Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd – Cynllun cymorth tanwydd gwresogi nad yw ar y grid nwy Llywodraeth Cymru - Taliad olew a nwy petrolewm hylif (LPG)
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel rheolydd data) yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol at ddibenion y Gwasanaethau Refeniw sy’n prosesu’r cynllun cymorth tanwydd gwresogi nad yw ar y grid nwy.
Pam y mae angen eich gwybodaeth arnom (diben y prosesu)
Rydym yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn i ni allu gwirio ac asesu eich bod yn gymwys ar gyfer y taliad o £200.00.
Bydd eich data yn cael eu croeswirio â’n cofnodion y dreth gyngor a gostyngiadau y dreth gyngor gan fod yn rhaid i chi fod yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Gorffennaf 2026, er mwyn bod yn gymwys, a rhaid i chi ddibynnu ar olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifol i gynhesu’ch cartref. Mae angen tystiolaeth arnom hefyd eich bod yn dibynnu ar olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifol a manylion eich banc i wneud taliad.
Bydd yr wybodaeth a ddarparwch yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018, Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu’r wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod / atal twyll / trosedd neu archwilio / gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chosteffeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu â’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro, ac ag Archwilydd Cyffredinol Cymru: Polisi preifatrwydd a chwcis Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol y mae ei hangen arnom er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn i chi.
Pa ddata personol sy’n cael eu casglu?
Dyma’r categorïau data personol sy’n cael eu casglu:
- Enw, cyfeiriad, manylion cyswllt
- Dyddiad geni
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Manylion cyfrif banc
- Hawl i ostyngiad yn y dreth gyngor
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael eu prosesu mewn ffordd gyfreithlon. Dyma’r amodau perthnasol hyn isod:
- Erthygl 6(1)(e) Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu yn angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu’r swyddogaeth sail gyfreithiol glir.
 phwy byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill, a thrydydd partïon, gan gynnwys y canlynol:
- Y Fenter Twyll Genedlaethol
- Credydwyr
- Swyddfa Archwilio Cymru
- Awdurdodau lleol eraill
- Partïon eraill lle rhoddwyd cydsyniad
- Adrannau eraill y cyngor lle caniateir hynny o dan ddeddfwriaeth
- NEC Software Solutions UK Limited fel prosesydd data
- Policy in Practice (offeryn tracio teuluoedd incwm isel) fel prosesydd data
- Llywodraeth Cymru
Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy’n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth technoleg gwybodaeth ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn, ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel, a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Pan fydd angen trosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu’r cyllid cyhoeddus y mae’n ei reoli. Felly, gallai’r wybodaeth yr ydych wedi’i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll, ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Caiff yr wybodaeth bersonol yr ydym wedi’i chasglu gennych chi ei rhannu ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn ni a’r asiantaethau atal twyll hyn yn defnyddio’ch gwybodaeth, a’ch hawliau diogelu data, ar gael drwy fynd i CIFAS (yn agor mewn tab newydd).
Am ba mor hir y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth chi?
Bydd Cyngor Sir Penfro yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag y bo angen yn unig. Byddwn yn cadw’r wybodaeth sydd wedi’i rhoi i ni am saith mlynedd ar ôl i’r hawliad gael ei derfynu/gwrthod ar gyfer ceisiadau am Fudd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor a chwe mlynedd a mwy o’r flwyddyn gyfredol ar gyfer Grantiau Adnewyddu Tai a chaiff eich gwybodaeth ei gwaredu'n ddiogel pan na fydd ei hangen arnom mwyach.
Eich hawliau
O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, sy’n cynnwys y canlynol:
- Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, ond gallai hyn arwain at oedi, neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi. Byddwn ni’n ymdrechu i gydymffurfio â’ch cais, ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hyn yn hawl absoliwt, a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol, ond gallai hyn arwain at oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth, neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn ni’n ymdrechu i gydymffurfio â’ch cais, ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch data personol. I gyflwyno cais, cysylltwch â:
Mynediad i Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
Cyfeiriad e-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Rhif ffôn: 01437 764551
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posibl wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion sy’n dod i law ynglŷn â hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i roi gwybod i ni os ydynt o’r farn bod y ffordd yr ydym yn casglu gwybodaeth neu’n ei defnyddio yn annheg, yn gamarweiniol neu’n amhriodol.
Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar ein gwaith o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol y mae eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
e-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd yr ydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
e-bost: wales@ico.org.uk
Ffôn: 0330 414 6421
Ein manylion cyswllt fel rheolydd data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP.
Ffôn: 01437 764551, neu e-bost: enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Mae gwybodaeth am ein Swyddog Diogelu Data wedi’i nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion neu ymholiadau’.
Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.