir hefyd yn ofal yn y cartref, gofal cartref neu wasanaethau byw â chymorth)

Prydau bwyd

Gofal preswyl parhaol

Ailalluogi

Rhannu’r gofal

Cysylltu bywydau (lleoliadau oedolion)

Seibiannau byr

Gwelyau gofal preswyl / gofal nyrsio tymor byr

Arhosiad preswyl dros dro

Cludiant


Ffioedd gweinyddol

Codir ffioedd gweinyddol ar gyfer trefnu neu weinyddu rhai gwasanaethau. Caiff rhestr lawn o ffioedd gweinyddol ei nodi yn y rhestr o ffioedd a thaliadau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Bydd Cyngor Sir Penfro yn trosglwyddo’r gost o gael arwystl cyfreithiol yn erbyn ased, megis eiddo, boed hynny fel rhan o gytundeb taliad gohiriedig neu oherwydd methiant i dalu costau gofal.



Penodeiaeth

Mae Cyngor Sir Penfro yn gweithredu fel penodai i reoli’r prosesau o gael taliadau budd-daliadau a thalu biliau ar ran y defnyddwyr gwasanaethau sy’n byw yn y gymuned neu mewn cartref gofal.

Ffi – Codir ffi am y gwasanaeth hwn ar gyfradd safonol fesul wythnos.



Larymau cymunedol a thechnoleg gynorthwyol

Darperir larymau cymunedol a pheth technoleg gynorthwyol er mwyn cynorthwyo pobl i gadw eu hannibyniaeth yn y gymuned.

Ffi – Codir ffi am y gwasanaethau hyn ar gyfradd safonol.



Cyfleoedd dydd

Gall cyfleoedd dydd gynnwys ystod o wasanaethau.

  • Codir ffi am gyfleoedd dydd a ddarperir yn un o ganolfannau gweithgareddau cymdeithasol / dydd y cyngor, a hynny ar gyfradd ddyddiol. Bydd hyn yn amodol ar yr uchafswm ffi ddibreswyl wythnosol.
  • Codir ffi am gyfleoedd dydd a ddarperir mewn lleoliadau eraill ar sail amgylchiadau unigol, a bydd hyn yn amodol ar yr uchafswm ffi ddibreswyl wythnosol.
  • Codir ffi am gyfleoedd hyfforddiant a ddarperir i ddiwallu anghenion asesedig, a hynny’n yn unol â’r rhaglen a gyrchir; a bydd yn amodol ar yr uchafswm ffi ddibreswyl wythnosol.

Gweler polisi cyfleoedd dydd Cyngor Sir Penfro am fanylion llawn.



Dirprwyaeth

Mae Cyngor Sir Penfro yn gweithredu fel dirprwy ar gyfer materion ariannol er mwyn rheoli pob mater ariannol ar ran y defnyddwyr gwasanaethau.

Ffi – Codir ffi am y gwasanaeth hwn ar y cyfraddau a bennir gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.



Taliadau uniongyrchol

Darperir taliadau uniongyrchol i ddiwallu ystod o anghenion. Telir dyfarniadau taliadau uniongyrchol fel heb gynnwys y cyfraniad. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r defnyddiwr gwasanaethau dalu ei gyfraniad i’r cyfrif y telir y dyfarniad taliad uniongyrchol iddo. Mae hyn yn sicrhau y gall y defnyddiwr gwasanaethau brynu’r lefel o ofal a chymorth y mae ei angen i ddiwallu eu hanghenion. Gall methu â thalu’r cyfraniad arwain at wneud dyfarniad is yn y blynyddoedd ar ôl adolygiad. Mae hyn oherwydd y bydd yn ymddangos bod yr unigolyn yn gallu diwallu ei anghenion gyda dyfarniad is. Cynhelir adolygiadau ariannol er mwyn monitro bod dyfarniadau taliadau uniongyrchol yn cael eu defnyddio’n briodol a bod taliadau cyfraniadau yn digwydd. Gweler y polisi ar daliadau uniongyrchol am ragor o fanylion. Cyfeirir at y ffi hon fel cyfraniad. Bydd yr unigolyn (neu gynrychiolydd ariannol) yn atebol am gostau sy’n deillio o ymrwymo i gytundeb yn uniongyrchol â darparwr gwasanaeth.

