Addewid Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd a Ffotograffiaeth a Fideo Mewn Canolfannau Hamdden

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cwmpasu’r ffordd y bydd Cyngor Sir Penfro (fel Rheolydd Data) yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion marchnata ein cyfleusterau, ein dosbarthiadau a’n clybiau hamdden.

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)

Bydd y ffotograffau a’r fideos hyn yn cael eu defnyddio i ddarparu gwybodaeth am gyfleusterau ein canolfannau hamdden yn Sir Benfro, a’u hyrwyddo.

Bydd y wybodaeth a rowch yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018.

Hefyd, byddwn ni’n gwneud unrhyw ddatgeliadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a gallem hefyd rannu’r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru).

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.

Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn yn casglu’r wybodaeth bersonol angenrheidiol yn unig.

Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu?

Y categorïau data personol sy’n cael eu casglu yw:

  • Ffotograffau
  • Fideos
  • Enw
  • Cyfeiriad 
  • Manylion cyswllt

Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’ch data personol?

O dan Reoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), mae’n rhaid bodloni amodau penodol i sicrhau bod eich data personol yn cael ei phrosesu’n gyfreithlon. Mae’r amodau perthnasol hyn isod: 

Erthygl 6 (1)(a) Cydsyniad: rydych chi wedi rhoi cydsyniad clir i ni brosesu eich data personol at ddiben penodol. 

Gyda phwy y byddwn ni’n rhannu’ch gwybodaeth?

Gall fod angen i ni rannu’ch data personol gydag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon; bydd hyn yn cynnwys: 

  • Mae ffotograffau a fideos wedi’u cyhoeddi ar gael i unrhyw un sy’n gallu cael at ein gwefan a’n tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol a neu ddeunyddiau print y mae’r ffotograff yn ymddangos ynddynt.
  • Trydydd partïon sy’n prosesu data ar ran y Ganolfan Hamdden, h.y. cwmnïau argraffu a dylunwyr graffig.
  • Ffotograffydd/Fideograffydd dan gontract.

Mae’n ddyletswydd ar Gyngor Sir Penfro i ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei reoli. Felly, gall y wybodaeth a ddarparoch i ni gael ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio, yn fewnol ac yn allanol.

Bydd y wybodaeth bersonol a gasglom oddi wrthych yn cael ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll, y byddant yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu waith gael ei wrthod i chi. Mae manylion pellach am sut byddwn ni a’r asiantaethau atal twyll hyn yn defnyddio’ch gwybodaeth, a’ch hawliau diogelu data, i’w gweld trwy fynd i CIFAS 

Am ba hyd y byddwn ni’n dal gafael ar eich gwybodaeth?

Byddwn yn cadw’r wybodaeth a ddarparwyd i ni yn barhaol. Byddwn yn cael gwared ar eich gwybodaeth yn ddiogel pan na fydd ei hangen mwyach. 

Eich Hawliau 

O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:

  • Yr hawl i Gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn am gywiro eich gwybodaeth.
  • Gall yr hawl i Gyfyngu prosesu fod yn berthnasol – gallwch ofyn i ni roi’r gorau i brosesu’ch data personol, ond gallai hyn achosi oedi wrth i ni gyflwyno gwasanaeth i chi, neu ein hatal rhag gwneud. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais, ond gall fod angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.  
  • Yr hawl i Ddileu – gallwch ofyn inni ddileu eich data personol, ond gallai hyn achosi oedi wrth i ni gyflwyno neu barhau i gyflwyno gwasanaeth i chi, neu ein hatal rhag gwneud. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais, ond gall fod angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol. 
  • Yr hawl i Gludadwyedd data – mae gennych yr hawl i ofyn am drosglwyddo’ch gwybodaeth heb rwystr. 
  • Hawl Mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch data personol. I wneud cais, cysylltwch â:

Mynediad at Gofnodion 

Cyngor Sir Penfro 

Neuadd y Sir 

Hwlffordd SA61 1TP

E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 764551

Cwynion neu Ymholiadau 

Mae Cyngor Sir Penfro yn ymdrechu i gyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a gawn am hyn o ddifrif. Os bydd pobl o’r farn ein bod ni’n casglu neu’n defnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu’n amhriodol, rydym ni’n eu hannog nhw i ddwyn hyn i’n sylw.  

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnig manylion trwyadl am bob agwedd ar gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol gennym, ond rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol y mae ei angen. Dylech anfon unrhyw geisiadau am hyn i’r cyfeiriad isod:

Y Swyddog Diogelu Data 

Cyngor Sir Penfro 

Neuadd y Sir 

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 764551

Os ydych am gwyno am y ffordd y gwnaethom brosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data:

Information Commissioner’s Office

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

SK9 5AF

E-bost: wales@ico.org.uk

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Dyma ein Manylion Cyswllt fel Rheolydd Data:

Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP. 

Rhif ffôn: 01437 764551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk  

Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi’i chynnwys uchod yn yr adran Cwynion ac Ymholiadau.

Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn 

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.

 

ID: 8948, adolygwyd 08/12/2022