Addewid Preifatrwydd
Am ba hyd y mae'r cyngor yn cadw eich data personol?
Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol cyn belled ag y mae'n ofynnol yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a gweithredol. Mae'r dudalen hon yn darparu mynediad i'n Cynlluniau Cadw a Dileu, sy'n amlinellu pa mor hir y caiff gwahanol fathau o wybodaeth eu cadw cyn iddynt gael eu dileu'n ddiogel. Mae pob data yn cael ei reoli yn unol â Chynlluniau Cadw a Dileu'r Awdurdod Lleol a Chynlluniau Cadw Ysgolion. Bydd eich data personol yn cael ei ddileu'n ddiogel unwaith nad yw'n ofynnol mwy.
ID: 3439, adolygwyd 07/07/2025