Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol
Gwybodaeth a Chyngor
Mae gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i ddarparu mynediad i wybodaeth am wneud y mwyaf o incwm, a gwybodaeth am yr asesiad ariannol a’r polisi codi ffioedd. Darperir gwybodaeth mewn fformat sy’n gyson ag anghenion cyfathrebu’r unigolyn. Gellir cael cyngor a chymorth yn uniongyrchol gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu’r gwasanaethau eiriolaeth, a gomisiynir gan Gyngor Sir Penfro.
Asesiadau Ariannol
Bydd asesiadau ariannol yn cael eu cynnig i bawb sy’n cael gwasanaeth y gellir codir ffi amdano lle nad oes ffi wedi’i chodi arno ar gyfradd safonol. Bydd yr asesiad ariannol yn canfod faint y gall defnyddiwr gwasanaethau fforddio i’w dalu tuag at gost ei ofal.
Byddwn yn sgrinio’r ffurflenni gwybodaeth ariannol o fewn pum niwrnod gwaith a byddwn yn rhoi gwybod i’r defnyddiwr gwasanaethau / cynrychiolydd ariannol os bydd arnom angen rhagor o wybodaeth. Byddwn yn rhoi asesiad ariannol i chi o fewn 15 niwrnod gwaith i’r dyddiad y daw set gyflawn o wybodaeth ariannol i law.
Hysbysir defnyddwyr gwasanaethau am unrhyw oedi rhwng dechrau’r gwasanaeth a’r anfoneb gyntaf. Mae hyn oherwydd y cyfnod amser a ganiateir ar gyfer dychwelyd ffurflen ariannol wedi’i chwblhau gyda dogfennaeth ategol, a hefyd cylch prosesu anfonebau Cyngor Sir Penfro a wneir bob pedair wythnos. Weithiau ceir oedi cyn i wybodaeth ariannol gyflawn ddod i law ar gyfer yr asesiad ariannol, a fydd yn ychwanegu at yr oedi. Tra bo defnyddwyr gwasanaethau yn aros am ganlyniad asesiad ariannol, mae’n bwysig eu bod yn cynilo digon o’u hincwm i dalu’r anfoneb gyntaf a fydd yn cynnwys ffioedd o’r diwrnod y dechreuodd y gwasanaeth.
Cynghorir defnyddwyr gwasanaethau i gysylltu â’r tîm adennill dyledion os ydynt yn credu y bydd hi’n anodd iddynt dalu’r anfoneb gyntaf. Gellir ystyried creu cynllun ad-dalu, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Os bydd gan ddefnyddwyr gwasanaethau mewn lleoliad cartref gyfalaf / cynilion gwerth mwy na £50,000, codir y gost lawn arnynt. Os yw’r incwm wythnosol yn llai na swm y gost lawn a bod cyfalaf ond dim cynilion gwerth mwy na £50,000, gallem wneud trefniadau i ohirio’r gyfran o’r ffi nad yw’r incwm wythnosol yn ddigon i’w thalu.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â pholisïau asesiad ariannol, taliadau gohiriedig ac adennill dyled yr adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Pwy na fydd ffioedd yn cael eu codi arnynt
Ni fydd ffi yn cael ei chodi ar y bobl ganlynol (gan gynnwys cyfraniadau ar gyfer taliadau uniongyrchol):
- Plentyn, am y gofal a’r cymorth y mae’n ei gael fel defnyddiwr gwasanaethau neu fel gofalwr.
- Rhiant neu warcheidwad plentyn neu blentyn sy’n ofalwr sy’n cael gofal a chymorth. (Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn caniatáu ar gyfer ffioedd, ond mae rheoliadau cyfredol yn eithrio hyn.)
- Unigolyn sydd â chlefyd Creutzfeldt-Jacob.
- Gofalwr, am wasanaethau a ddarperir neu a drefnir ar gyfer yr unigolyn y mae’n gofalu amdano. Mae hyn yn eithrio gofalwr sydd wedi cytuno i dalu cyfraniad ychwanegol o’r gost fel trydydd parti.
- Unigolyn sy’n ymadael â gofal, hyd at 25 oed, nad yw’n cael gofal a chymorth a ddarperir fel rhan o gynllun gofal a chymorth oedolion.
- Unigolyn sy’n cael y cyllid llawn ar gyfer ei ofal iechyd parhaus. Mae hyn yn amodol ar asesiad o anghenion gan y tîm Iechyd a’r tîm Gofal Cymdeithasol ar y cyd. Bydd hyn yn berthnasol o’r dyddiad a bennir gan y bwrdd iechyd yn eu llythyr cadarnhau i Gyngor Sir Penfro. Pan fo’n berthnasol, bydd y cyfrifoldeb am gontractio gyda’r darparwr yn trosglwyddo o Gyngor Sir Penfro i’r bwrdd iechyd lleol.
- Unigolyn y mae angen ôl-ofal arno o dan adran 117 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl.
Ar bwy y codir ffioedd
Bydd defnyddwyr gwasanaethau nad ydynt yn dod o fewn un o’r categorïau yn adran 6 o’r polisi codi ffioedd hwn yn cael asesiad ariannol sy’n dangos eu ffi asesedig. Byddant yn cael anfoneb am eu cyfraniad tuag at gost eu gofal a chymorth.
Codir y gyfradd briodol ar awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau eraill sy’n defnyddio cyfleusterau a gwasanaethau Cyngor Sir Penfro i ddiwallu anghenion plant. Codir ffi ar rieni plant sy’n dewis opsiynau gwasanaethau sydd y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion asesedig y plant hynny, yn unol â’r rheoliadau Cyfraniad Cost Ychwanegol.
Codir ffi ar drydydd partïon sy’n cyfrannu tuag at gost y gofal ar gyfer ffrind / perthynas. Gelwir hyn yn gyfraniad cost ychwanegol.
Hunanariannu
O dan adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gall y rhai sy’n ariannu eu lleoliad cartref gofal eu hunain ofyn i’w hawdurdod lleol drefnu eu gofal a’u cymorth ar eu cyfer os dymunant. Bydd Cyngor Sir Penfro yn cytuno i drefnu’r lleoliad gofal os bydd asesiad o anghenion yn canfod bod angen y gwasanaeth y gofynnir amdano. Os bydd Cyngor Sir Penfro yn trefnu’r lleoliad cartref gofal, Cyngor Sir Penfro fydd yn dal y contract a bydd yr unigolyn neu ei gynrychiolydd ariannol yn cael ei anfonebu am gost lawn y lleoliad. Bydd Cyngor Sir Penfro yn codi ffi weinyddol am y gwasanaeth hwn. Os bydd adnoddau ariannol yr unigolyn yn gostwng islaw’r terfyn a osodwyd yn y rheoliadau, tra bo’r unigolyn yn dal i fod yn y lleoliad, bydd rhaid darparu gwybodaeth ariannol fel y gellir cynnal asesiad ariannol er mwyn cyfrifo’r ffi ar gyfer gofal yr unigolyn. Os yw cost y lleoliad yn fwy na’r gost safonol y bydd Cyngor Sir Penfro fel arfer yn ei thalu am leoliad o’r fath, bydd rheolau’r cyfraniad cost ychwanegol yn berthnasol pan fydd adnoddau ariannol yr unigolyn yn gostwng islaw’r terfyn a osodwyd yn y rheoliadau.
Bydd angen i’r rheiny sy’n cytuno ar gontract ac yn ariannu eu lleoliad cartref gofal eu hunain gyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol am asesiad o anghenion o leiaf chwe mis cyn i’w cynilion fynd islaw’r trothwy deddfwriaethol. Bydd Cyngor Sir Penfro yn cychwyn contract gyda’r cartref gofal ar eu rhan o’r dyddiad y cytunwyd arno yn y cynllun gofal a chymorth. Bydd eu ffi asesedig hefyd yn cychwyn o’r dyddiad y cytunwyd arno yn y cynllun gofal a chymorth.
Bydd angen i’r rheiny sy’n hunanariannu drwy Gyngor Sir Penfro hysbysu timau rheoli gofal ac asesiad ariannol y gwasanaethau cymdeithasol o leiaf dri mis cyn i’w cynilion ddisgyn islaw’r trothwy. Efallai y bydd yn ofynnol iddynt ddarparu’r wybodaeth ariannol ddiweddaraf ar gyfer asesiad ariannol diwygiedig. Bydd eu ffi diwygiedig yn gymwys o’r dyddiad pan fydd eu cynilion yn disgyn islaw’r trothwy. Os bydd cost lleoliad a hunanariennir yn uwch na’r gyfradd y byddai Cyngor Sir Penfro fel arfer yn ei thalu, gellir gofyn i’r sawl sy’n hunanariannu symud i leoliad sydd â chost safonol pan fydd eu cynilion / cyfalaf yn disgyn islaw’r trothwy.
