Addewid Preifatrwydd
Cadw cofnodion er mwyn helpu profi, olrhain, diogelu Hysbysiad Preifatrwydd
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn trafod sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel Rheolwr Data) yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich data personol i helpu Profi, Olrhain, Diogelu, sef strategaeth Llywodraeth Cymru i reoli lledaeniad achosion newydd o COVID-19.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnon ni (dibenion prosesu)
Rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn helpu gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru i olrhain cysylltiadau. Er mwyn i’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu fod yn effeithiol, mae'n hanfodol bod gwybodaeth am ble y gallai’r rhai sydd wedi profi'n bositif wedi bod mewn cysylltiad ag eraill yn hollbwysig. Trwy gadw cofnodion staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr (a rhannu'r rhain gyda gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu y GIG pan ofynnir amdano) gall hyn helpu nodi pobl a allai fod wedi dod i gysylltiad â'r feirws er mwyn lleihau trosglwyddiad ar draws y gymuned ehangach a diogelu parhad busnes.
Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn cael ei phrosesu yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 a'r Ddeddf Diogelu Data 2018.
Ni fyddwn yn datgelu unrhyw beth i drydydd parti at ddibenion marchnata.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a dim ond yr wybodaeth bersonol sy'n ofynnol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru y byddwn yn ei chasglu.
Pa ddata personol sy'n cael ei gasglu?
Er mwyn i ni allu helpu gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu y GIG, rydyn ni’n casglu'r wybodaeth bersonol ganlynol:
Staff
- Enwau'r staff sy'n gweithio ar y safle.
- Rhif ffôn cyswllt ar gyfer pob aelod o staff.
- Y dyddiadau a'r amseroedd mae'r staff yn gweithio.
Cwsmeriaid
- Enwau cwsmeriaid neu ymwelwyr, neu os mai grŵp o bobl ydyw, enw un aelod o'r grŵp - yr 'arweinydd'.
- Rhif ffôn cyswllt ar gyfer pob cwsmer neu ymwelydd, neu ar gyfer arweinydd grŵp o bobl.
- Dyddiad yr ymweliad, yr amser cyrraedd a gadael.
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn gofyn am fodloni amodau penodol er mwyn sicrhau bod prosesu eich data personol yn gyfreithlon. Mae'r amodau perthnasol hyn isod:
- Erthygl 6 (1) (e) Tasg gyhoeddus: Mae'r prosesu'n angenrheidiol er mwyn i chi gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sail glir o dan y gyfraith.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Dim ond os byddan nhw’n gofyn amdani y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu y GIG. Efallai y bydd angen rhannu'r wybodaeth hon naill ai oherwydd:
- Bod rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19 wedi rhestru sefydliad fel lle yr ymwelodd ag ef yn ddiweddar.
- Bod y sefydliad hwn wedi'i nodi fel lleoliad posibl ar gyfer achos lleol o COVID-19.
Pa mor hir ydyn ni'n cadw'r wybodaeth amdanoch chi?
Dim ond am gyhyd ag y bo angen y bydd Cyngor Sir Penfro yn cadw'ch gwybodaeth, gan ystyried canllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio'n ddiogel am 21 diwrnod ar ôl eich ymweliad. Os na fydd GIG Cymru wedi gofyn am eich gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, bydd eich data'n cael ei ddileu neu ei ddinistrio'n ddiogel.
Eich Hawliau
O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 a'r Ddeddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn gan gynnwys:
- Yr hawl i Gywiro – mae gennych hawl i ofyn am gael cywiro eich gwybodaeth.
- Gall yr hawl i Gyfyngu ar brosesu fod yn berthnasol - gallwch ofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, gall hyn oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i chi ddal neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i Wrthwynebu – nid yw hwn yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun Proses benderfynu a phroffilio awtomataidd.
- Yr hawl i gael Mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol. I wneud cais, cysylltwch â:
Mynediad at Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 775798
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio cyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydyn ni’n cymryd unrhyw gwynion a dderbyniwn am hyn o ddifrif. Rydyn ni’n annog pobl i’n hysbysu os ydyn nhw’n credu bod ein casgliad neu ddefnydd o wybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion hollgynhwysfawr am bob agwedd ar ein casgliad a'n defnydd o wybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydyn ni’n fodlon darparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk Rhif ffôn: 01437 764551
Os ydych chi eisiau gwneud cwyn am y ffordd rydyn ni wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio cyfraith diogelu data:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
E-bost: wales@ico.org.uk
Rhif Ffôn: 0303 123 1113
Ein manylion cyswllt fel Rheolwr Data yw:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.
Rhif ffôn: 01437 764551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Ceir manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data uchod yn yr adran Cwynion ac Ymholiadau.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn:
Rydyn ni’n adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.