Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd – Adfywio drwy Brosiect Angor y Cynllun Creu Lleoedd
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cwmpasu sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel rheolydd data) yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu'ch data personol at ddibenion:
- Casglu deunydd ffilm, ffotograffau llonydd a recordiadau sain ar gyfer creu asedau digidol megis ffilmiau byr, asedau delwedd symudol byr ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a ffotograffau o brosiectau a wnaed fel rhan o brosiect a ariennir gan Brosiect Angor Cynllun Creu Lleoedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
- Ymgymryd â gweithgaredd ymgysylltu cymunedol gydag aelodau o'r gymuned a rhanddeiliaid i gael dealltwriaeth fanwl o farn a gwybodaeth pobl sy'n berthnasol i brosiectau adfywio ffisegol yr ymgymerir â nhw fel rhan o'r prosiect a ariennir gan Brosiect Angor Cynllun Creu Lleoedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
Rydym yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn i ni allu gwneud y canlynol:
- Creu ffilmiau dogfen byr ac asedau digidol ffurf fer eraill am y prosiectau cymunedol yr ydym yn ymgymryd â nhw, at ddibenion marchnata ac i ddogfennu gwaddol y cynllun.
- Casglu data trwy brosesau ymgysylltu â'r gymuned i sicrhau ymagweddau gwybodus at brosiectau adfywio ffisegol fydd yn cael eu cyflawni.
- Cysylltu â chyfranogwyr sydd wedi cytuno i gymryd rhan mewn hyfforddiant Sgiliau Treftadaeth i roi manylion ynglŷn â dyddiadau hyfforddi.
- Cysylltu â chyfranogwyr yn y dyfodol a allai fod am gymryd rhan mewn mwy o weithgareddau Sgiliau Treftadaeth yng nghastell Hwlffordd.
- Casglu data demograffig i lunio gweithgareddau Sgiliau Treftadaeth gwybodus yn y dyfodol yng Nghastell Hwlffordd
- Creu ffilmiau dogfen byr ac asedau digidol ffurf fer eraill am yr Hyfforddiant Sgiliau Treftadaeth at ddibenion marchnata ac i’w dangos fel tystiolaeth o’r angen am gyllid yn y dyfodol i ymestyn y ddarpariaeth hon.
Caiff yr wybodaeth rydych yn ei darparu ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau y mae eu hangen yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu’r wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Polisi Preifatrwydd a Chwcis Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd)).
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data’n ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob adeg, a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol y mae ei hangen er mwyn i chi dderbyn ein gwasanaeth.
Pa fath o ddata personol sy’n cael eu casglu?
Mae'r categorïau data personol sy’n cael eu casglu fel a ganlyn:
- Ffilmiau, recordiadau sain, ffotograffau llonydd
- Enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad, rhif ffôn
- Safbwyntiau a barn wrth gymryd rhan mewn arolygon.
Beth yw’n sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod prosesu eich data personol yn cael ei wneud mewn ffordd gyfreithlon. Nodir yr amodau perthnasol hyn isod:
- Erthygl 6 (1)(f) Buddiannau cyfreithlon: mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon neu fuddiannau cyfreithlon trydydd parti, oni bai fod rheswm da i warchod data personol yr unigolyn sy'n diystyru'r buddiannau cyfreithlon hynny.
Mae buddiannau cyfreithlon Cyngor Sir Penfro yn cynnwys:
- Asedau gwaddol digidol i'w hanfon at gyllidwyr yn ogystal ag i ddathlu gweithgarwch sydd wedi digwydd.
- Hyrwyddo'r ardal i dwristiaid gan annog mwy o ymwelwyr drwy ganol trefi a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi a busnesau.
- Bydd y prosiectau'n sicrhau yr ymgynghorir yn briodol â grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid ar weithgareddau a gynllunnir ac felly'n gallu llywio'r canlyniadau ffisegol.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol gydag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys y canlynol:
- Bydd ffilmiau ac asedau digidol ffurf fer eraill yn cael eu rhannu ar lwyfannau cyhoeddus fel YouTube a Vimeo ac ar lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Facebook, Instagram ac X.
- Gwneuthurwyr ffilm a ffotograffwyr allanol
- Cyflenwyr a chontractwyr yn gweithio ar brosiectau gyda ni
- Prif Swyddog Gwybodaeth Castell Hwlffordd
Bydd unrhyw ddata personol a rennir ag adrannau mewnol yn ddienw.
Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae’n ei reoli. Felly, gall yr wybodaeth rydych chi wedi’i darparu i ni gael ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion cynnal archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gellir eich rhwystro rhag derbyn gwasanaethau penodol, arian neu waith. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a’r asiantaethau atal twyll hyn, a’ch hawliau diogelu data, ar wefan CIFAS (yn agor mewn tab newydd).
Am ba mor hir ydyn ni’n cadw’ch gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag y bydd angen. Byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarparwyd i ni am 10 mlynedd o ddyddiad diwedd y prosiect a bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu'n ddiogel unwaith na fydd ei hangen mwyach
Eich hawliau
O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:
- Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, ond gallai hyn oedi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu’ch gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol, ond gallai hyn ein gohirio neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch data personol. Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â’r canlynol:
Mynediad i Gofnodion
Cyngor Sir Benfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: mynediadigofnodion@sir-benfro.gov.uk Ffôn: 01437 764551
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posibl wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. O’r herwydd, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a dderbyniwn ynglŷn â hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i dynnu ein sylw os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu’n defnyddio gwybodaeth mewn modd annheg, camarweiniol neu amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar ein gwaith o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: diogeludata@sir-benfro.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu’ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: cymru@ico.org.uk
Rhif ffôn: 0330 414 6421
Ein manylion cyswllt fel rheolydd data yw:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi'i nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.