Ffi cost lawn
Bydd ffi cost lawn, sydd wedi’i hasesu ar sail gwybodaeth a ddarparwyd ar gyfer asesiad ariannol, yn parhau i gael ei godi hyd nes y bydd gwerth cynilion / ased(au) y defnyddiwr gwasanaethau yn gostwng islaw’r terfynau a osodwyd yn y rheoliadau. Os oes gan unigolyn gynilion sydd uwchlaw’r terfyn cenedlaethol a buddiant mewn eiddo, ni fydd yr eiddo’n cael ei ystyried yn yr asesiad ariannol hyd nes i’r cynilion ostwng islaw’r terfyn cenedlaethol. Os bydd y gostyngiad hwn yn cymryd mwy na 12 wythnos i ddigwydd, ni fydd y ddiystyriaeth eiddo 12 wythnos yn berthnasol mwyach. Bydd Cyngor Sir Penfro yn defnyddio’r gyfran o’r ffi cost lawn y gellir ei phriodoli i’r arbedion / ased(au) i leihau eu gwerth. Bydd hyn yn parhau i fod yn berthnasol oni bai y darperir tystiolaeth i’r gwrthwyneb i Gyngor Sir Penfro. Bydd ffi cost lawn a godwyd gan na ddarparwyd unrhyw wybodaeth ariannol yn parhau i gael ei godi hyd nes y darperir yr wybodaeth honno a hyd nes y cynhelir asesiad ariannol er mwyn cyfrifo’r ffi ar gyfer gofal yr unigolyn. Caiff y ffi asesedig newydd hon ei chodi o’r dyddiad y cwblheir yr asesiad ariannol.
Cyfraniadau cost ychwanegol
Gwasanaethau dibreswyl
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol mewn perthynas â gweithgareddau a gynhelir yn ystod y cyfnod y darperir gwasanaethau dibreswyl. Gallai’r rhain gynnwys costau fel ffioedd mynediad, prydau bwyd allan ac ati. Caiff y costau hyn eu talu gan y defnyddiwr gwasanaethau neu drydydd parti, megis cynorthwyydd personol neu weithiwr cymorth y defnyddiwr gwasanaethau, ar adeg prynu eitemau. Ni fydd taliadau uniongyrchol a dyfarniadau cyfleoedd dydd yn cael eu darparu i dalu am y mathau hyn o gostau gan nad ydynt yn ymwneud ag anghenion asesedig y defnyddiwr gwasanaethau.
Os yw’r defnyddiwr gwasanaethau neu ei gynrychiolydd eisiau gofal neu gymorth ychwanegol, bydd angen iddo drefnu hyn yn uniongyrchol gyda darparwr y gwasanaeth dibreswyl. Bydd rhaid i’r unigolyn neu ei gynrychiolydd ariannol dalu’r holl gostau ar gyfer y trefniant hwn i’r darparwr gwasanaeth yn uniongyrchol.
Gwasanaethau preswyl
Gall defnyddiwr gwasanaethau ddewis opsiwn drutach sy’n ychwanegol at yr hyn y mae ei angen i ddiwallu ei anghenion asesedig. Mewn achosion o’r fath, efallai y bydd modd i drydydd parti dalu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn y bydd Cyngor Sir Penfro yn ei dalu a chost y gwasanaeth. Bydd angen i’r trydydd parti fod yn fodlon talu, allan o’i adnoddau ariannol ei hun, y gost ychwanegol ar gyfer y cyfnod y mae angen y gwasanaeth. Rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth ariannol ofynnol fel y gellir gwneud asesiad o fforddiadwyedd a chynaliadwyedd hirdymor y taliad hwn. Os bydd y trydydd parti yn methu â thalu ac yn methu neu’n anfodlon talu’r gost ychwanegol, mae’n bosibl y caiff y defnyddiwr gwasanaethau ei symud i leoliad ystafell / cartref gofal ar gyfradd safonol Cyngor Sir Penfro.
Ni chaniateir i ddefnyddiwr gwasanaethau dalu cyfraniad cost ychwanegol oni bai y gellir ei ohirio yn erbyn eu budd ariannol mewn eiddo. Gwneir hyn os bydd yr eiddo yn gymwys i’w gynnwys yn yr asesiad ariannol. Os na ellir cymryd yr eiddo i ystyriaeth yn yr asesiad ariannol, o dan y rheoliadau ariannol, ni chaniateir i’r defnyddiwr gwasanaethau ohirio’r cyfraniad cost ychwanegol yn ei erbyn.
Os na all Cyngor Sir Penfro ddarparu dau opsiwn ar gyfer lleoliad cartref gofal dros dro neu barhaol ar y gyfradd safonol y byddai Cyngor Sir Penfro fel arfer yn disgwyl ei thalu, bydd Cyngor Sir Penfro yn talu cost ychwanegol lleoliad addas a fydd yn diwallu anghenion yr unigolyn.
Ffioedd a Thaliadau
Llywodraethir ffioedd a thaliadau yn rhannol gan ddeddfwriaeth ac yn rhannol gan bolisïau ariannol lleol. Bydd y rhain wedi’u gosod ar lefel a fydd yn caniatáu ar gyfer adennill y gost lawn i’r awdurdod lleol. Byddant yn cael eu hadolygu fel rhan o broses y gyllideb bob blwyddyn. Ni fydd ffioedd am wasanaethau yn fwy na chost darparu neu drefnu’r gofal a chymorth neu’r hyn y gellir ei gyrchu trwy daliadau uniongyrchol. Bydd ffioedd yn berthnasol o’r dyddiad y dechreuodd y gwasanaeth neu, os yw’r gwasanaeth wedi newid caiff y ffi newydd ei chodi o’r dyddiad y newidiodd y gwasanaeth. Bydd defnyddwyr gwasanaethau / cynrychiolwyr ariannol yn cael eu hysbysu am newidiadau i ffioedd a thaliadau. Bydd hyn yn cynnwys hysbysiad am y dyddiad y cânt eu codi ohono. Efallai y bydd angen gwneud newidiadau i ffioedd a thaliadau yn ôl-weithredol, a phan fydd hyn yn digwydd bydd Cyngor Sir Penfro yn casglu’r taliadau hyn mewn ffordd resymol.
Caiff y ffi a godir ar y defnyddiwr gwasanaethau ei chyfrifo fel rhan o’r asesiad ariannol. Caiff y ffi ei hanfonebu neu ei didynnu o daliad uniongyrchol / dyfarniad cyfle dydd, ar ôl darparu datganiad ariannol sy’n nodi’r tâl / cyfraniad. Am restr o ffioedd a thaliadau gweler: ffioedd a thaliadau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol
Fel arfer mae oedi rhwng dechrau’r gwasanaeth a’r anfoneb gyntaf. Mae hyn fel arfer oherwydd y bu oedi cyn i wybodaeth ariannol gyflawn ddod i law ar gyfer yr asesiad ariannol. Pan fydd hyn yn digwydd bydd y ffi yn berthnasol o ddyddiad dechrau’r gwasanaeth. Mae’n bwysig sicrhau y cedwir digon o arian i dalu’r taliad swmp cyntaf. Os bydd defnyddiwr gwasanaethau / cynrychiolydd ariannol wedi methu â chadw digon o arian at y diben hwn, dylai gysylltu â’r tîm Adennill Dyled i drefnu cynllun ad-dalu. Bydd cynllun ad-dalu at y diben hwn fel arfer yn rhychwantu rhwng tri a chwe mis.
Mae’n anffodus y gall fod camddealltwriaeth weithiau ynghylch a fydd ffi gofal yn cael ei chodi, ac os felly pryd, neu pa fath o ffi y dylid ei chodi. O dan yr amgylchiadau hyn bydd Cyngor Sir Penfro yn hysbysu’r defnyddiwr gwasanaethau / cynrychiolydd ariannol am y gwall a bydd yn gweithredu cyfnod rhybudd o ddau fis cyn y codir y ffi gywir.
Ffioedd a thaliadau dibreswyl
Ar gyfer gwasanaethau dibreswyl mae Llywodraeth Cymru yn gosod uchafswm wythnosol ar gyfer y ffi y caniateir ei chodi ar unigolyn. Os yw defnyddiwr gwasanaethau yn cael mwy nag un math o wasanaeth dibreswyl caiff costau’r rhain i gyd eu hadio at ei gilydd, a bydd un ffi gofal, hyd at y ffi wythnosol asesedig / yr uchafswm wythnosol (pa un bynnag sydd isaf) yn cael ei chodi.
Ffioedd cyfradd safonol
Bydd ffioedd cyfradd safonol yn cael eu gosod ar gyfer gofal a chymorth lefel isel, cost isel, megis larymau cymunedol, costau gweinyddol, atebion technoleg cynorthwyol ac ati. Caiff y ffioedd cyfradd safonol hyn hefyd eu codi pan fydd pobl yn dewis yr opsiwn taliadau uniongyrchol ar gyfer y gwasanaethau hyn. Ni fydd ffioedd cyfradd safonol yn fwy na’r gost yr eir iddi i drefnu neu ddarparu’r gofal a chymorth cysylltiedig. Ar gyfer ffioedd cyfradd safonol, ni chynigir ac ni chynhelir asesiadau ariannol oni bai y bernir, naill ai ar wahân neu ar y cyd â ffioedd gofal a chymorth eraill, y bydd y taliadau cyfradd safonol yn cael effaith andwyol ar incwm unigolyn.
Gwasanaethau na chaiff ffi ei chodi amdanynt
Bydd rhai gwasanaethau yn cael eu darparu am ddim, sef y rhai a ganlyn:
- Gwasanaeth ailalluogi (a ddarperir yng nghartref yr unigolyn yn y gymuned) neu welyau adsefydlu / ailalluogi gofal canolraddol (a ddarperir mewn cartref gofal Cyngor Sir Penfro) am hyd at chwe wythnos, er mwyn galluogi defnyddwyr gwasanaethau i gynnal neu adennill y gallu i fyw’n annibynnol yn eu cartref yn y gymuned.
