Addewid Preifatrwydd
Addewid Gwybodaeth Bersonol
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- Gwerthfawrogi’r wybodaeth bersonol a ymddiriedwyd ynom a sicrhau parchu’r ymddiried hwnnw;
- Mynd ymhellach na dim ond llythyren y ddeddf wrth drin gwybodaeth bersonol, a mabwysiadu safonau arferion da;
- Ystyried a rhoi sylw i’r peryglon preifatrwydd yn gyntaf pan fyddwn yn bwriadu defnyddio neu ddal gwybodaeth bersonol mewn ffyrdd newydd, fel pan fyddwn yn cyflwyno systemau newydd;
- Bod yn agored gydag unigolion ynghylch sut y defnyddiwn eu gwybodaeth ac i bwy y rhoddwn hi;
- Ei gwneud yn hawdd i unigolion gael mynediad at a chywiro eu gwybodaeth bersonol;
- Cadw’r lleiaf angenrheidiol o wybodaeth bersonol a’i dileu pan na fydd arnom ei hangen mwyach;
- Bod â dulliau diogelu effeithiol i sicrhau cadw gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac na fydd yn mynd i’r dwylo anghywir;
- Hyfforddi staff sy’n trin gwybodaeth bersonol a’i wneud yn fater disgyblu os byddant yn camddefnyddio neu heb ofalu am wybodaeth bersonol yn briodol;
- Buddsoddi adnoddau ariannol a dynol priodol mewn gofalu am wybodaeth bersonol i sicrhau y gallwn gadw at ein haddewidion; a
- Cadarnhau’n rheolaidd ein bod yn cadw at ein haddewidion a hysbysu sut ydym yn gwneud.
ID: 3435, adolygwyd 17/07/2024