Gallai’r costau hyn gynnwys cyfnodau rhybudd ac ati, ond ni fyddant yn gyfyngedig iddynt.

Caiff taliad gros ei wneud os na fydd ffurflen datganiad modd wedi dod i law erbyn i’r gwasanaeth taliadau uniongyrchol ddechrau. Caiff y cyfraniad ôl-ddyddiedig ei adennill unwaith y bydd yr asesiad ariannol wedi’i gwblhau a phan fydd swm y cyfraniad wedi’i gyfrifo. Mae hyn yn golygu y bydd y defnyddiwr gwasanaethau yn cael ei anfonebu am ei gyfraniad a chaiff hyn ei adennill naill ai drwy daliad uniongyrchol llai hyd nes y bydd y balans wedi’i setlo, neu drwy dalu’r balans gan y defnyddiwr gwasanaethau i Gyngor Sir Penfro.



Cymorth yn y cartref a’r gymuned (a elwir hefyd yn ofal yn y cartref, gofal cartref neu wasanaethau byw â chymorth)

Darperir y gwasanaeth hwn yn y cartref, ac mae’n cynnwys lleoliadau byw â chymorth. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i ofal personol, cymorth cefndir neu gymorth uniongyrchol, cymorth a rennir (cymorth a rennir gan fwy nag un unigolyn), nosweithiau cysgu mewn neu nosweithiau effro i’r rhai sydd mewn tenantiaethau byw â chymorth a gofal amgen. Os nad yw gofalwr (di-dâl) defnyddiwr gwasanaethau yn gallu darparu gofal rheolaidd am gyfnod byr, gellir ystyried darparu gofal amgen yn ei le. Darperir gofal amgen ar ffurf gofal yn y cartref, a chodir tâl amdano yn yr un ffordd.

Ffi – Codir hyn fesul awr yn wythnosol. Bydd hyn yn amodol ar yr uchafswm ffi ddibreswyl wythnosol. Bydd y rhent ar gyfer lleoliadau byw â chymorth, a delir gan Gyngor Sir Penfro ar ran y defnyddiwr gwasanaethau, yn cael ei adennill yn llawn gan y defnyddiwr gwasanaethau. Dylai’r defnyddiwr gwasanaethau ddefnyddio budd-dal tai i dalu’r gost hon. Caiff y gyfran o’r rhent nas telir gan fudd-dal tai ei diystyru yn yr asesiad ariannol.

Caiff cost yr oriau a rennir mewn lleoliadau byw â chymorth ei dosrannu yn ôl nifer y defnyddwyr gwasanaethau mewn trefniant rhannu oriau. Bydd y newid hwn ond yn effeithio ar y bobl a ganlyn:

  • Pobl y codir ffi arnynt sy’n llai na’r incwm asesedig sydd ar gael i dalu am ofal. Er enghraifft, mae asesiad ariannol Mr A yn dangos bod ganddo £80 yr wythnos y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ffioedd gofal. Cost ei becyn gofal presennol yw £50 yr wythnos a dyma’r ffi y codir arno. Os bydd rhywun yn gadael ei drefniant oriau a rennir bydd ei ffi yn cynyddu, ond os bydd rhywun yn ymuno, bydd ei ffi yn gostwng.
  • Pobl y codir ffi arnynt ar lefel eu hincwm asesedig. Er enghraifft, mae asesiad ariannol Mr B yn dangos bod ganddo £80 yr wythnos y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ffioedd gofal. Cost ei becyn gofal presennol yw £90 yr wythnos a chodir ffi o £80 arno ar hyn o bryd. Os bydd rhywun yn gadael ei drefniant oriau a rennir, bydd ei ffi yn £80 o hyd, ond os bydd rhywun yn ymuno, gallai ei ffi ostwng.
  • Pobl y codir yr uchafswm ffi wythnosol arnynt. Er enghraifft, mae asesiad ariannol Mr D yn dangos bod ganddo £135 yr wythnos y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ffioedd gofal. Cost ei becyn gofal presennol yw £250 yr wythnos a chodir yr uchafswm wythnosol arno ar hyn o bryd. Os bydd rhywun yn gadael ei drefniant oriau a rennir bydd ei ffi yn aros yr un fath ond os bydd rhywun yn ymuno, gallai ei ffi ostwng.