- Gwasanaethau ôl-ofal a ddarperir / a drefnir o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
- Cludiant i wasanaeth dydd, lle nodwyd bod angen y cludiant fel angen asesedig yng nghynllun gofal y defnyddiwr gwasanaethau.
- Gwasanaeth eiriolaeth broffesiynol annibynnol a ddarperir / a drefnir gan Gyngor Sir Penfro o dan Ran 10 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Asesiad o anghenion, asesiad ariannol, cynllun gofal, darparu datganiadau ffi, ac adolygiadau o ffioedd gofal.
- Rhaglenni cyflogaeth a drefnir / a ddarperir gan Gyngor Sir Penfro.
Gwasanaethau y gellir codi ffi amdanynt
Bob blwyddyn, cyhoeddir rhestr o ffioedd a thaliadau yn dilyn adolygiad blynyddol ohonynt.
Larymau cymunedol a thechnoleg gynorthwyol
Cysylltu bywydau (lleoliadau oedolion)
Gwelyau gofal preswyl / gofal nyrsio tymor byr
Ffioedd gweinyddol
Codir ffioedd gweinyddol ar gyfer trefnu neu weinyddu rhai gwasanaethau. Caiff rhestr lawn o ffioedd gweinyddol ei nodi yn y rhestr o ffioedd a thaliadau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Bydd Cyngor Sir Penfro yn trosglwyddo’r gost o gael arwystl cyfreithiol yn erbyn ased, megis eiddo, boed hynny fel rhan o gytundeb taliad gohiriedig neu oherwydd methiant i dalu costau gofal.
Penodeiaeth
Mae Cyngor Sir Penfro yn gweithredu fel penodai i reoli’r prosesau o gael taliadau budd-daliadau a thalu biliau ar ran y defnyddwyr gwasanaethau sy’n byw yn y gymuned neu mewn cartref gofal.
Ffi – Codir ffi am y gwasanaeth hwn ar gyfradd safonol fesul wythnos.
Larymau cymunedol a thechnoleg gynorthwyol
Darperir larymau cymunedol a pheth technoleg gynorthwyol er mwyn cynorthwyo pobl i gadw eu hannibyniaeth yn y gymuned.
Ffi – Codir ffi am y gwasanaethau hyn ar gyfradd safonol.
Cyfleoedd dydd
Gall cyfleoedd dydd gynnwys ystod o wasanaethau.
- Codir ffi am gyfleoedd dydd a ddarperir yn un o ganolfannau gweithgareddau cymdeithasol / dydd y cyngor, a hynny ar gyfradd ddyddiol. Bydd hyn yn amodol ar yr uchafswm ffi ddibreswyl wythnosol.
- Codir ffi am gyfleoedd dydd a ddarperir mewn lleoliadau eraill ar sail amgylchiadau unigol, a bydd hyn yn amodol ar yr uchafswm ffi ddibreswyl wythnosol.
- Codir ffi am gyfleoedd hyfforddiant a ddarperir i ddiwallu anghenion asesedig, a hynny’n yn unol â’r rhaglen a gyrchir; a bydd yn amodol ar yr uchafswm ffi ddibreswyl wythnosol.
Gweler polisi cyfleoedd dydd Cyngor Sir Penfro am fanylion llawn.
Dirprwyaeth
Mae Cyngor Sir Penfro yn gweithredu fel dirprwy ar gyfer materion ariannol er mwyn rheoli pob mater ariannol ar ran y defnyddwyr gwasanaethau.
Ffi – Codir ffi am y gwasanaeth hwn ar y cyfraddau a bennir gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Taliadau uniongyrchol
Darperir taliadau uniongyrchol i ddiwallu ystod o anghenion. Telir dyfarniadau taliadau uniongyrchol fel heb gynnwys y cyfraniad. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r defnyddiwr gwasanaethau dalu ei gyfraniad i’r cyfrif y telir y dyfarniad taliad uniongyrchol iddo. Mae hyn yn sicrhau y gall y defnyddiwr gwasanaethau brynu’r lefel o ofal a chymorth y mae ei angen i ddiwallu eu hanghenion. Gall methu â thalu’r cyfraniad arwain at wneud dyfarniad is yn y blynyddoedd ar ôl adolygiad. Mae hyn oherwydd y bydd yn ymddangos bod yr unigolyn yn gallu diwallu ei anghenion gyda dyfarniad is. Cynhelir adolygiadau ariannol er mwyn monitro bod dyfarniadau taliadau uniongyrchol yn cael eu defnyddio’n briodol a bod taliadau cyfraniadau yn digwydd. Gweler y polisi ar daliadau uniongyrchol am ragor o fanylion. Cyfeirir at y ffi hon fel cyfraniad. Bydd yr unigolyn (neu gynrychiolydd ariannol) yn atebol am gostau sy’n deillio o ymrwymo i gytundeb yn uniongyrchol â darparwr gwasanaeth.
Gallai’r costau hyn gynnwys cyfnodau rhybudd ac ati, ond ni fyddant yn gyfyngedig iddynt.
Caiff taliad gros ei wneud os na fydd ffurflen datganiad modd wedi dod i law erbyn i’r gwasanaeth taliadau uniongyrchol ddechrau. Caiff y cyfraniad ôl-ddyddiedig ei adennill unwaith y bydd yr asesiad ariannol wedi’i gwblhau a phan fydd swm y cyfraniad wedi’i gyfrifo. Mae hyn yn golygu y bydd y defnyddiwr gwasanaethau yn cael ei anfonebu am ei gyfraniad a chaiff hyn ei adennill naill ai drwy daliad uniongyrchol llai hyd nes y bydd y balans wedi’i setlo, neu drwy dalu’r balans gan y defnyddiwr gwasanaethau i Gyngor Sir Penfro.
Cymorth yn y cartref a’r gymuned (a elwir hefyd yn ofal yn y cartref, gofal cartref neu wasanaethau byw â chymorth)
Darperir y gwasanaeth hwn yn y cartref, ac mae’n cynnwys lleoliadau byw â chymorth. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i ofal personol, cymorth cefndir neu gymorth uniongyrchol, cymorth a rennir (cymorth a rennir gan fwy nag un unigolyn), nosweithiau cysgu mewn neu nosweithiau effro i’r rhai sydd mewn tenantiaethau byw â chymorth a gofal amgen. Os nad yw gofalwr (di-dâl) defnyddiwr gwasanaethau yn gallu darparu gofal rheolaidd am gyfnod byr, gellir ystyried darparu gofal amgen yn ei le. Darperir gofal amgen ar ffurf gofal yn y cartref, a chodir tâl amdano yn yr un ffordd.
Ffi – Codir hyn fesul awr yn wythnosol. Bydd hyn yn amodol ar yr uchafswm ffi ddibreswyl wythnosol. Bydd y rhent ar gyfer lleoliadau byw â chymorth, a delir gan Gyngor Sir Penfro ar ran y defnyddiwr gwasanaethau, yn cael ei adennill yn llawn gan y defnyddiwr gwasanaethau. Dylai’r defnyddiwr gwasanaethau ddefnyddio budd-dal tai i dalu’r gost hon. Caiff y gyfran o’r rhent nas telir gan fudd-dal tai ei diystyru yn yr asesiad ariannol.
Caiff cost yr oriau a rennir mewn lleoliadau byw â chymorth ei dosrannu yn ôl nifer y defnyddwyr gwasanaethau mewn trefniant rhannu oriau. Bydd y newid hwn ond yn effeithio ar y bobl a ganlyn:
- Pobl y codir ffi arnynt sy’n llai na’r incwm asesedig sydd ar gael i dalu am ofal. Er enghraifft, mae asesiad ariannol Mr A yn dangos bod ganddo £80 yr wythnos y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ffioedd gofal. Cost ei becyn gofal presennol yw £50 yr wythnos a dyma’r ffi y codir arno. Os bydd rhywun yn gadael ei drefniant oriau a rennir bydd ei ffi yn cynyddu, ond os bydd rhywun yn ymuno, bydd ei ffi yn gostwng.
- Pobl y codir ffi arnynt ar lefel eu hincwm asesedig. Er enghraifft, mae asesiad ariannol Mr B yn dangos bod ganddo £80 yr wythnos y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ffioedd gofal. Cost ei becyn gofal presennol yw £90 yr wythnos a chodir ffi o £80 arno ar hyn o bryd. Os bydd rhywun yn gadael ei drefniant oriau a rennir, bydd ei ffi yn £80 o hyd, ond os bydd rhywun yn ymuno, gallai ei ffi ostwng.
- Pobl y codir yr uchafswm ffi wythnosol arnynt. Er enghraifft, mae asesiad ariannol Mr D yn dangos bod ganddo £135 yr wythnos y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ffioedd gofal. Cost ei becyn gofal presennol yw £250 yr wythnos a chodir yr uchafswm wythnosol arno ar hyn o bryd. Os bydd rhywun yn gadael ei drefniant oriau a rennir bydd ei ffi yn aros yr un fath ond os bydd rhywun yn ymuno, gallai ei ffi ostwng.
Prydau bwyd
Darperir prydau bwyd mewn lleoliadau preswyl, mewn canolfannau dydd a chanolfannau gweithgareddau cymdeithasol Cyngor Sir Penfro.
Ffi – Codir ffi am brydau bwyd, fesul pryd, ar gyfradd safonol. Ni fydd hyn yn amodol ar yr uchafswm ffi ddibreswyl wythnosol.
