Arfarnu Cynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol
Gwerthusiad Cynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol
Beth yw Gwerthusiad Cynaliadwyedd?
Mae Gwerthusiad Cynaliadwyedd (GC) yn ofyn statudol. Diben GC yw sicrhau bod rhai polisïau, cynlluniau a chynigion neilltuol yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Fe allai cynlluniau a pholisïau’r Cyngor gael goblygiadau posibl i’r amgylchedd, yr economi a chymdeithas a bydd y gwerthusiad yn caniatáu i’r Cyngor bwyso a mesur a lliniaru’r goblygiadau hyn. Bydd hefyd o gymorth wrth baratoi’r cynlluniau sy’n hybu ffurfiau cynaliadwy ar ddatblygu.
Beth yw Asesiad Amgylcheddol Strategol?
Mae Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) yn ofyn cyfreithiol er mwyn cydymffurfio â Chyfeireb (2001/42/EC) yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Gyfeireb AAS yn cael ei thrawsnodi i gyfraith Cymru gan Reoliadau’r Asesiad Amgylcheddol ar Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (Rheoliadau AAS). Bwriad y broses yw pwyso a mesur yr effaith debygol a gaiff cynllun neu raglen ar yr amgylchedd, cyn iddo/iddi gael ei roi ar waith. Amcan AAS yw “sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod yn ddirfawr, a chyfrannu at sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol yn cael eu cynnwys yn bendant pan mae cynlluniau a rhaglenni’n cael eu paratoi a’u mabwysiadu, gyda’r bwriad o hybu datblygu cynaliadwy” . Cafodd cyfarwyddyd ynghylch GC ac AAS ei restru yn y LDP Manual (yn agor mewn tab newydd) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n sôn am gyfarwyddyd ynghylch AAS gan Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (SDBW) (yn agor mewn tab newydd).
Yn ôl Rheoliadau AAS mae gofyn i rai cynlluniau a rhaglenni neilltuol sydd yn yr arfaeth a allai gael effaith ar yr amgylchedd, fynd ati i bwyso a mesur beth fyddai eu heffaith debygol. Fe wneir hyn trwy lunio Adroddiad Amgylcheddol a thrwy ymgynghori, wedi hynny, â CADW (yn agor mewn tab newydd), Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd) (Y Cyrff Ymgynghori dros Gymru).
Pryd mae AAS yn berthnasol?
Nid oes unrhyw restr swyddogol o’r cynlluniau a’r rhaglenni y bydd Rheoliadau AAS yn berthnasol iddynt; bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol. Y sefydliad sy’n paratoi’r cynllun neu’r rhaglen sy’n gyfrifol am benderfynu a yw’r rheoliadau’n berthnasol i’r cynllun neu’r rhaglen dan sylw. Yn y Canllaw Ymarferol ynghylch Cyfeireb AAS mae rhestr awgrymedig o gynlluniau a rhaglenni y bydd AAS yn berthnasol iddynt. Mae hefyd yn dweud yn union beth yw’r meini prawf mewn perthynas â rhoi Cyfeireb AAS ar waith.
Rhoi AAS a GC ar waith yn Sir Benfro
Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Cyngor Sir Penfro’n cael GC ac AAS ar hyn o bryd. Yn unol ag awgrym Llywodraeth Cymru cafodd yr agwedd AAS ei chynnwys ym mhroses y GC. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y GC/AAS ar y CDLl byddwch cystal â bwrw golwg ar y gwe-dudalennau cynllunio hyn:
Gwybodaeth/dolenni buddiol
Mae gwybodaeth ychwanegol am GC ac AAS i’w chael yn:
Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Canllaw Ymarferol ynghylch y Gyfeireb AAS (yn agor mewn tab newydd). Cyfarwyddyd gan gyn SDBW a’r gweinyddiaethau a ddatganolwyd.
Swyddog Gwerthu
Y Tim Cadwraeth