Prydau bwyd

Darperir prydau bwyd mewn lleoliadau preswyl, mewn canolfannau dydd a chanolfannau gweithgareddau cymdeithasol Cyngor Sir Penfro.

Ffi – Codir ffi am brydau bwyd, fesul pryd, ar gyfradd safonol. Ni fydd hyn yn amodol ar yr uchafswm ffi ddibreswyl wythnosol.



Gofal preswyl parhaol

Mae lleoliad gofal preswyl / nyrsio parhaol yn lleoliad y disgwylir iddo bara mwy na 12 mis. Bydd yn rhaid i bawb sy’n cael lleoliad preswyl / nyrsio parhaol dalu tuag at y gost, ac eithrio rhywun sy’n destun i ofynion adran 117 (gweler "Pwy Na Fydd Ffioedd Yn Cael Eu Codi Arnynt" am ragor o fanylion). Bydd asesiad ariannol yn cyfrifo faint y bydd yn rhaid i unigolyn ei dalu. O ganlyniad bydd gan yr unigolyn o leiaf yr isafswm incwm wythnosol a nodir yn y rheoliadau.

Ffi – Codir ffi am ofal preswyl / nyrsio parhaol o dan y rheolau gofal preswyl. Gweler y paragraffau sy’n ymwneud â phreswyliaeth arferol, asesiadau ariannol, cyfraniadau cost ychwanegol, unigolion sy’n ariannu gofal eu hunain, ffi cost lawn a dewis o lety am ragor o fanylion.



Ailalluogi

Cymorth tymor byr yw ailalluogi er mwyn cynnal neu adennill annibyniaeth. Fe’i darperir am hyd at chwe wythnos yng nghartref yr unigolyn yn y gymuned. Gellir effeithio ar y cyfnod hwn gan ddarpariaeth gofal canolraddol [a elwir hefyd yn wasanaeth gwely ailalluogi] yn union cyn ailalluogi yn y gymuned. Mae hyn yn golygu, os yw unigolyn wedi bod mewn gwely ailalluogi am bythefnos ac yna’n parhau’r ailalluogi gartref, dim ond hyd at bedair wythnos o ailalluogi yn y cartref a fydd am ddim.

Ffi – Ar ôl y cyfnod cychwynnol (fel y’i pennir yn y cynllun gofal) codir ffi am wasanaeth ailalluogi ar yr un gyfradd â chymorth yn y cartref a’r gymuned, fesul awr yn wythnosol; yn amodol ar yr uchafswm wythnosol.



Rhannu’r Gofal

Mae Rhannu’r Gofal yn cyfeirio at becyn cymorth a fydd yn cynnwys mwy nag un math o gymorth. Defnyddir y pecyn gofal hwn i helpu rhywun i bontio o un math o gymorth i’r llall. I gael manylion llawn am hyn, cyfeiriwch at y polisi rhannu gofal.

Os yw’r pecyn gofal yn gyfuniad o ofal dibreswyl a phreswyl, bydd y rheolau codi ffioedd a gymhwysir yn dibynnu ar y rhaniad canrannol rhwng y mathau o wasanaeth hyn. Caiff ffi am bob gwasanaeth ei hasesu a chaiff y rhaniad canrannol ei gymhwyso. Cyfrifoldeb y defnyddiwr gwasanaethau neu ei gynrychiolydd ariannol fydd sicrhau bod yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cael gwybod pa wasanaethau y mae’r unigolyn yn eu cael, ac ar ba ddiwrnodau.



Cysylltu bywydau (lleoliadau oedolion)

Mae gwasanaethau Cysylltu bywydau yn cynnwys y canlynol:

  • 10.12.1 Trefniadau tymor hir – mewn cartref gyda gofalwyr cymeradwy sy’n darparu gofal a chymorth am gyfnod o fwy na chwe mis. Ffi  – Y defnyddiwr gwasanaethau neu ei gynrychiolydd ariannol fydd yn gyfrifol am dalu’r ffi cyfradd safonol ar gyfer pob pryd bwyd a llety. Ariennir y ffioedd hyn gan fudd-dal tai ac felly maent y tu allan i’r rheoliadau codi ffioedd a’r cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Fel rheol, y defnyddwyr gwasanaethau sy’n gyfrifol am dalu costau byw arferol, megis bwyd.
  • 10.12.2 Trefniadau tymor byr – mewn cartref gyda gofalwyr cymeradwy sy’n darparu gofal a chymorth am gyfnod o rhwng un a chwe mis.