Gofal preswyl parhaol
Mae lleoliad gofal preswyl / nyrsio parhaol yn lleoliad y disgwylir iddo bara mwy na 12 mis. Bydd yn rhaid i bawb sy’n cael lleoliad preswyl / nyrsio parhaol dalu tuag at y gost, ac eithrio rhywun sy’n destun i ofynion adran 117 (gweler "Pwy Na Fydd Ffioedd Yn Cael Eu Codi Arnynt" am ragor o fanylion). Bydd asesiad ariannol yn cyfrifo faint y bydd yn rhaid i unigolyn ei dalu. O ganlyniad bydd gan yr unigolyn o leiaf yr isafswm incwm wythnosol a nodir yn y rheoliadau.
Ffi – Codir ffi am ofal preswyl / nyrsio parhaol o dan y rheolau gofal preswyl. Gweler y paragraffau sy’n ymwneud â phreswyliaeth arferol, asesiadau ariannol, cyfraniadau cost ychwanegol, unigolion sy’n ariannu gofal eu hunain, ffi cost lawn a dewis o lety am ragor o fanylion.
Ailalluogi
Cymorth tymor byr yw ailalluogi er mwyn cynnal neu adennill annibyniaeth. Fe’i darperir am hyd at chwe wythnos yng nghartref yr unigolyn yn y gymuned. Gellir effeithio ar y cyfnod hwn gan ddarpariaeth gofal canolraddol [a elwir hefyd yn wasanaeth gwely ailalluogi] yn union cyn ailalluogi yn y gymuned. Mae hyn yn golygu, os yw unigolyn wedi bod mewn gwely ailalluogi am bythefnos ac yna’n parhau’r ailalluogi gartref, dim ond hyd at bedair wythnos o ailalluogi yn y cartref a fydd am ddim.
Ffi – Ar ôl y cyfnod cychwynnol (fel y’i pennir yn y cynllun gofal) codir ffi am wasanaeth ailalluogi ar yr un gyfradd â chymorth yn y cartref a’r gymuned, fesul awr yn wythnosol; yn amodol ar yr uchafswm wythnosol.
Rhannu’r Gofal
Mae Rhannu’r Gofal yn cyfeirio at becyn cymorth a fydd yn cynnwys mwy nag un math o gymorth. Defnyddir y pecyn gofal hwn i helpu rhywun i bontio o un math o gymorth i’r llall. I gael manylion llawn am hyn, cyfeiriwch at y polisi rhannu gofal.
Os yw’r pecyn gofal yn gyfuniad o ofal dibreswyl a phreswyl, bydd y rheolau codi ffioedd a gymhwysir yn dibynnu ar y rhaniad canrannol rhwng y mathau o wasanaeth hyn. Caiff ffi am bob gwasanaeth ei hasesu a chaiff y rhaniad canrannol ei gymhwyso. Cyfrifoldeb y defnyddiwr gwasanaethau neu ei gynrychiolydd ariannol fydd sicrhau bod yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cael gwybod pa wasanaethau y mae’r unigolyn yn eu cael, ac ar ba ddiwrnodau.
Cysylltu bywydau (lleoliadau oedolion)
Mae gwasanaethau Cysylltu bywydau yn cynnwys y canlynol:
- 10.12.1 Trefniadau tymor hir – mewn cartref gyda gofalwyr cymeradwy sy’n darparu gofal a chymorth am gyfnod o fwy na chwe mis. Ffi – Y defnyddiwr gwasanaethau neu ei gynrychiolydd ariannol fydd yn gyfrifol am dalu’r ffi cyfradd safonol ar gyfer pob pryd bwyd a llety. Ariennir y ffioedd hyn gan fudd-dal tai ac felly maent y tu allan i’r rheoliadau codi ffioedd a’r cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Fel rheol, y defnyddwyr gwasanaethau sy’n gyfrifol am dalu costau byw arferol, megis bwyd.
- 10.12.2 Trefniadau tymor byr – mewn cartref gyda gofalwyr cymeradwy sy’n darparu gofal a chymorth am gyfnod o rhwng un a chwe mis.
Ffi – Bydd gweinyddwyr Cysylltu Bywydau yn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau yn cael ffurflenni ariannol perthnasol i’w cwblhau fel y gellir cynnal asesiad ariannol dibreswyl er mwyn cyfrifo’u ffi. Ni ddylai seibiannau byr a threfniadau tymor byr bara mwy nag wyth wythnos. Os oes rhaid i’r trefniant barhau caiff y ffi tymor hir ei chodi.
- Seibiannau byr – gyda gofalwyr cymeradwy sy’n darparu gofal a chymorth am gyfnod.
Ffi – Bydd gweinyddwyr Cysylltu Bywydau yn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau yn cael ffurflenni ariannol perthnasol i’w cwblhau fel y gellir cynnal asesiad ariannol dibreswyl er mwyn cyfrifo’u ffi. Ni ddylai seibiannau byr a threfniadau tymor byr bara mwy nag wyth wythnos. Os oes rhaid i’r trefniant barhau caiff y ffi tymor hir ei chodi.
- Trefniadau brys – ar gyfer darparu llety neu gymorth ar fyr rybudd am gyfnod [pa gyfnod].
Ffi – Cyfrifoldeb y defnyddiwr gwasanaethau neu ei gynrychiolydd ariannol fydd talu’r ffi cyfradd safonol am bob pryd bwyd a llety. Ariennir y ffioedd hyn gan fudd-dal tai ac felly maent y tu allan i’r rheoliadau codi ffioedd a’r cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Fel rheol, y defnyddwyr gwasanaethau sy’n gyfrifol am dalu costau byw arferol, megis bwyd.
- Cymorth sesiynol – ar gyfer darparu cymorth fesul awr.
Ffi – Bydd gweinyddwyr Cysylltu Bywydau yn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau yn cael ffurflenni ariannol perthnasol i’w cwblhau fel y gellir cynnal asesiad ariannol dibreswyl er mwyn cyfrifo’u ffi.
- Gofal personol / cymorth ychwanegol – ar gyfer darparu cymorth fesul awr i ategu unrhyw drefniadau eraill ar gyfer cymorth Cysylltu Bywydau.
Ffi – Bydd gweinyddwyr Cysylltu Bywydau yn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau yn cael ffurflenni ariannol perthnasol i’w cwblhau fel y gellir cynnal asesiad ariannol dibreswyl er mwyn cyfrifo’u ffi. Ni ddylai seibiannau byr a threfniadau tymor byr bara mwy nag wyth wythnos. Os oes rhaid i’r trefniant barhau caiff y ffi tymor hir ei chodi.
Seibiannau byr
Dyma’r ddarpariaeth barhaus o ofal a chymorth mewn lleoliadau heblaw cartrefi gofal cofrestredig, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i westai. Gellir darparu’r gwasanaethau hyn i’r rhai sy’n cael gofal a chymorth yn y gymuned y mae angen seibiant byr arnynt. Ni fydd y rhain yn para mwy nag wythnos. Darperir y rhain i ddiwallu anghenion asesedig defnyddwyr gwasanaethau a/neu ofalwyr di-dâl.
Ffi – Codir tâl am y rhain ar sail amgylchiadau unigol yn unol â’r rheoliadau codi ffioedd dibreswyl.
Gwelyau gofal preswyl / gofal nyrsio tymor byr
Mae hwn yn arhosiad mewn lleoliad preswyl cofrestredig (e.e. cartref gofal) nad yw fel arfer yn para mwy nag wyth wythnos yn olynol. Os nad yw gofalwr (di-dâl) defnyddiwr gwasanaethau yn gallu darparu gofal rheolaidd am gyfnod byr, gellir ystyried gwely mewn lleoliad tymor byr fel dewis amgen. Codir ffi am hyn yn unol â’r rheolau perthnasol o ran codi ffioedd.
Ffi – Caiff cyfradd gofal nos ei chodi ar sail cyfraddau wythnosol cartrefi gofal unigol. Bydd hyn yn amodol ar yr uchafswm ffi ddibreswyl wythnosol. Bydd y gyfradd gofal nos ar gyfer unrhyw fudd-daliadau y mae’r unigolyn yn eu cael yn cael ei defnyddio yn yr asesiad ariannol i gyfrifo ffi am arosiadau preswyl tymor byr. Os bydd arhosiad sy’n para am saith noson neu lai yn digwydd ar draws bythefnos codir ffi fesul noson ar y defnyddiwr gwasanaethau, a bydd hefyd yn ofynnol iddo dalu’r uchafswm ffi ddibreswyl wythnosol neu ei ffi asesedig, pa un bynnag yw’r lleiaf.
Enghraifft A – Mae Mr A yn cael gofal yn y catref ac y mae’n talu £50 yr wythnos. Mae ei asesiad ariannol yn dangos mai £50 yw’r uchafswm y mae’n gallu ei dalu fesul wythnos. Mae’n cael wythnos o seibiant mewn cartref gofal o ddydd Llun i ddydd Llun, ac felly nid yw’n cael gofal yn y cartref. Cost y catref gofal yw £872.51 yr wythnos, ond dim ond £50 y mae’n ei dalu.
Enghraifft B – Mae Ms G yn cael ei chynnal gan ei theulu ac nid yw’n cael unrhyw gymorth arall gan y gwasanaethau cymdeithasol yn y cartref. Mae Ms G yn cael pythefnos o seibiant y flwyddyn gan fod ei hasesiad ariannol yn dangos mai £100 yw’r uchafswm y mae’n gallu ei dalu fesul wythnos. Bydd Ms G yn cael dwy noson o seibiant yr wythnos hon ar nos Fawrth a nos Fercher, a dwy noson o seibiant yr wythnos nesaf ar nos Wener a Nos Sadwrn. Y gyfradd gofal nos yw £124.64, ond ffi o £100 yn unig y codir ar Ms G am yr wythnos gyntaf, a £100 am yr wil wythnos.
