Addewid Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd a Trefniadau diogelu integredig oedolion

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â’r modd y bydd Cyngor Sir Penfro (fel Rheolydd Data) yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol at ddibenion Diogelu Oedolion.

Pam mae angen eich gwybodaeth chi arnom (diben prosesu)

Rydym yn casglu ac yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol fel y gallwn sicrhau bod pobl agored i niwed yn cael eu diogelu rhag risg niwed neu gam-drin.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, Deddf Diogelu Data 2018, Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau a fynnir gan y gyfraith a gallwn hefyd rannu’r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddu neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus er mwyn sicrhau bod arian wedi’i dargedu a’i fod yn cael ei wario yn y modd mwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd)).

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd parti at ddibenion marchnata.

Bydd eich data’n ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser, a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol a fynnir i ddarparu ein gwasanaeth i chi.

Pa ddata personol sy’n cael ei chasglu?

Y categorïau data personol sy’n cael ei gasglu yw:

  • enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, oedan/dyddiad geni, rhif GIG, perthynas agosaf ac ati, a data Categori Arbennig fel gwybodaeth yn ymwneud ag iechyd, ethnigrwydd - yr holl wybodaeth yn unol â set ddata graidd y Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant

Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?

Mae Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU yn mynnu bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod y prosesu ar eich data personol yn gyfreithlon. Ceir yr amodau perthnasol hyn isod:

Erthygl 6 (1)(e) Gorchwyl cyhoeddus: mae’r prosesu yn angenrheidiol er mwyn i chi gyflawni gorchwyl er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y gorchwyl neu’r swyddogaeth sail glir yn ôl y gyfraith.

Mae rhai mathau o ddata yn fwy sensitif nag eraill, ac mae angen eu diogelu’n fwy. Dosberthir hwn fel ‘data categori arbennig’ a gallai gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, barnau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol neu aelodaeth undeb llafur, a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol.

Rydym yn prosesu’r math hwn o ddata categori arbennig gan ei fod yn angenrheidiol am y rhesymau canlynol:

Erthygl 9 (2)(h) Meddyginiaeth ataliol neu alwedigaethol, er mwyn asesu gallu’r cyflogai i weithio, diagnosis meddygol, darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.

Gyda phwy y byddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth?

Gall fod angen i ni rannu eich data personol gydag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon. Bydd hyn yn cynnwys:

Yr Heddlu, Arolygiaeth Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru - Y Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth (Yn agor mewn tab newydd, y Gwasanaeth Iechyd, darparwyr gwasanaethau fel darparwyr gofal, darparwyr preswyl, eiriolwyr, unrhyw sefydliadau gwirfoddol, y Gwasanaeth Prawf a’r holl sefydliadau ar y bwrdd Diogelu. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu hefyd gyda Care First, sef ein Prosesydd Data.

Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, efallai y caiff y wybodaeth rydych wedi'i rhoi i ni ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio, yn fewnol ac yn allanol.

Caiff y wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gellid eich rhwystro rhag derbyn gwasanaethau penodol, arian neu waith. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, drwy droi at CIFAS (yn agor mewn tab newydd) 

Pa mor hir ydyn ni’n cadw eich gwybodaeth?

Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y bo angen; byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarparwyd i ni am ddeng mlynedd a bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu yn ddiogel pan nad oes ei hangen mwyach.

Eich Hawliau

O dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:

  • Yr hawl i Gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
  • Gall yr hawl i Gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn ni’n ymdrechu i gydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i Wrthwynebu – nid yw hon yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
  • Yr hawl i beidio â bod yn destun Penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
  • Yr hawl i Gyrchu – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol.  I wneud cais, cysylltwch â:

Mynediad i Gofnodion

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk     Ffôn: 01437 775798

Cwynion neu ymholiadau

Mae Cyngor Sir Penfro yn ymdrechu i fodloni’r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydyn ni’n ystyried unrhyw gŵynion a dderbyniwn ynghylch hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i dynnu ein sylw os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu’n defnyddio gwybodaeth mewn modd annheg, camarweiniol neu amhriodol. 

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr pob agwedd ar ein proses casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon i’r cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 764551

Os hoffech chi gyflwyno cwyn ynghylch y ffordd rydyn ni wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch  gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill

Ffordd Churchill

Caerdydd

CF10 2HH

E-bost: cymru@ico.org.uk

Ffôn: 0330 414 6421

Ein manylion cyswllt fel Rheolydd Data:

Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.

Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk

Mae manylion ein Swyddog Diogelu Data wedi'u cynnwys uchod yn yr adran cwynion ac ymholiadau.

Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydyn ni’n adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.

 

ID: 9113, adolygwyd 17/04/2025