Ffi – Bydd gweinyddwyr Cysylltu Bywydau yn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau yn cael ffurflenni ariannol perthnasol i’w cwblhau fel y gellir cynnal asesiad ariannol dibreswyl er mwyn cyfrifo’u ffi. Ni ddylai seibiannau byr a threfniadau tymor byr bara mwy nag wyth wythnos. Os oes rhaid i’r trefniant barhau caiff y ffi tymor hir ei chodi.

  • Seibiannau byr – gyda gofalwyr cymeradwy sy’n darparu gofal a chymorth am gyfnod.

Ffi – Bydd gweinyddwyr Cysylltu Bywydau yn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau yn cael ffurflenni ariannol perthnasol i’w cwblhau fel y gellir cynnal asesiad ariannol dibreswyl er mwyn cyfrifo’u ffi. Ni ddylai seibiannau byr a threfniadau tymor byr bara mwy nag wyth wythnos. Os oes rhaid i’r trefniant barhau caiff y ffi tymor hir ei chodi.

  • Trefniadau brys – ar gyfer darparu llety neu gymorth ar fyr rybudd am gyfnod [pa gyfnod].

Ffi – Cyfrifoldeb y defnyddiwr gwasanaethau neu ei gynrychiolydd ariannol fydd talu’r ffi cyfradd safonol am bob pryd bwyd a llety. Ariennir y ffioedd hyn gan fudd-dal tai ac felly maent y tu allan i’r rheoliadau codi ffioedd a’r cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Fel rheol, y defnyddwyr gwasanaethau sy’n gyfrifol am dalu costau byw arferol, megis bwyd.

  • Cymorth sesiynol – ar gyfer darparu cymorth fesul awr.

Ffi – Bydd gweinyddwyr Cysylltu Bywydau yn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau yn cael ffurflenni ariannol perthnasol i’w cwblhau fel y gellir cynnal asesiad ariannol dibreswyl er mwyn cyfrifo’u ffi.

  • Gofal personol / cymorth ychwanegol – ar gyfer darparu cymorth fesul awr i ategu unrhyw drefniadau eraill ar gyfer cymorth Cysylltu Bywydau.

Ffi – Bydd gweinyddwyr Cysylltu Bywydau yn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau yn cael ffurflenni ariannol perthnasol i’w cwblhau fel y gellir cynnal asesiad ariannol dibreswyl er mwyn cyfrifo’u ffi. Ni ddylai seibiannau byr a threfniadau tymor byr bara mwy nag wyth wythnos. Os oes rhaid i’r trefniant barhau caiff y ffi tymor hir ei chodi.

Seibiannau byr

Dyma’r ddarpariaeth barhaus o ofal a chymorth mewn lleoliadau heblaw cartrefi gofal cofrestredig, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i westai. Gellir darparu’r gwasanaethau hyn i’r rhai sy’n cael gofal a chymorth yn y gymuned y mae angen seibiant byr arnynt. Ni fydd y rhain yn para mwy nag wythnos. Darperir y rhain i ddiwallu anghenion asesedig defnyddwyr gwasanaethau a/neu ofalwyr di-dâl.

Ffi – Codir tâl am y rhain ar sail amgylchiadau unigol yn unol â’r rheoliadau codi ffioedd dibreswyl.

Gwelyau gofal preswyl / gofal nyrsio tymor byr

Mae hwn yn arhosiad mewn lleoliad preswyl cofrestredig (e.e. cartref gofal) nad yw fel arfer yn para mwy nag wyth wythnos yn olynol. Os nad yw gofalwr (di-dâl) defnyddiwr gwasanaethau yn gallu darparu gofal rheolaidd am gyfnod byr, gellir ystyried gwely mewn lleoliad tymor byr fel dewis amgen. Codir ffi am hyn yn unol â’r rheolau perthnasol o ran codi ffioedd.

