Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd
Pa ofynion sydd ar fusnesau bwyd o ran bod â systemau digonol ar gyfer rheoli diogelwch bwyd?
Mae'n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sefydlu gweithdrefnau sy'n rheoli diogelwch bwyd yn eu sefydliad. Mae Erthygl 5 (1) o Reoliad 852/2004 yn bod rhaid i'r weithdrefn neu'r gweithdrefnau fod yn seiliedig ar egwyddorion HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol) sy'n ymwneud â dadansoddi peryglon a phwyntiau rheoli hanfodol. Dyma'r modd y mae'r ddeddfwriaeth yn diffinio'r egwyddorion hyn:
(a) nodi unrhyw beryglon y mae'n rhaid eu hatal, eu dileu neu eu lleihau i raddau derbyniol;
(b) nodi'r pwyntiau rheoli critigol ar y cam neu'r camau lle mae rheoli yn angenrheidiol er mwyn atal neu ddileu perygl neu ei leihau i raddau derbyniol;
(c) sefydlu terfynau critigol ar bwyntiau rheoli critigol sy'n gwahanu derbynioldeb oddi wrth annerbynioldeb ar gyfer atal, dileu neu leihau peryglon dynodedig;
(d) sefydlu a gweithredu gweithdrefnau monitro effeithiol ar bwyntiau rheoli critigol;
(e) sefydlu camau unioni pan yw monitro yn dangos nad yw pwynt rheoli critigol o dan reolaeth;
(f) sefydlu gweithdrefnau, a weithredir yn rheolaidd, i wirio bod y camau a amlinellir yn is-baragraffau (a) i (e) yn gweithio'n effeithiol; a
(g) sefydlu dogfennau a chofnodion sy'n gymesur â math a maint y busnes bwyd er mwyn dangos bod y camau a amlinellir yn is-baragraffau (a) i (f) yn gweithredu'n effeithiol.
Mae'r modd y mae'r ddeddfwriaeth wedi ei geirio yn cynnig hyblygrwydd yn gymaint ag y mae'n mynnu bod y gweithdrefnau wedi eu seilio ar yr egwyddorion hynny. Nid yw o raid yn gorfodi gweithredwyr busnesau bwyd i weithredu system HACCP os nad yw hyn yn briodol.
Bydd y graddau y bydd rhaid dogfennu systemau rheoli yn dibynnu ar weithgareddau'r busnes bwyd. Yn gyffredinol, y mwyaf yw'r perygl sy'n gysylltiedig â'r bwydydd sy'n cael eu trin neu eu paratoi mewn mangreoedd, neu'r mwyaf cymhleth yw'r busnes o ran nifer y gweithwyr a gyflogir neu nifer a math y camau arlwyo sydd i'r gwaith o ddarparu bwyd o fangreoedd, mwyaf bydd yr angen am asesiad mwy manwl.
Byddai asesiad o'r fath yn cynnwys dynodi peryglon, dynodi pwyntiau rheoli critigol a therfynau critigol, datblygu gweithdrefnau monitro priodol a chamau unioni i'w datblygu. Y mwyaf cymhleth yw'r busnes, y mwyaf yw'r angen i wirio bod y broses yn gweithio'n effeithiol a sefydlu a chynnal dogfennu a chadw cofnodion, er mwyn sicrhau diogelwch y bwydydd sy'n cael eu cynhyrchu neu eu trin.