Enghraifft C – Mae Ms G hefyd wedi archebu wythnos gyfan o seibiant o ddydd Mercher tan y dydd Mercher canlynol. Gyda’r gyfradd gofal nos yn £124.64, y cyfanswm am saith noson fyddai £872.51. Gan fod yr arhosiad hwn yn saith noson yn olynol, ffi o £100 yn unig y codir ar Ms G.
Gwelyau adsefydlu / ailalluogi neu ofal canolraddol
Yn union yr un modd ag ailalluogi, gellid darparu’r gofal hwn pan fo angen asesedig, am ddim am hyd at chwe wythnos. Darperir y gofal hwn er mwyn hwyluso rhyddhad diogel neu i atal derbyniad i ysbyty. Ni ddarperir y gofal hwn tra bo unigolyn yn aros i becyn gofal arall gael ei ddarparu yn ei gartref yn y gymuned. Mae’n bosibl y bydd unigolyn yn gymwys am estyniad a fydd yn seiliedig ar adolygiad o anghenion asesedig fesul achos.
Ffi – Bydd y cyfnod cychwynnol am ddim hyd at chwe wythnos. Gellir effeithio ar y cyfnod hwn gan y ddarpariaeth ailalluogi yn y gymuned yn union cyn y lleoliad gwely ailalluogi. Mae hyn yn golygu, os bydd unigolyn yn cael pythefnos o ailalluogi yn y gymuned ac yn parhau’r ailalluogi mewn lleoliad gwely ailalluogi, dim ond hyd at bedair wythnos yn y lleoliad gwely ailalluogi a fydd am ddim. Ar ôl y cyfnod cychwynnol am ddim (hyd at chwe wythnos gan ddibynnu ar asesiad), codir ffi ar gyfer yr wyth wythnos nesaf yn unol â rheolau dibreswyl. Gweler “Gwelyau gofal preswyl / gofal nyrsio tymor byr“ am ragor o fanylion. Ar ôl wyth wythnos, ac am hyd at 12 mis, codir ffi ar yr unigolyn yn unol â’r rheolau codi ffioedd preswyl am leoliadau dros dro. Ar ôl 12 mis codir ffi ar yr unigolyn yn unol â’r rheolau ar gyfer lleoliadau parhaol.
Gwelyau cymorth interim (aros am ofal cartref)
Cynigir gwely mewn cartref gofal priodol i unigolyn sydd wedi’i optimeiddio’n feddygol ac sy’n barod i gael ei ryddhau (gan gynnwys pan fydd wedi’i asesu gan y gwasanaethau cymdeithasol), ond na ellir dod o hyd i ofal cartref ar ei gyfer ar unwaith.
Ffi – Am yr wyth wythnos gyntaf bydd y tâl yn seiliedig ar nifer asesedig yr oriau gofal cartref y byddai eu hangen ar yr unigolyn. Ar ôl yr wyth wythnos gyntaf caiff yr achos ei adolygu a chodir ffi ar yr unigolyn yn unol â’r rheolau codi ffioedd preswyl am leoliadau dros dro. Ar ôl 12 mis codir ffi ar yr unigolyn yn unol â’r rheolau ar gyfer lleoliadau parhaol.
Gofal seibiant
I’r rhai yr aseswyd bod angen gofal seibiant arnynt, bydd y manylion ym “Gwelyau gofal preswyl / gofal nyrsio tymor byr“ uchod yn berthnasol yn ogystal â’r canlynol:
- Codir ffi ar yr unigolyn sy’n cael y gofal seibiant. Mae hyn yn golygu y bydd y ffi am ofal seibiant a ddarperir er mwyn i ofalwr di-dâl gael saib yn cael ei chodi ar yr unigolyn sy’n cael y gwasanaeth.
- Caiff nifer yr wythnosau o ofal seibiant a ddarperir ei phennu fel rhan o’r asesiad integredig a chaiff ei chynnwys yng nghynllun gofal yr unigolyn / gofalwr.
- Bydd unigolyn y dyfarnwyd taliad uniongyrchol am ofal seibiant iddo yn gyfrifol am unrhyw ddiffyg rhwng swm ei daliad uniongyrchol a chost y lleoliad gofal seibiant.
- Bydd angen talu cyfraniadau cost ychwanegol os yw’r unigolyn yn dewis opsiwn drutach na’r hyn y cytunwyd arno yn y cynllun gofal.
- Gwasanaethau gofal seibiant yng nghartrefi gofal Cyngor Sir Penfro [Havenhurst, Milford House a Hillside]
- Codir y gost lawn ar unigolyn nad yw’n preswylio fel arfer yn Sir Benfro.
- Codir y gost lawn ar breswylydd yn Sir Benfro sydd wedi cael taliad uniongyrchol am wasanaethau gofal seibiant. Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r unigolyn dalu unrhyw ddiffyg rhwng y gost lawn a swm ei daliadau uniongyrchol.
- Bydd angen i breswylydd yn Sir Benfro nad yw’n hysbys i’r tîm gwasanaethau cymdeithasol, neu heb ei asesu ganddynt ar gyfer gwasanaethau gofal seibiant, atgyfeirio drwy’r tîm cyswllt cyntaf er mwyn canfod ei gymhwysedd ar gyfer gofal seibiant. Os bydd yr asesiad hwn yn nodi bod angen gofal seibiant, codir ffi ddibreswyl hyd at yr uchafswm ffi wythnosol cenedlaethol.
- Codir y gost lawn ar breswylydd yn Sir Benfro nad yw’n dymuno cael ei asesu gan y tîm gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer gwasanaethau gofal seibiant ac sydd am brynu’r gwasanaeth hwn yn breifat.
Ffi – Gweler "Gwelyau gofal preswyl / gofal nyrsio tymor byr".
Arhosiad preswyl dros dro
Disgwylir i arhosiad preswyl dros dro mewn cartref gofal preswyl / gofal nyrsio cofrestredig bara mwy nag wyth wythnos yn olynol, hyd at 12 mis. Bydd yn rhaid i bawb sy’n cymryd lleoliad preswyl / nyrsio dros dro dalu tuag at y gost, ac eithrio rhywun sy’n destun y gofynion yn adran 117 (Gweler “Pwy Na Fydd Ffioedd Yn Cael Eu Codi Arnynt” am ragor o fanylion).
Cludiant
Bydd y defnyddwyr gwasanaethau nad oes ganddynt angen asesedig am gludiant yn gyfrifol am gostau cludiant y mae eu hangen i gael mynediad i wasanaethau megis canolfannau dydd neu weithgareddau yn y gymuned.
Ffi – Fel arfer codir ffi am gludiant fesul taith ar gyfradd safonol. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd hwn yn drafodiad rhwng y defnyddiwr gwasanaethau a’r darparwr trafnidiaeth.
Taliadau Gohiriedig
Mae’n bosibl y bydd angen i unigolyn werthu ei gartref er mwyn talu am ei gostau gofal mewn cartref gofal. Caiff cytundeb taliad gohiriedig ei gynnig i rywun sydd am ohirio gwerthu ei gartref hyd nes amser mwy addas, os yw’n bodloni’r meini prawf a nodir yn y rheoliadau taliadau gohiriedig. Mae’r polisi taliadau gohiriedig llawn ar gael ar gais. Mae’r rheoliadau yn caniatáu disgresiwn i godi ffioedd gweinyddol a llog hyd at 0.15% yn fwy na chyfradd gilt y farchnad fel y’i hadroddir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn eu hadroddiad Rhagolygon Economaidd a Chyllid. Bydd y rhestr ffioedd a thalidau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn cynnwys manylion ffioedd gweinyddol a llog gohiriedig y gellir eu codi.
Os nad yw’r unigolyn yn gymwys ar gyfer cytundeb taliad gohiriedig, neu os nad yw eisiau cytundeb o’r fath, bydd angen iddo dalu’r ffi asesedig lawn. Os na all unigolyn fforddio talu’r ffi asesedig lawn hyd nes y bydd wedi gwaredu’r ased, bydd Cyngor Sir Penfro yn gwneud cais am arwystl cyfreithiol yn erbyn yr ased os bydd yr unigolyn yn methu â thalu. Bydd Cyngor Sir Penfro yn trosglwyddo’r costau gweinyddol ar gyfer cael yr arwystl cyfreithiol a bydd hefyd yn dechrau codi llog ar y ddyled sy’n weddill.
Apeliadau ffioedd gofal
Mae defnyddwyr gwasanaethau sy’n credu y gwnaed camgymeriad wrth gyfrifo’r ffi asesedig; neu sy’n credu bod ganddynt wariant sy’n ymwneud ag anghenion ychwanegol na chafodd ei ystyried yn yr asesiad ariannol, yn gallu gofyn am adolygiad o’u ffi asesedig. Am fanylion llawn gweler y daflen ffeithiau a’r polisi ar apeliadau ffioedd gofal.
