Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd – Teledu Cylch Cyfyng (a recordiad sain) (CCTV) ar Gludiant Ysgol
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel rheolydd data) yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol lle defnyddir teledu cylch cyfyng a recordiad sain ar wasanaethau cludiant ysgol. Mae arwyddion wedi'u harddangos yn glir ar bob bws sydd â theledu cylch cyfyng a chyfarpar recordio sain.
Pam y mae angen eich gwybodaeth arnom (diben y prosesu)
Mae'r cyngor yn gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth ac ysgolion i sicrhau bod y rhain yn cael eu gweithredu'n gyfreithlon ac mewn ffordd sy'n ein galluogi ni i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gweithgareddau troseddol a'r bygythiad o droseddu ar rai cerbydau cludiant ysgol.
Mae hyn yn cynnwys casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol trwy deledu cylch cyfyng a recordiad sain, fel y gallwn wneud y canlynol:
- Tawelu meddwl rhieni bod diogelwch y disgyblion yn hollbwysig
- Creu amgylchedd lle bydd y myfyrwyr yn teimlo'n fwy diogel a lle byddant eisiau teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol
- Diogelu iechyd a diogelwch gweithwyr, cwsmeriaid ac aelodau'r cyhoedd
- Cydymffurfio â rhwymedigaethau amddiffyn plant, honiadau neu gwynion
- Rheoli ymddygiad diogel ar gludiant ysgol, diogelu teithwyr a gyrwyr
- Rheoli ac ymchwilio i honiadau, cwynion, troseddau a digwyddiadau
- Rhwystro, atal a chanfod twyll a throsedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol, difrod troseddol, anhrefn cyhoeddus, ymddygiad anghyfreithlon ac ymddygiad amhriodol
- Cefnogi'r heddlu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a fandaliaeth a chynorthwyo i gadw trefn gyhoeddus
- Cynorthwyo i adnabod troseddwyr a chynorthwyo’r ysgol a’r darparwr cludiant i adnabod y myfyrwyr, ar y cyd â’r heddlu ac ysgolion
- Hwyluso'r broses o ddal ac erlyn troseddwyr
- Cynorthwyo'r heddlu i ddarparu tystiolaeth, pan fydd erlyniadau troseddol a sifil yn codi
- Cefnogi’r gwaith o ddod â throseddwyr gerbron y llys a chynyddu diogelwch cymunedol
- Darparu gwasanaethau cyhoeddus a monitro a gwella perfformiad y Cyngor
- Bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol
- Cefnogi'r sefydliad, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol ac yswiriant
Caiff yr wybodaeth rydych yn ei darparu ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018. Bydd unrhyw system yn cael ei gweithredu yn unol â’r 12 egwyddor arweiniol a nodir yng Nghod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth 2013, ac o dan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012, a bydd yn cael ei gynnal yn unol â Chod Ymarfer Camerâu Cylch Cyfyng Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac efallai y byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/trosedd neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu â’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro ac ag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Polisi Preifatrwydd a Chwcis Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol y mae ei hangen arnom er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn i chi.
Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu?
Dyma'r categorïau data personol sy'n cael eu casglu:
Fideos gyda sain a delweddau.
Beth yw'n sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael eu prosesu mewn ffordd gyfreithlon. Mae'r amodau perthnasol hyn fel a ganlyn:
- Erthygl 6 (1)(f) Buddiannau dilys: mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon neu fuddiannau cyfreithlon trydydd parti, oni bai bod rheswm da i ddiogelu data personol yr unigolyn sy'n drech na’r buddiannau cyfreithlon hynny.
 phwy byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Dim ond pan fo angen y caiff lluniau teledu cylch cyfyng eu gweld a’u rhannu (er enghraifft, mewn ymateb i ddigwyddiad neu i ganfod neu atal trosedd).
Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, a bydd y rhain yn cynnwys:
- Adrannau trafnidiaeth ac addysg y cyngor, ysgolion perthnasol a/neu dimau gwaith cymdeithasol, gweithredwyr cludiant ac, os oes angen, yr heddlu.
Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Pan fydd angen trosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu’r cyllid cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, gallai'r wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu ei rhannu ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu pwy ydych. Os caiff twyll ei ganfod, gellir gwrthod eich mynediad at wasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a’r asiantaethau atal twyll hyn, a’ch hawliau diogelu data, ar wefan CIFAS (yn agor mewn tab newydd).
Pa mor hir byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag sydd ei hangen. Byddwn yn cadw’r wybodaeth a ddarparwyd i ni am 31 diwrnod ar ôl i ffilm/delweddau gael eu recordio, oni bai y gofynnwyd amdano, er enghraifft mewn perthynas ag ymchwiliad sy’n mynd rhagddo. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei dileu'n ddiogel unwaith na fydd ei hangen mwyach.
Eich Hawliau
Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn gan gynnwys:
- Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, fodd bynnag gallai hyn oedi neu ein hatal rhag cyflawni gwasanaeth i chi. Byddwn ni’n ymdrechu i gydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd angen i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hyn yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol, ond gallai hyn oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Hawl mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol. I gyflwyno cais, cysylltwch â:
Mynediad i Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 764551
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu cael am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt yn credu bod ein casgliad neu ein defnydd o wybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar ein gwaith o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: wales@ico.org.uk
Ffôn: 0330 414 6421
Ein Manylion Cyswllt fel Rheolydd Data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP.
Ffôn: 01437 764551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi'u nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.