Addewid Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd – Prydau Ysgol am Ddim: Ymateb COVID-19

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel rheolydd data) yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol at ddibenion parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod pandemig COVID-19.

Pam y mae angen eich gwybodaeth arnom (diben y prosesu)?

O ganlyniad i’r ymateb cenedlaethol i bandemig COVID-19, mae’r Cyngor wedi gorfod rhoi mesurau ychwanegol ar waith i sicrhau bod disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i gael arian ychwanegol ar gyfer darparu pryd o fwyd pan nad yw’r disgybl yn gallu mynychu’r ysgol.

Rydym yn casglu ac yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol fel y gallwn roi taliad yn eich cyfrif banc neu i’ch cerdyn prydau ysgol am ddim sydd wedi’i ragdalu.

Bydd yr wybodaeth a rowch yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Addysg 2005.

Fel rhan o’n hymateb atal twyll yn ystod pandemig COVID-19, mae’r Cyngor yn rhannu data gyda Cifas at ddibenion atal a chanfod twyll.

I’r rhai ohonoch sy’n derbyn cerdyn wedi’i ragdalu ar gyfer prydau ysgol am ddim, bydd angen i ni rannu eich enw, cyfeiriad a dyddiad geni gyda Prepaid Financial Services, a fydd yn prosesu eich data personol i roi eich cerdyn wedi’i ragdalu i chi ar ein rhan.

Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, a gallwn hefyd rannu’r wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chosteffeithiol. I gyflawni hyn, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda’n gwasanaeth archwilio mewnol yng Nghyngor Sir Penfro ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.

Bydd eich data’n ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol y mae ei hangen er mwyn darparu ein gwasanaeth i chi.

Gweler y ddolen isod am ein hysbysiad preifatrwydd llawn mewn perthynas â phrydau ysgol am ddim

Dyma’r categorïau data personol sy’n cael eu casglu:

  • Enw a dyddiad geni’r rhiant / gwarcheidwad / person â chyfrifoldeb rhiant
  • Cyfeiriad y rhiant /gwarcheidwad / person â chyfrifoldeb rhiant
  • Rhif Yswiriant Gwladol y rhiant / gwarcheidwad / person â chyfrifoldeb rhiant
  • Cyfeiriad e-bost y rhiant / gwarcheidwad / person â chyfrifoldeb rhiant
  • Manylion cyfrif banc y rhiant / gwarcheidwad / person â chyfrifoldeb rhiant
  • Enw a dyddiad geni’r plentyn
  • Manylion tystiolaeth o fudd-daliadau lles sy’n cael eu talu (y rhai sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim)

Beth yw’n sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?

Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn ei gwneud yn ofynnol i amodau penodol gael eu bodloni i sicrhau bod prosesu eich data personol yn gyfreithlon. Mae’r amodau perthnasol fel a ganlyn:

  • Erthygl 6 (1)(e) – mae’r prosesu’n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd wrth weithredu’r awdurdod swyddogol a roddwyd i’r rheolydd

Gyda phwy y byddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth?

Bydd angen i ni rannu eich data personol gyda’r canlynol er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i gael cymorth prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd:

  • Cifas
  • Prepaid Financial Services Ltd[JG1] 

Pa mor hir ydyn ni’n cadw eich gwybodaeth?

Byddwn ni’n cadw’r wybodaeth a roddir i ni am 15 mlynedd a cheir gwared ar eich gwybodaeth yn ddiogel pan nad oes ei hangen mwyach.

Eich hawliau

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys:

  • Eich hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi

Hefyd, mae gennych yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.

  • Mewn rhai amgylchiadau (e.e. lle y mae cywirdeb yn cael ei herio), mae gennych yr hawl i ofyn i’r gwaith o brosesu eich data personol gael ei gyfyngu
  • Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i wrthwynebu i’ch data personol gael eu prosesu
  • Mae gennych yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch data personol. I wneud cais, cysylltwch â:

Mynediad i Gofnodion

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 775798

Cwynion neu ymholiadau

Mae Cyngor Sir Penfro yn ymdrechu i fodloni’r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion yr ydym yn eu cael ynglŷn â hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os credir ein bod yn casglu neu’n defnyddio gwybodaeth mewn modd annheg, camarweiniol neu amhriodol.

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o’r holl agweddau ar sut yr ydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i roi gwybodaeth neu esboniad ychwanegol yn ôl yr angen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at y cyfeiriad isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 764551

Os ydych am wneud cwyn am y ffordd yr ydym wedi prosesu’ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

SK9 5AF

E-bost: wales@ico.org.uk

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Ein manylion cyswllt fel rheolydd data yw:

Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP. Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk

Mae gwybodaeth am ein Swyddog Diogelu Data wedi’i nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.

Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn:

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.

ID: 8853, adolygwyd 07/11/2022