Adennill dyledion ac amddifadu asedau
Adennill dyledion
Caiff hyn ei ddechrau pan fo’n amlwg ei fod o ganlyniad i fethiant bwriadol yr unigolyn i dalu. Caiff pob opsiwn rhesymol arall ei ystyried cyn defnyddio pwerau adennill dyledion o dan adran 70 (adennill costau, llog etc) o’r Ddeddf, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: ymgysylltu / ymgynghori, negodi, cyfryngu a chamau llys os ystyrir bod hyn yn briodol. Ni fydd gweithwyr achos a rheolwyr gwasanaethau cymdeithasol yn adennill dyledion er mwyn sicrhau nad oes gwrthdaro buddiannau a sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i ganolbwyntio ar ddiwallu yr
anghenion asesedig. Fodd bynnag, bydd staff gwasanaethau cymdeithasol yn cymryd rhan yng ngham cyntaf y broses adennill dyledion er mwyn ymgysylltu â’r defnyddiwr gwasanaethau; er mwyn canfod yr amgylchiadau sydd wedi arwain at fethu â thalu a cheisio datrys hyn yn gynnar. Ymgynghorir â staff gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y broses hefyd pan fo angen. Caiff pob achos ei ystyried yn ôl ei rinweddau er mwyn sicrhau y rhoddir sylw priodol i amgylchiadau penodol megis iechyd a llesiant ac unrhyw anghenion cyfathrebu.
Llog ar ddyledion
Codir llog ar ddyledion sy’n weddill yn unol â’r rheoliadau sy’n caniatáu disgresiwn i godi ffioedd gweinyddol a llog hyd at 0.15% yn fwy na chyfradd gilt y farchnad fel y’i hadroddir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn eu hadroddiad Rhagolygon Economaidd a Chyllid.
Amddifadu asedau
Pan fydd unigolyn yn cael gwared ar ased yn fwriadol er mwyn lleihau’r swm y mae’n ei gyfrannu at gost ei ofal, fe’i gelwir yn amddifadu asedau. Yn yr achosion hyn caiff cyfalaf tybiannol ei gymhwyso i asesiadau ariannol. Mae hyn yn digwydd pan nad yw unigolyn yn berchen ar gyfalaf mewn gwirionedd ond ei fod yn cael ei drin fel pe bai ganddo.
Caiff gwerth cyfalaf tybiannol ei gymhwyso i asesiad ariannol os canfyddir bod yr unigolyn wedi amddifadu ei hun o’r cyfalaf yn fwriadol, megis gwerthu neu drosglwyddo perchnogaeth eiddo, er mwyn lleihau’r swm y byddai angen iddo ei dalu tuag at gost ei ofal.
Os oes gan y defnyddiwr gwasanaethau gyfalaf sy’n fwy na’r terfyn cenedlaethol sy’n ychwanegol at ei gyfalaf tybiannol, caiff y rheol cyfalaf tybiannol ei gymhwyso o’r dyddiad y bydd y cyfalaf gwirioneddol yn gostwng islaw’r terfyn cyfalaf.
Bydd y broses o ganfod amddifadedd asedau ar gyfer cymhwyso cyfalaf tybiannol yn dibynnu ar amgylchiadau unigol megis y rhai a ganlyn:
- Pa wasanaeth oedd yn cael ei ddarparu i’r defnyddiwr gwasanaethau ar adeg yr amddifadedd honedig.
- Pryd y canfuwyd yr anghenion asesedig ar gyfer y gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu y gellir codi ffi ar ei gyfer.
- Ar beth y cafodd yr arian a oedd yn ymwneud â’r ased(au) ei wario.
- Mewn achosion pan ystyrir bod y defnyddiwr gwasanaethau mewn perygl o ddioddef cam-drin ariannol gan berthnasau / pobl eraill, gwneir atgyfeiriad i’r tîm Gwasanaethau Diogelu.
- Os bydd ymchwiliad diogelu yn canfod bod cam-drin ariannol wedi arwain at amddifadu asedau, ni chaiff cyfalaf tybiannol ei gymhwyso i’r asesiad ariannol.
- Os bydd ymchwiliad gan yr heddlu yn canfod bod cam-drin ariannol neu ladrad wedi arwain at amddifadu asedau, ni chaiff cyfalaf tybiannol ei gymhwyso i’r asesiad ariannol.
- Caiff arian a adenillir o ganlyniad i ymchwiliad diogelu neu ymchwiliad gan yr heddlu ei ddefnyddio fel cynilion. Bydd hyn yn amodol ar y rheolau asesu ariannol ar drin cynilion.
Os honnir bod asedau wedi’u hamddifadu, gwahoddir y defnyddiwr gwasanaethau / cynrychiolydd ariannol i adolygiad. Fel rhan o’r adolygiad bydd angen rhagor o wybodaeth, ar sail y tair egwyddor ganlynol a ddefnyddir ar gyfer profi achosion o amddifadedd asedau yn unol ag adran 11.4 o’r Ddeddf ac a gydnabyddir hefyd gan yr Ombwdsmon:
- A oedd osgoi neu leihau ffi yn gymhelliant sylweddol;
- Amseriad gwaredu’r ased. Ar adeg gwaredu’r cyfalaf, a allai’r unigolyn fod wedi disgwyl yn rhesymol y byddai angen gofal a chymorth arno, hyd yn oed os nad oedd yn ei gael eto ar yr adeg hon; a hefyd
- A fyddai’r unigolyn wedi disgwyl yn rhesymol y byddai angen iddo gyfrannu tuag at gost hyn, naill ai nawr neu rywbryd yn y dyfodol.
Bydd angen tystiolaeth o’r tair egwyddor uchod, beth ddigwyddodd i’r ased, a’r rheswm dros ei waredu yn ystod yr adolygiad.
Gallai enghreifftiau gynnwys:
Ar gyfer asedau cyfalaf, tystiolaeth dderbyniol o’u gwaredu, megis y canlynol: (a) gweithred ymddiriedolaeth; (b) gweithred rhodd; (c) derbyniadau ar gyfer gwariant; (ch) tystiolaeth bod dyledion wedi’u had-dalu.
Llythyrau gan feddyg teulu a chofnodion meddygol ynghylch anghenion iechyd hirdymor yr unigolyn ar yr adeg y gwaredwyd yr ased.
Tystiolaeth wedi’i darparu o ble’r oedd yr unigolyn yn byw ar yr adeg y gwaredwyd yr ased ac a oedd yn cael unrhyw ofal a chymorth.
Atodiad 2 - Ffioedd a Thaliadau
Ar y dudalen hon:
Gwasanaethau a Gomisiynwyd Drwy Fframwaith y Cytunwyd Arno
Darparu gwasanaethau i ddarparwyr allanol ac awdurdodau lleol eraill (C)
Gwasanaethau Cartrefi Gofal Preswyl – Dros Dro (D)
Gwasanaethau a Gomisiynwyd Drwy Fframwaith y Cytunwyd Arno
Fframwaith Gofal Cartref
- 2023/24: Pwrpasol
- 2024/25: Pwrpasol
Fframwaith Byw â Chymorth
- 2023/24: Pwrpasol
- 2024/25: Pwrpasol
Ffioedd Cartrefi Gofal
Mae'r ffioedd yn rhai gros fesul person fesul wythnos, ac nid ydynt yn cynnwys Gofal Nyrsio a Ariennir. |
2023/24 |
2024/25 |
Gofal Nyrsio (Henoed Eiddil eu Meddwl) |
£908.95 |
£986.15 |
Gofal Preswyl (Henoed Eiddil eu Meddwl) |
£879.14 |
£954.23 |
Gofal Nyrsio |
£838.59 |
£908.28 |
Gofal Preswyl |
£805.30 |
£872.51 |
Elfen Gofal yr Awdurdod Lleol o Ffioedd Gofal Nyrsio a Ariennir |
£8.37 |
I’w gadarnhau |
Cyfraddau Taliad Uniongyrchol
Rhoddir i ddefnyddwyr gwasanaethau allu caffael gwasanaethau a nodwyd yn eu cynlluniau gofal a chymorth
Gwneir taliadau uniongyrchol ac eithrio cyfraniadau
Gwasanaethau yn y Cartref a Gwasanaethau Cymunedol – fesul awr |
2023/24 |
2024/25 |
Cyflogres a reolir a chyflogres nas rheolir |
£15.71 |
£14.77 |
Cyflogres hunanreoledig (cyfrifon heb eu rheoli yn unig) |
£15.71 |
£15.73 |
Asiantaeth, micro a hunangyflogedig |
£15.71 |
£17.40 |
[O 1 Ebrill 2024, bydd pobl yn gallu gwneud cais am gyllid ychwanegol ar gyfer trefniadau wrth gefn, costau gweinyddol a hyfforddiant os ydynt yn cyflogi eu cynorthwyydd personol eu hunain]
Sesiynau dydd – (3 awr y sesiwn) |
2023/24 |
2024/25 |
Cyflogres a reolir a chyflogres nas rheolir |
£53.55 |
£44.31 |
Cyflogres hunanreoledig (cyfrifon heb eu rheoli yn unig) |
£53.55 |
£47.19 |
Asiantaeth, micro a hunangyflogedig |
£53.55 |
£52.20 |
Arhosiad preswyl tymor byr [gofal seibiant] + preswyl mewn lleoliad cartref gofal – fesul wythnos |
2023/24 |
2024/25 |
Dan 65 oed |
£805.30 |
£872.51 |
Dros 65 oed |
£805.30 |
£872.51 |
Gofal Nyrsio |
£838.59 |
£908.28 |
Henoed Eiddil eu Meddwl |
£879.14 |
£954.23 |
Gofal Nyrsio Henoed Eiddil eu Meddwl |
£908.95 |
£986.15 |
Seibiant tymor byr yn y cartref + preswyl yn y cartref – fesul awr |
2023/24 |
2024/25 |
Cyflogres a reolir a chyflogres nas rheolir |
£15.71 |
£14.77 |
Cyflogres hunanreoledig (cyfrifon heb eu rheoli yn unig) |
£15.71 |
£15.73 |
Asiantaeth, micro a hunangyflogedig |
£15.71 |
£17.40 |
Taliadau (A)
Gwasanaethau a Ddarperir o dan Daliadau Dibreswyl
Hyd at uchafswm fesul wythnos ar gyfer pob cleient – mae'r cyfanswm y mae defnyddiwr gwasanaeth yn ei dalu yn dibynnu ar asesiad ariannol. (Caiff costau'r gwasanaethau a ddarparwyd/a gomisiynwyd sy'n ychwanegol at y rheini sydd eu hangen i ddiwallu anghenion gofal a aseswyd, eu codi ar wahân am y gost lawn.)
