Addewid Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd - – Mapiau Diffiniol a Cheisiadau Adran 31(6)

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel Rheolydd Data) yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol at ddibenion cydymffurfio â’i ddyletswydd i adolygu’r map a’r datganiad diffiniol ar gyfer Sir Benfro yn gyson. 

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu yn cael ei darparu i ni’n uniongyrchol gennych chi, o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer defnyddio gwybodaeth bersonol yw bod ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus. Mae’r ddeddfwriaeth yr ydym yn dibynnu arni wrth ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol neu dasgau cyhoeddus yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Ddeddf Priffyrdd 1980 Adran 41 a 42, ac adran 130.

Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Rheoliadau Cynefinoedd, Rheoliadau Gwrychoedd ac eraill fel y bo’n berthnasol, deddfwriaeth hawliau tramwy a mynediad i gefn gwlad (Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, Deddf Priffyrdd 1980, Deddf Tiroedd Comin), a deddfwriaeth amgylchedd hanesyddol. Deddf Priffyrdd 1980, mae'r gyfraith yn nodi y gall unrhyw dirfeddiannwr gyflwyno datganiad ac adroddiad i Gyngor Sir Penfro ynglŷn â mynediad i hawliau tramwy ar dir. 

Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau y mae eu hangen yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu’r wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chosteffeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu â’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru Polisi Preifatrwydd a Chwcis Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd).

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.

Bydd eich data’n ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob adeg, a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol y mae ei hangen er mwyn i chi dderbyn ein gwasanaeth.

Pa fath o ddata personol sy’n cael eu casglu?

Mae’r categorïau data personol sy’n cael eu casglu fel a ganlyn:

  • Enw, cyfeiriad
  • Tystiolaeth i gefnogi cais (lluniau ac ati) - Ar gyfer ceisiadau i ddiwygio Mapiau Diffiniol
  • Map o berchnogaeth tir - Ar gyfer Adran 31(6)

Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?

Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod prosesu eich data personol yn cael ei wneud mewn ffordd gyfreithlon. Nodir yr amodau perthnasol hyn isod: 

  • Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae prosesu’n angenrheidiol i ni gyflawni tasg a gynhelir er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu’r swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.

 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys y canlynol:

Mae’n bosibl y gellid eu rhannu â’r Arolygiaeth Gynllunio, a/neu fargyfreithiwr pe bai ymchwiliad cyhoeddus ac ati.  Mae peth gwybodaeth ar y gofrestr gyhoeddus hefyd yn dibynnu ar y math o gais.

Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei reoli. Felly, gall yr wybodaeth rydych wedi’i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu ei rhannu ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a’r asiantaethau atal twyll hyn, a’ch hawliau diogelu data, ar wefan CIFAS (yn agor mewn tab newydd).

Am ba mor hir ydyn ni’n cadw’ch gwybodaeth?

Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw'ch gwybodaeth am gyhyd ag y bo angen. Byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarparwyd i ni fel a ganlyn:

Ceisiadau i Ddiwygio Mapiau Diffiniol - Mae rhywfaint o ddata personol yn mynd tuag at dystiolaeth i ddiwygio'r map diffiniol, mae datganiadau tystion yn ddarnau hanfodol o wybodaeth sydd eu hangen i asesu hawliad map diffiniol.  Mae rhai ceisiadau yn fwy na deng mlwydd oed felly mae'n bwysig cadw'r dystiolaeth ar ffeil. Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn datgan bod yn rhaid adolygu’r mapiau ‘yn gyson'.

Ceisiadau ar gyfer Adran 31(6) - Mae'r gyfraith yn datgan bod y datganiad yn parhau'n weithredol am ddeng mlynedd, felly mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i gadw'r dogfennau ar ffeil am ddeng mlynedd. Byddai'r manylion a gynhwysir ynddo yn dystiolaeth bwysig yn ystod yr ymchwil i gais gorchymyn addasu mapiau diffiniol.  Maent yn trechu cais gorchymyn addasu mapiau diffiniol os yw'r cyfnod o ddeng mlynedd yn dod o fewn y cyfnod 20 mlynedd sydd ei hangen ar gyfer cais gorchymyn addasu mapiau diffiniol llwyddiannus, a bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu'n ddiogel unwaith na fydd ei hangen mwyach.

Eich hawliau

O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:

  • Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
  • Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, ond gallai hyn oedi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu’ch gwybodaeth bersonol.
  • Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol, ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth, neu rhag parhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
  • Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch data personol. Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â’r canlynol:

Mynediad i Gofnodion

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Rhif Ffôn:  01437 764551

Cwynion neu ymholiadau

Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posibl wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i dynnu ein sylw os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu’n defnyddio gwybodaeth mewn modd annheg, camarweiniol neu amhriodol.

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar ein gwaith o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol y mae eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 764551

Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu’ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill

Ffordd Churchill

Caerdydd

CF10 2HH

E-bost: cymru@ico.org.uk

Rhif ffôn: 0330 414 6421

Ein manylion cyswllt fel Rheolydd Data:

Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.

Rhif ffôn: 01437 764551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk

Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi’u nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.

Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.

ID: 11007, adolygwyd 28/01/2025