Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd – Play_Inc, Play_Inc Plus a Tots 2 Teens
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn trafod sut bydd Cyngor Sir Penfro (fel y Rheolwr Data) yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol at ddibenion darpariaethau chwarae Play_Inc, Play_Inc Plus a Tots 2 Teens. Maen nhw’n cefnogi plant rhwng 5 ac 18 oed a’u teuluoedd, sy’n byw yn Sir Benfro, gyda’u cydsyniad nhw.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben y prosesu)
Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol o dan adran 537A Deddf Addysg 1996 ac adran 83 Deddf Plant 1989. Rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol at y dibenion canlynol:
- fel rhan o’n proses dderbyn neu atgyfeiriadau
- darparu gofal priodol
- asesu ansawdd ein gwasanaethau
- cadw plant yn ddiogel (alergeddau bwyd, neu fanylion cyswllt mewn argyfwng)
- bodloni’r dyletswyddau statudol ar gyfer casgliadau data
- cydymffurfio â’r gyfraith ynghylch rhannu data
Bydd yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu’n cael ei phrosesu’n unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Addysg 2006 a Deddf Gofal Plant 2006.
Byddwn hefyd yn cyflwyno unrhyw ddatgeliadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, a byddwn hefyd o bosibl yn rhannu’r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod/atal twyll/trosedd neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda’n Gwasanaeth Archwilio a Chyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru).
Ni fyddwn yn cyflwyno unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser, a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn darparu ein gwasanaeth.
Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu?
Rydym yn casglu data personol ar gyfer y categorïau canlynol:
- Manylion personol a chysylltiadau (megis enw, manylion cyswllt, cyfeiriad y rhiant a’r plentyn)
- Dyddiad geni’r plentyn
- Rhyw'r plentyn
- Gwybodaeth am anabledd
- Gwybodaeth feddygol (megis gwybodaeth gan feddygon, alergeddau, meddyginiaeth a gofynion deietegol)
- Presenoldeb
- Gwybodaeth am ymddygiad
- Manylion cyswllt ar gyfer teithiau/digwyddiadau allanol (manylion cyswllt rhieni, manylion cyswllt mewn argyfwng)
Beth yw ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR y DU) y DU yn ei gwneud yn ofynnol i fodloni amodau penodol er mwyn sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu’n gyfreithlon. Dyma’r amodau perthnasol:
Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu yn angenrheidiol er mwyn inni gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein gwaith swyddogol, a phan fydd sail gyfreithiol glir i’r dasg neu swyddogaeth.
Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill, ac mae angen eu diogelu yn fwy cadarn. Gelwir y math hwn o ddata yn ‘ddata categori arbennig’ a gall gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, crefydd neu gredoau athronyddol neu aelodaeth o undeb lafur, a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn prosesu’r math hwn o ddata categori arbennig gan ei fod yn angenrheidiol at ddibenion:
Erthygl 9 (2)(g) Budd cyhoeddus sylweddol.
(Yr amodau Deddf Diogelu Data 2018 perthnasol yw – Atodlen 1 Rhan 2: Dibenion statudol a llywodraethol a Diogelu plant ac unigolion sydd mewn perygl)
Gyda phwy y byddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon megis:
- Gwasanaethau Plant
- Addysg, gan gynnwys y Tîm Cynhwysiant
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Llywodraeth Cymru
- Anableddau Dysgu a Phontio
- Tîm Iechyd Galwedigaethol
- Byrddau Iechyd
- Meddygon Teulu
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i amddiffyn y cronfeydd cyhoeddus y mae’n eu rheoli. Felly, mae’n bosibl y bydd yr wybodaeth yr ydych wedi’i rhannu gyda ni yn cael ei defnyddio at ddibenion atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio, yn fewnol ac yn allanol.
Bydd yr wybodaeth bersonol yr ydym wedi’i chasglu gennych chi’n cael ei rhannu gydag asiantaethau canfod twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian, a gwirio eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu derbyn gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar sut fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth a’r asiantaethau canfod twyll hyn a’ch hawliau diogelu data drwy fynd i CIFAS.
Am ba hyd y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro yn cadw eich gwybodaeth gyhyd ag y bydd angen yn unig. Byddwn yn cadw’r wybodaeth y gwnaethoch ei rhoi i ni am 25 mlynedd ar ôl dyddiad geni eich plentyn, ac os na fydd ei hangen arnom mwyach, byddwn yn cael gwared arni’n ddiogel.
Eich hawliau
Dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Yr hawl i Gywiro – mae gennych yr hawl i wneud cais i gywiro eich gwybodaeth.
- Gall yr hawl i Gyfyngu ar brosesu fod yn berthnasol – gallwch wneud cais inni roi’r gorau i brosesu eich data personol, fodd bynnag, gall hyn ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi neu achosi oedi wrth ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i Wrthwynebu– nid yw’r hawl yn absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i Ddileu - gallwch wneud cais inni ddileu eich data personol. Fodd bynnag, gall hyn ein hatal rhag darparu gwasanaeth neu barhau i ddarparu gwasanaeth neu achosi oedi wrth ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cyflawni eich cais, ond efallai bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â’r dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio bod yn destun Penderfyniadau awtomataidd a phroffilio.
- Yr hawl i Fynediad - mae gennych yr hawl i ofyn inni am gopïau o’ch data personol. I wneud cais, cysylltwch â:
Mynediad at Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 764551
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu ddefnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o'r holl agweddau ar sut rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu'ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
E-bost: wales@ico.org.uk
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Ein manylion cyswllt fel rheolydd data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.
Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi'i nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.