- 2023/24 - £100.00
- 2024/25 - I’w gadarnhau
Gwasanaethau yn y Cartref a Gwasanaethau Cymorth Cymunedol
Gofal personol a chymorth cyffredinol yn y cartref a'r gymuned - Fesul Awr
- 2023/24 - £21.12
- 2024/25 - I’w gadarnhau
Cyfleoedd Dydd (mewnol)
Mae hyn yn cynnwys defnyddio Canolfannau Gweithgareddau Dydd a Chymdeithasol Cyngor Sir Penfro a chyfleoedd dydd yn y gymuned.
(Ni fydd tâl ar gyfer trafnidiaeth i gyrraedd cyfleoedd dydd, lle y nodwyd yn asesiad integredig y cleient bod angen i wasanaethau cymdeithasol gyfarfod.)
Fesul Diwrnod |
2023/24 |
2024/25 |
Caffael gan ddarparwyr allanol |
£38.33 |
I’w gadarnhau |
Cynnal yng Nghyfleusterau Cyngor Sir Penfro |
£32.49 |
I’w gadarnhau |
Pwrpasol, gan gynnwys yn y gymuned |
Pwrpasol |
Pwrpasol |
Cyfleoedd Dydd DOIT
Yn cael eu dyfarnu i ddefnyddwyr gwasanaethau i brynu gwasanaethau a nodir yn eu cynlluniau gofal a chymorth o restr o ddarparwyr mewnol ac allanol a gymeradwywyd ymlaen llaw. Mae defnyddwyr gwasanaethau yn gallu prynu gwasanaethau gan fwy nag un darparwr i ddiwallu eu hanghenion gofal.
[Mae trefniadau contractiol rhwng y defnyddiwr gwasanaeth a’r darparwr gwasanaeth ac yn cael eu hwyluso gan wasanaeth y Tîm Gwybodaeth Cyfleoedd Dydd.]
Fesul sesiwn / Fesul awr |
2023/24 |
2024/25 |
Cyfraddau penodol o dan drothwy cytunedig | £53.55 | £53.55 |
Pecynnau pwrpasol gyda darpariaeth un-i-un o dan gyfradd fframwaith fesul awr y cytunwyd arni ymlaen llaw | Pwrpasol | Pwrpasol |
Arhosiad Byrdymor
Gelwir hefyd yn ofal seibiant.
Llai nag wyth wythnos yn olynol – Fesul Noson
- 2023/24: Yn seiliedig ar asesiad ariannol
- 2024/25: Yn seiliedig ar asesiad ariannol
Seibiannau Byr mewn Lleoliadau Dibreswyl – Fesul Diwrnod
Er mwyn sicrhau cysondeb â'r taliadau a godwyd ar y rheini sy'n cael seibiannau byr mewn cartrefi cofrestredig.
- 2023/24: Pwrpasol
- 2024/25: Pwrpasol
Lleoliadau Oedolion/Cysylltu Bywydau
Gofal a Chymorth mewn Lleoliadau Oedolion (Byrdymor) – Fesul Noson
- 2023/24: I’w gadarnhau
- 2024/25: I’w gadarnhau
Cyfleoedd Dydd – Fesul Awr
- 2023/24: I’w gadarnhau
- 2024/25: I’w gadarnhau
Taliadau Uniongyrchol
Defnyddiwr y gwasanaeth neu'r Unigolyn Cyfrifol (gyda chymorth gan yr Asiantaeth Cymorth ar gyfer Taliadau Uniongyrchol weithiau) sy'n gwneud y trefniadau gofal.
Gwasanaethau yn y Cartref a Gwasanaethau Cymunedol – Fesul Awr
|
2023/24 |
2024/25 |
Cyflogres a reolir a chyflogres nas rheolir |
£15.71 |
£14.77 |
Cyflogres hunanreoledig (cyfrifon heb eu rheoli yn unig) |
£15.71 |
£15.73 |
Asiantaeth, micro a hunangyflogedig |
£15.71 |
£17.40 |
[O 1 Ebrill 2024, bydd pobl yn gallu gwneud cais am gyllid ychwanegol ar gyfer trefniadau wrth gefn, costau gweinyddol a hyfforddiant os ydynt yn cyflogi eu cynorthwyydd personol eu hunain]
Sesiynau dydd – fesul sesiwn 3 awr |
2023/24 |
2024/25 |
Cyflogres a reolir a chyflogres nas rheolir |
£53.55 |
£44.31 |
Cyflogres hunanreoledig (cyfrifon heb eu rheoli yn unig) |
£53.55 |
£47.19 |
Asiantaeth, micro a hunangyflogedig |
£53.55 |
£52.20 |
Arhosiad Byrdymor (Gofal Seibiant) mewn Cartref Gofal Cofrestredig – Fesul Wythnos |
Yn seiliedig ar asesiad ariannol |
Yn seiliedig ar asesiad ariannol |
Taliadau Cyfradd Safonol (B)
Larymau Cymunedol – Larwm Gwddf sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth monitro – Fesul Wythnos
Uned Safonol VI (uned analog sy’n gweithio dros y llinell ffôn) |
2023/24 |
2024/25 |
Gyda Thystysgrif Esemptio oherwydd Anabledd |
|
£2.90 |
Heb Dystysgrif Esemptio oherwydd Anabledd |
|
£3.48 |
Hyb Clyfar (a chanddo gerdyn SIM ffôn symudol mewnol) |
2023/24 |
2024/25 |
Gyda Thystysgrif Esemptio oherwydd Anabledd |
|
£3.90 |
Heb Dystysgrif Esemptio oherwydd Anabledd |
|
£4.68 |
Prydau a ddarperir mewn Gwasanaethau Dydd Gofal Cymdeithasol – Fesul Pryd
- 2023/24: I’w gadarnhau
- 2024/25: I’w gadarnhau
Taliadau Gweinyddu Penodeiaethau
Penodeiaeth |
2023/24 |
2024/25 |
Penodeiaeth Cartrefi Gofal [yr wythnos, wedi’i dynnu o’r tâl asesu ariannol] |
£5.00 |
£6.25 |
Penodeiaeth Cymunedol [yr wythnos, yn ogystal â’r tâl asesu ariannol] |
£10.00 |
£12.50 |
Penodeiaeth – Ymdrin â’r trefniadau ar gyfer y sawl sydd wedi marw fel rhan o’r broses o ddelio â’r ystâd |
£300.00 |
£350.00 |
Taliadau Dirprwyaethau – yn unol â’r Canllawiau Gwarcheidwaid Cyhoeddus
Dirprwyaeth â chyfalaf |
2023/24 |
2024/25 |
Dirprwyaeth â chyfalaf o £20,300+ (blwyddyn 1af) [diwygiedig gan APAD o £16k+ yn 2024] |
£775 pa |
£982 pa |
Dirprwyaeth â chyfalaf o £20,300+ (blynyddoedd dilynol) [diwygiedig gan APAD o £16k+ yn 2024] |
£650 pa |
£824 pa |
Dirprwyaeth â chyfalaf hyd at £20,300 |
3.5% |
3.5% |
Dirprwyaeth ar gyfer gwaith paratoi pob achos |
£745 |
£944 |
Paratoi a chyflwyno adroddiad neu gyfrif i'r Gwarcheidwad Cyhoeddus |
£216 |
£274 |
Paratoi ffurflen dreth incwm sylfaenol Cyllid a Thollau EM (llog banc neu Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol a budd-daliadau trethadwy) |
£70 |
£89 |
Paratoi ffurflen dreth incwm gymhleth Cyllid a Thollau EM (llog banc neu Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, budd-daliadau trethadwy, portffolio buddsoddiadau bach) |
£140 |
I’w gadarnhau |
Cysylltu Bywydau - Ffi wythnosol a delir i ofalwyr Cysylltu Bywydau sy'n cynnwys £156 o'r elfen Llety a Phob Pryd Bwyd sy'n gyfrifoldeb yr Unigolyn sy'n byw mewn Lleoliad Cysylltu Bywydau tymor hir, i'w dalu
Fesul Wythnos |
2023/24 |
2024/25 |
Band A - telir y £161 sy'n weddill gan y Comisiynwyr |
£317 |
£317 |
Band B - telir y £294 sy'n weddill gan y Comisiynwyr |
£450 |
£450 |
Band C - telir y £417 sy'n weddill gan y Comisiynwyr |
£573 |
£573 |
Band D - telir y £532 sy'n weddill gan y Comisiynwyr |
£688 |
£688 |
(C) Darparu gwasanaethau i ddarparwyr allanol ac awdurdodau lleol eraill
Cyfleoedd Dydd
Taliadau i awdurdodau lleol eraill a darparwyr cartrefi preswyl preifat sy'n defnyddio gwasanaeth dydd – Fesul Diwrnod
- 2024/25 - I’w gadarnhau
Cartrefi Gofal Cyngor Sir Penfro
Milford House - Fesul Noson
- 2024/25 - £1,654
(D) Gwasanaethau Cartrefi Gofal Preswyl – Dros Dro
(rhwng 8 a 52 o wythnosau) a Pharhaol
Prynwyd
Mae'r tâl y mae'r cleient yn ei dalu yn seiliedig ar asesiad ariannol
Fesul wythnos |
2023/24 |
2024/25 |
Gofal Preswyl – Fesul Wythnos | £805.30 | £872.51 |
Gofal Preswyl – Henoed Eiddil eu Meddwl – Fesul Wythnos | £879.14 | £954.23 |
Gofal Nyrsio – Fesul Wythnos | £838.59 | £908.28 |
Gofal Nyrsio – Henoed Eiddil eu Meddwl – Fesul Wythnos | £908.95 | £986.15 |
Lleoliadau pwrpasol mewn cartrefi gofal allanol | Pwrpasol | Pwrpasol |
Cartrefi Gofal Cyngor Sir Penfro
Pob preswylydd waeth beth fo'r dyddiad cychwyn
Mae'r tâl y mae'r cleient yn ei dalu yn seiliedig ar asesiad ariannol
Fesul wythnos |
2023/24 |
2024/25 |
Gofal Preswyl | £805.30 | £872.51 |
Gofal Preswyl – Henoed Eiddil eu Meddwl | £879.14 | £954.23 |
(E) Taliadau wedi'u Gohirio
Pan gaiff eiddo ei ystyried fel rhan o asesiad ariannol cleient, gall ohirio / oedi cyn talu rhywfaint o'i gostau gofal. Mae hyn yn golygu nad oes angen iddo werthu ei eiddo ar unwaith. Mae costau gweinyddu yn cynnwys ffioedd cyfreithiol. Mae'r llog a gaiff ei godiyn seiliedig ar Ragolwg Cyllidol sy'n nodi Cyfradd Gilt y Farchnad. Gallai'r gyfradd hon newid bob chwe mis ar 1 Ionawr a 1 Mehefin.
