Addewid Preifatrwydd
Cwynion neu ymholiadau?
Mae'r cyngor yn ystyried unrhyw gwynion a dderbyniwyd am ddiogelu data o ddifrif ac mae'n annog pobl i roi gwybod inni os ydynt yn credu bod y ffordd rydym yn casglu neu'n defnyddio data yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw'r Datganiad Preifatrwydd hwn na'r Hysbysiadau Preifatrwydd gwasanaethau unigol yn darparu manylion cynhwysfawr yr holl agweddau ar ein dull o gasglu a defnyddio data personol. Fodd bynnag, mae'r cyngor yn fodlon darparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen.
Dylai unrhyw gwynion neu geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bostdataprotection@pembrokeshire.gov.uk Ffon: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd y mae'r cyngor wedi prosesu'ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio'r gyfraith diogelu data:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
E-bost: caseworker@ico.org.uk Rhif ffôn: 0303 1231113