Addewid Preifatrwydd
Eich Hawliau
O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), mae gennych hawliau fel unigolyn y gallwch eu harfer mewn perthynas â'r wybodaeth sydd gennym amdanoch:
- Yr hawl i gael eich hysbysu – mae gennych yr hawl i gael gwybod am gasglu a defnyddio’ch data personol. Dyma ofyniad tryloyw allweddol dan GDPR y DU.
- Yr hawl i fynediad – mae gennych hawl i ofyn am fynediad at a chopi o'r data personol sydd gennym amdanoch chi. Mae yna rai eithriadau, sy'n golygu efallai na fyddwch yn derbyn yr holl wybodaeth yr ydym yn ei brosesu bob tro.
- Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro data personol rydych yn meddwl ei fod yn anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth rydych yn meddwl ei fod yn anghyflawn.
- Yr hawl i ddileu – mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol mewn amgylchiadau penodol. Nid yw hon yn hawl absoliwt.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – mae gennych yr hawl i ofyn i ni atal prosesu eich data personol mewn amgylchiadau penodol. Fodd bynnag, gall hyn oedi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu i brosesu – mae gennych yr hawl i wrthwynebu i brosesu os gallwn brosesu eich gwybodaeth oherwydd bod y broses yn rhan o'n tasgau cyhoeddus, neu ei bod er budd gwirioneddol inni.
- Yr hawl i gludadwyedd data – mae hyn ond yn gymwys i ddata personol rydych wedi'i roi i ni. Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r data personol y gwnaethoch ei roi i ni o un sefydliad i'r llall, neu ei roi i chi. Mae'r hawl ond yn gymwys os ydym yn prosesu gwybodaeth yn seiliedig ar eich cydsyniad, neu’n cynnal trafodaethau am fynd i gontract a bod y prosesu'n awtomatig. Nid yw hon yn hawl absoliwt.
ID: 3455, adolygwyd 04/08/2021