Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol

Asesu a Diwallu Anghenion

Mae Rhan 3 o SSWBA – Adrannau 19, 21 a 24 – yn rhoi dyletswyddau ar awdurdod lleol i asesu anghenion oedolyn am ofal a chymorth, anghenion plentyn am ofal a chymorth ac anghenion gofalwr am gymorth.

Mae Rhan 4 o SSWBA yn pennu bod gan Awdurdodau Lleol dyletswydd i ddiwallu anghenion a nodwyd fel rhan o asesiad gofal a chymorth, ar yr amod bod yr unigolyn yn byw fel arfer yn nhiriogaeth yr awdurdod lleol neu heb breswylfa arferol ac o fewn tiriogaeth yr awdurdod. Bydd yr asesiad hwn yn pennu pa anghenion y mae’r Awdurdod Lleol yn gorfod eu diwallu a pha anghenion fydd yn cael eu diwallu gan yr unigolyn neu drwy wasanaethau a chymorth sydd ar gael yn y gymuned. Bydd faint sydd i’w dalu gan rywun am wasanaeth yn dibynnu weithiau ar ddewis yr unigolyn. Pan fo hynny’n berthnasol, os bydd rhywun yn cael dewis rhwng dau neu fwy o wasanaethau sy’n diwallu’r anghenion a aseswyd ar y gyfradd safonol sy’n cael ei thalu gan yr Awdurdod Lleol a’r unigolyn yn dewis un drutach, bydd yr unigolyn neu rywun arall yn gorfod talu’r swm ychwanegol, ar ben y taliad a godir gan yr Awdurdod Lleol. I gael rhagor o fanylion ynghylch yr amgylchiadau hyn, cyfeiriwch at wasanaethau unigol isod.

ID: 9887, adolygwyd 26/04/2023