Ffi – Caiff cyfradd gofal nos ei chodi ar sail cyfraddau wythnosol cartrefi gofal unigol. Bydd hyn yn amodol ar yr uchafswm ffi ddibreswyl wythnosol. Bydd y gyfradd gofal nos ar gyfer unrhyw fudd-daliadau y mae’r unigolyn yn eu cael yn cael ei defnyddio yn yr asesiad ariannol i gyfrifo ffi am arosiadau preswyl tymor byr. Os bydd arhosiad sy’n para am saith noson neu lai yn digwydd ar draws bythefnos codir ffi fesul noson ar y defnyddiwr gwasanaethau, a bydd hefyd yn ofynnol iddo dalu’r uchafswm ffi ddibreswyl wythnosol neu ei ffi asesedig, pa un bynnag yw’r lleiaf.

Enghraifft A – Mae Mr A yn cael gofal yn y catref ac y mae’n talu £50 yr wythnos. Mae ei asesiad ariannol yn dangos mai £50 yw’r uchafswm y mae’n gallu ei dalu fesul wythnos. Mae’n cael wythnos o seibiant mewn cartref gofal o ddydd Llun i ddydd Llun, ac felly nid yw’n cael gofal yn y cartref. Cost y catref gofal yw £872.51 yr wythnos, ond dim ond £50 y mae’n ei dalu.

Enghraifft B – Mae Ms G yn cael ei chynnal gan ei theulu ac nid yw’n cael unrhyw gymorth arall gan y gwasanaethau cymdeithasol yn y cartref. Mae Ms G yn cael pythefnos o seibiant y flwyddyn gan fod ei hasesiad ariannol yn dangos mai £100 yw’r uchafswm y mae’n gallu ei dalu fesul wythnos. Bydd Ms G yn cael dwy noson o seibiant yr wythnos hon ar nos Fawrth a nos Fercher, a dwy noson o seibiant yr wythnos nesaf ar nos Wener a Nos Sadwrn. Y gyfradd gofal nos yw £124.64, ond ffi o £100 yn unig y codir ar Ms G am yr wythnos gyntaf, a £100 am yr wil wythnos.

Enghraifft C – Mae Ms G hefyd wedi archebu wythnos gyfan o seibiant o ddydd Mercher tan y dydd Mercher canlynol. Gyda’r gyfradd gofal nos yn £124.64, y cyfanswm am saith noson fyddai £872.51. Gan fod yr arhosiad hwn yn saith noson yn olynol, ffi o £100 yn unig y codir ar Ms G.

Gwelyau adsefydlu / ailalluogi neu ofal canolraddol

Yn union yr un modd ag ailalluogi, gellid darparu’r gofal hwn pan fo angen asesedig, am ddim am hyd at chwe wythnos. Darperir y gofal hwn er mwyn hwyluso rhyddhad diogel neu i atal derbyniad i ysbyty. Ni ddarperir y gofal hwn tra bo unigolyn yn aros i becyn gofal arall gael ei ddarparu yn ei gartref yn y gymuned. Mae’n bosibl y bydd unigolyn yn gymwys am estyniad a fydd yn seiliedig ar adolygiad o anghenion asesedig fesul achos.

Ffi – Bydd y cyfnod cychwynnol am ddim hyd at chwe wythnos. Gellir effeithio ar y cyfnod hwn gan y ddarpariaeth ailalluogi yn y gymuned yn union cyn y lleoliad gwely ailalluogi. Mae hyn yn golygu, os bydd unigolyn yn cael pythefnos o ailalluogi yn y gymuned ac yn parhau’r ailalluogi mewn lleoliad gwely ailalluogi, dim ond hyd at bedair wythnos yn y lleoliad gwely ailalluogi a fydd am ddim. Ar ôl y cyfnod cychwynnol am ddim (hyd at chwe wythnos gan ddibynnu ar asesiad), codir ffi ar gyfer yr wyth wythnos nesaf yn unol â rheolau dibreswyl. Gweler “Gwelyau gofal preswyl / gofal nyrsio tymor byr“ am ragor o fanylion. Ar ôl wyth wythnos, ac am hyd at 12 mis, codir ffi ar yr unigolyn yn unol â’r rheolau codi ffioedd preswyl am leoliadau dros dro. Ar ôl 12 mis codir ffi ar yr unigolyn yn unol â’r rheolau ar gyfer lleoliadau parhaol.

Gwelyau cymorth interim (aros am ofal cartref)

Cynigir gwely mewn cartref gofal priodol i unigolyn sydd wedi’i optimeiddio’n feddygol ac sy’n barod i gael ei ryddhau (gan gynnwys pan fydd wedi’i asesu gan y gwasanaethau cymdeithasol), ond na ellir dod o hyd i ofal cartref ar ei gyfer ar unwaith.