Taliadau |
2023/24 |
2024/25 |
Llog a Godwyd |
4.80% |
4.20% |
Cost Gweinyddu (Tâl untro) |
£500.00 |
£550.00 |
Taliadau Eraill
Taliadau |
2023/24 |
2024/25 |
Archebu Ystafelloedd – Ystafell Hyfforddi Pennar - Hanner diwrnod |
£50.00 |
I’w gadarnhau |
Archebu Ystafelloedd – Ystafell Hyfforddi Pennar - Diwrnod llawn |
£100.00 |
I’w gadarnhau |
Hyfforddiant – Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (Cyrsiau Partneriaeth Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a gaiff eu rhedeg a'u hariannu gan gyrff allanol yn ôl y gofyn) |
Dibynnu ar y Cwrs |
Dibynnu ar y Cwrs |
Achosion cyfraith teulu Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd – Cwrs Gweithio Gyda'ch Gilydd Er Lles Plant – fesul cwrs |
£150.00 |
I’w gadarnhau |
Atodiad 1 - Deddfwriaeth
Mae’r ddeddfwriaeth ganlynol mewn cysylltiad â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 [SSWBA] yn berthnasol i’r polisi codi tâl hwn:
SSWBA
Rhan 4 – Diwallu Anghenion
Rhan 5 – Codi Tâl ac Asesiad Ariannol
Adrannau 194 a 195 o Ddeddf 2014 Preswylfa Arferol ac Anghydfodau ar Breswylfa Arferol a Hygludedd Gofal
Codau Ymarfer
Rhan 4 a Chodau Ymarfer 4 a 5 (Diwallu Anghenion, Codi Tâl ac Asesiad Ariannol)
Rheoliadau
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffïoedd) (Cymru) 2015
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Adolygu Penderfyniadau a Dyfarniadau Gosod Ffi) (Cymru) 2015
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2015
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015
Canllawiau Llywodraeth Cymru
Mae Cod Ymarfer 4 a 5 yn pennu gofynion wrth godi llog ar Daliadau Gohiriedig. Mae modd codi Cyfradd Gilt y Farchnad ynghyd â 0.15% fan bellaf. Bydd y gyfradd i’w defnyddio’n cael ei phennu gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ym Mhenderfynyddion y tabl rhagolygon cyllidol sef tabl 4.1 yn adroddiad cyhoeddedig y Rhagolwg Economaidd a Chyllidol: Budget Responsibility
Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Cod Ymarfer: Cod Ymarfer Rhannau 4 a 5 (Codi Ffioedd ac Asesiad Ariannol) a rheoliadau cysylltiedig, yn nodi’r gofynion ar gyfer polisi codi ffioedd. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Dylai sicrhau na chodir mwy o ffioedd ar bobl nag y mae’n rhesymol ymarferol iddynt eu talu, ac ni chaniateir codi ffioedd sy’n fwy na’r gost i’r awdurdod o ddarparu neu drefnu’r gofal a chymorth. Mae hyn yn golygu, os bydd y bwrdd iechyd yn ariannu pecyn gofal ar y cyd, mai dim ond y gyfran o gost y pecyn gofal i Gyngor Sir Penfro a gaiff ei hystyried wrth bennu’r ffi am ofal. Mae hyn hefyd yn berthnasol i ofal nyrsio a ariennir pan mai dim ond cost lleoliad nyrsio i Gyngor Sir Penfro a ddefnyddir wrth bennu ffi am ofal.
- Dylai fod yn gyson.
- Dylai fod yn glir ac yn dryloyw fel bod pobl yn gwybod beth fydd swm y ffi a godir arnynt.
- Dylai sicrhau y codir ffioedd mewn ffordd gyfartal a bod unrhyw anghysondebau y ffioedd a godir am wahanol fathau o ofal a chymorth wedi’u lleihau gymaint ag y bo modd.
- Dylai fod yn gynaliadwy i awdurdodau lleol yn y tymor hir.
Bydd Cyngor Sir Penfro yn codi ffi am ofal a chymorth a ddarperir i ddiwallu anghenion y penderfynir arnynt fel rhan o asesiad. Bydd taliadau hefyd am rai gwasanaethau ymyrraeth gynnar / gwasanaethau atal ac, mewn rhai achosion, bydd costau gweinyddol. Gelwir pobl sy’n cael gofal a chymorth yn ddefnyddwyr gwasanaethau, a gelwir y rhai sy’n darparu gofal di-dâl i rywun arall – fel arfer perthynas neu ffrind – yn ofalwyr. Mae’r rhestr a ganlyn yn cynnwys y prif fathau o ofal a chymorth a ddarperir:
- Ataliol – fel arfer mae’r gwasanaethau hyn ar gael heb asesiad ac fe’u darperir yn bennaf gan sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol.
- Dibreswyl – mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys gofal yn y cartref, taliadau uniongyrchol, cyfleoedd dydd, gwasanaethau byw â chymorth, gofal seibiant, seibiannau byr, cysylltu bywydau, gwelyau gofal canolraddol a gwelyau gofal yn y gymuned, a gwasanaethau ailalluogi.
- Preswyl – oni bai y crybwyllir fel arall yn benodol mae’r lleoliadau hyn yn cyfeirio at ofal preswyl neu ofal nyrsio drwy leoliad mewn cartref gofal. Mae’r rhain yn lleoliadau mewn cartrefi gofal cofrestredig naill ai dros dro (hyd at 12 mis) neu’n barhaol (mwy na 12 mis).
Bydd Cyngor Sir Penfro yn cyfrifo faint y bydd angen i unigolyn ei dalu (ei gyfraniad) tuag at gost ei ofal gan ddefnyddio gwybodaeth ariannol a ddarperir gan yr unigolyn hwnnw neu ei gynrychiolydd ariannol. Mae yna reoliadau penodol sy’n ymwneud â sut yr ydym yn trin gwahanol fathau o incwm, asedau, cynilion a threuliau. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran Asesiadau Ariannol.
Asesu a diwallu anghenion
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi’r gofynion ar gyfer asesu a diwallu anghenion gofal cymdeithasol rhywun. Byddwn yn asesu rhywun:
- sydd wedi gwneud y penderfyniad i fyw yn Sir Benfro fel ei brif ardal breswylio (sef bod yn breswylydd fel arfer ynddi); neu
- nad oes ganddo gartref sefydlog a’i fod yn Sir Benfro pan fo angen cymorth arno.
Bydd yr asesiad yn dangos pa anghenion y mae’n rhaid i’r tîm Gwasanaethau Cymdeithasol eu diwallu a pha anghenion a fydd yn cael eu diwallu wrth i’r unigolyn fanteisio ar wasanaethau a chymorth sydd ar gael yn y gymuned.
Preswylfa arferol
Mae adran 194 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gwneud darpariaeth ar gyfer canfod preswylfa arferol yr unigolyn. Mae’r unigolyn yn breswylydd arferol yn yr ardal y mae’n gwneud ei gartref ynddi, ni waeth a ydyw’n rhentu neu’n berchen ar eiddo neu’n byw gyda theulu neu ffrindiau. Os nad oes gan unigolyn breswylfa sefydlog pan asesir ei anghenion, caiff yr unigolyn hwnnw ei drin fel un o drigolion yr ardal y cynhelir yr asesiad ynddi.