Addewid Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd – Gwasanaethau Cludo Teithwyr

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel rheolydd data) yn casglu, defnyddio a rhannu'ch data personol at ddibenion trefnu a darparu gwasanaethau cludo teithwyr. Mae hyn yn cynnwys cludiant ysgol, cludiant gofal cymdeithasol a darparu gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus seiliedig ar alw.

Pam y mae angen eich gwybodaeth arnom (diben y prosesu)

Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn nodi pwy sy'n gymwys ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth ac i sicrhau bod darpariaeth briodol yn cael ei darparu.

Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Trafnidiaeth 2000, Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac efallai y byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/trosedd neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu â’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro ac ag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Polisi Preifatrwydd a Chwcis Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd).

Ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata.

Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol y mae ei hangen arnom er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn i chi.

Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu?

Dyma'r categorïau data personol sy'n cael eu casglu:

  • Enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, dyddiad geni.  Efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth iechyd neu feddygol a gwybodaeth am eich crefydd os yw'n berthnasol ac yn angenrheidiol.
  • Ar gyfer cludiant ysgol (anghenion dysgu ychwanegol) – rhai manylion personol am gyflyrau.

Beth yw'n sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?

Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael eu prosesu mewn ffordd gyfreithlon. Mae'r amodau perthnasol hyn fel a ganlyn:

  • Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae angen inni brosesu er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sylfaen glir yn y gyfraith.
  • Erthygl 6 (1)(b) Contract: mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer contract sydd gennym gyda chi, neu oherwydd eich bod wedi gofyn i ni gymryd camau penodol cyn ymrwymo i gontract. – Mae hwn ar gyfer cludiant cwsmeriaid gofal cymdeithasol a phlant sy'n derbyn gofal.

Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill ac mae angen lefel uwch o ddiogelu ar eu cyfer. Mae y rhain yn cael eu galw’n  ‘ddata categorïau arbennig’ a gallant gynnwys gwybodaeth am eich credoau crefyddol ac iechyd. 

Rydym yn prosesu’r math hyn o ddata categori arbennig gan eu bod yn angenrheidiol am resymau Erthygl 9(2)(g) Budd sylweddol i’r cyhoedd, er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae hyn yn bodloni’r amod a ganlyn a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018:

  • Erthygl 9 (2)(i) Budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd.
  • Cyfle cyfartal a thriniaeth gyfartal

 phwy byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, a bydd y rhain yn cynnwys lle bo'n berthnasol:

  • Ysgolion, canolfannau dydd a darparwyr gweithgareddau gofal cymdeithasol, timau gwaith cymdeithasol, gweithredwyr cludiant, Trafnidiaeth Cymru
  • Ar gyfer cwsmeriaid gofal cymdeithasol a phlant sy'n derbyn gofal: Cwmnïau tacsi a gyrwyr gwirfoddol
  • Pan ddefnyddir taliadau cerdyn i dalu am docynnau ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, rydym yn gweithio gyda darparwr allanol, Littlepay. Littlepay yw’r rheolydd data cyfrifol ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol a gesglir at y diben hwn.  Gallwch weld polisi preifatrwydd Littlepay (yn agor mewn tab newydd) ar-lein 

Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb.  Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Pan fydd angen trosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus y mae yn ei reoli. Felly, gallai'r wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu ei rhannu ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu pwy ydych. Os caiff twyll ei ganfod, gellir gwrthod eich mynediad at wasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a’r asiantaethau atal twyll hyn, a’ch hawliau diogelu data, ar wefan CIFAS (yn agor mewn tab newydd) .

Pa mor hir byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?

Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag sydd ei hangen a gwaredir ar eich gwybodaeth mewn modd diogel pan nad oes ei hangen mwyach. Bydd gwybodaeth yn cael ei chadw am y cyfnodau canlynol:

  • Teithwyr ar wasanaethau cludiant ysgol – 13 mlynedd
  • Teithwyr ar wasanaethau cludiant gofal cymdeithasol i oedolion a chludiant ar gyfer plant sy'n derbyn gofal – Yn cael eu cadw hyd nes y cawn ein hysbysu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol nad oes angen cludiant mwyach.

Eich Hawliau

  • Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn gan gynnwys:
  • Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
  • Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, fodd bynnag gallai hyn oedi neu ein hatal rhag cyflawni gwasanaeth i chi. Byddwn ni’n ymdrechu i gydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd angen i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hyn yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
  • Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol, ond gallai hyn oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i symud data – mae gennych yr hawl i ofyn am drosglwyddo eich gwybodaeth heb rwystr.
  • Yr hawl i beidio â bod yn destun gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.

Hawl mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol.  I gyflwyno cais, cysylltwch â:

Mynediad i Gofnodion

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk     Ffôn: 01437 764551

Cwynion neu ymholiadau

Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu cael am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt yn credu bod ein casgliad neu ein defnydd o wybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol. 

Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar ein gwaith o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk

Rhif ffôn: 01437 764551

Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill

Ffordd Churchill

Caerdydd

CF10 2HH

E-bost: wales@ico.org.uk

Ffôn: 0330 414 6421

Ein Manylion Cyswllt fel Rheolydd Data:

Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP.

Ffôn: 01437 764551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk

Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi'u nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.

ID: 11698, adolygwyd 04/11/2024