Ffi – Am yr wyth wythnos gyntaf bydd y tâl yn seiliedig ar nifer asesedig yr oriau gofal cartref y byddai eu hangen ar yr unigolyn. Ar ôl yr wyth wythnos gyntaf caiff yr achos ei adolygu a chodir ffi ar yr unigolyn yn unol â’r rheolau codi ffioedd preswyl am leoliadau dros dro. Ar ôl 12 mis codir ffi ar yr unigolyn yn unol â’r rheolau ar gyfer lleoliadau parhaol.

Gofal seibiant

I’r rhai yr aseswyd bod angen gofal seibiant arnynt, bydd y manylion ym “Gwelyau gofal preswyl / gofal nyrsio tymor byr“ uchod yn berthnasol yn ogystal â’r canlynol:

  • Codir ffi ar yr unigolyn sy’n cael y gofal seibiant. Mae hyn yn golygu y bydd y ffi am ofal seibiant a ddarperir er mwyn i ofalwr di-dâl gael saib yn cael ei chodi ar yr unigolyn sy’n cael y gwasanaeth.
  • Caiff nifer yr wythnosau o ofal seibiant a ddarperir ei phennu fel rhan o’r asesiad integredig a chaiff ei chynnwys yng nghynllun gofal yr unigolyn / gofalwr.
  • Bydd unigolyn y dyfarnwyd taliad uniongyrchol am ofal seibiant iddo yn gyfrifol am unrhyw ddiffyg rhwng swm ei daliad uniongyrchol a chost y lleoliad gofal seibiant.
  • Bydd angen talu cyfraniadau cost ychwanegol os yw’r unigolyn yn dewis opsiwn drutach na’r hyn y cytunwyd arno yn y cynllun gofal.
  • Gwasanaethau gofal seibiant yng nghartrefi gofal Cyngor Sir Penfro [Havenhurst, Milford House a Hillside]
  1. Codir y gost lawn ar unigolyn nad yw’n preswylio fel arfer yn Sir Benfro.
  2. Codir y gost lawn ar breswylydd yn Sir Benfro sydd wedi cael taliad uniongyrchol am wasanaethau gofal seibiant. Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r unigolyn dalu unrhyw ddiffyg rhwng y gost lawn a swm ei daliadau uniongyrchol.
  3. Bydd angen i breswylydd yn Sir Benfro nad yw’n hysbys i’r tîm gwasanaethau cymdeithasol, neu heb ei asesu ganddynt ar gyfer gwasanaethau gofal seibiant, atgyfeirio drwy’r tîm cyswllt cyntaf er mwyn canfod ei gymhwysedd ar gyfer gofal seibiant. Os bydd yr asesiad hwn yn nodi bod angen gofal seibiant, codir ffi ddibreswyl hyd at yr uchafswm ffi wythnosol cenedlaethol.
  4. Codir y gost lawn ar breswylydd yn Sir Benfro nad yw’n dymuno cael ei asesu gan y tîm gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer gwasanaethau gofal seibiant ac sydd am brynu’r gwasanaeth hwn yn breifat.

Ffi – Gweler "Gwelyau gofal preswyl / gofal nyrsio tymor byr".



Arhosiad preswyl dros dro

Disgwylir i arhosiad preswyl dros dro mewn cartref gofal preswyl / gofal nyrsio cofrestredig bara mwy nag wyth wythnos yn olynol, hyd at 12 mis. Bydd yn rhaid i bawb sy’n cymryd lleoliad preswyl / nyrsio dros dro dalu tuag at y gost, ac eithrio rhywun sy’n destun y gofynion yn adran 117 (Gweler “Pwy Na Fydd Ffioedd Yn Cael Eu Codi Arnynt” am ragor o fanylion).



Cludiant

Bydd y defnyddwyr gwasanaethau nad oes ganddynt angen asesedig am gludiant yn gyfrifol am gostau cludiant y mae eu hangen i gael mynediad i wasanaethau megis canolfannau dydd neu weithgareddau yn y gymuned.

Ffi – Fel arfer codir ffi am gludiant fesul taith ar gyfradd safonol. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd hwn yn drafodiad rhwng y defnyddiwr gwasanaethau a’r darparwr trafnidiaeth.

ID: 12536, adolygwyd 08/01/2025