Addewid Preifatrwydd
Gyda phwy y mae'r cyngor yn rhannu’ch data personol?
Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn rhoi gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i chi, weithiau bydd angen iddo rannu eich data personol â sefydliadau partner eraill sy'n cefnogi cyflenwi’r gwasanaeth efallai y byddwch yn ei dderbyn. Gallai hyn gynnwys:
- Awdurdodau lleol eraill
- Yr heddlu
- Y Gwasanaeth Tân ac Achub
- CThEM
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Cymdeithasau tai
- Sefydliadau gwirfoddol
- Cyrff rheoleiddiol
Gall fod angen hefyd i'r cyngor roi eich data personol i sefydliadau eraill y mae wedi rhoi contract iddynt ddarparu gwasanaeth i chi. Ni fydd y cyngor yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd part on at ddibenion marchnata oni bai eich bod yn rhoi cydsyniad iddo wneud hynny.
Mae gan y cyngor ddyletswydd i ddiogelu arian y cyhoedd y mae'n ei weinyddu a gall ddefnyddio'r data personol a roddwyd gennych chi, yn ogystal thechnegau paru data, i ganfod ac atal twyll. Bydd y cyngor hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau y mae eu hangen yn y gyfraith a gall hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, gall gwybodaeth gael ei rhannu gydag adrannau mewnol eraill yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, ynghyd 'ch hawliau diogelu data, ar wefan Cifas (yn agor mewn tab newydd).