Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad preifatrwydd – Rhestr bostio partneriaethau natur
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel rheolydd Ddata) yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion Partneriaeth Natur Sir Benfro.
Pam y mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn ddarparu gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio i chi yn unol ag amcanion y bartneriaeth natur fel y nodir yn ein cylch gorchwyl.
Caiff yr wybodaeth rydych yn ei darparu ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith ac efallai y byddwn hefyd yn rhannu’r wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod/atal twyll/trosedd neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chosteffeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu â’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro ac ag Archwilydd Cyffredinol Cymru Polisi Preifatrwydd a Chwcis Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol y mae ei hangen arnom er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn i chi.
Pa ddata personol sy’n cael eu casglu?
Dyma’r categorïau data personol sy’n cael eu casglu:
- Enw, cyfeiriad e-bost
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael eu prosesu mewn ffordd gyfreithlon. Dyma’r amodau perthnasol hyn isod:
- Erthygl 6(1)(f) Buddiannau cyfreithlon: mae’r prosesu’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon neu fuddiannau cyfreithlon trydydd parti, oni bai bod rheswm da dros ddiogelu data personol yr unigolyn sy’n drech na’r buddiannau cyfreithlon hynny.
 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen i ni rannu'ch data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon.
Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy’n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Pan fydd angen trosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu’r cyllid cyhoeddus y mae’n ei reoli. Felly, gallai'r wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Caiff yr wybodaeth bersonol yr ydym wedi’i chasglu gennych chi ei rhannu ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a’r asiantaethau atal twyll hyn, a’ch hawliau diogelu data, ar wefan CIFAS (yn agor mewn tab newydd).
Pa mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag sydd angen, byddwn yn cadw’r wybodaeth y rhoddwyd i ni hyd nes y byddwch yn gwneud cais i gael eich tynnu oddi ar y rhestr bostio a bydd eich gwybodaeth yn cael ei dileu’n ddiogel unwaith na fydd ei hangen mwyach.
Eich hawliau
O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys yr hawliau canlynol:
- Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn am gael cywiro eich gwybodaeth.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, ond gallai hyn achosi oedi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi. Byddwn ni’n ymdrechu i gydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol, ond gallai hyn achosi oedi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth neu barhau i gyflenwi gwasanaeth. Byddwn ni’n ymdrechu i gydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch data personol. I gyflwyno cais, cysylltwch â:
Mynediad i Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
Cyfeiriad e-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Rhif ffôn: 01437 764551
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu cael am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i roi gwybod i ni os ydynt o’r farn bod y ffordd yr ydym yn casglu gwybodaeth neu’n ei defnyddio yn annheg, yn gamarweiniol neu’n amhriodol.
Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar ein gwaith o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol y mae eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
Cyfeiriad e-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
Yr Ail lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Cyfeiriad e-bost: cymru@ico.org.uk
Rhif ffôn: 0330 414 6421
Ein manylion cyswllt fel rheolydd data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.
Rhif ffôn: 01437 764551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Mae gwybodaeth am ein Swyddog Diogelu Data wedi’i nodi uchod yn yr adran ‘cwynion ac ymholiadau’.
Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.