Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd Atgyfeiriadau Profion Covid-19
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn amlinellu sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel Rheolydd Data) yn casglu, defnyddio a diogelu data personol er mwyn eich cyfeirio at brofion COVID-19.
Pam bod angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)?
Yn unol â phroses brofi COVID-19 Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am gydgysylltu gwybodaeth am ddefnyddiwr gwasanaethau gofal cymdeithasol, gweithwyr hanfodol, neu aelod o deulu gweithiwr critigol, a hoffai gael prawf COVID-19. Caiff atgyfeiriadau eu cydlynu drwy Gyngor Sir Penfro; cynhelir profion drwy Fwrdd Iechyd Hywel Dda a’u prosesu yn labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i ddefnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol a phob gweithiwr hanfodol, neu aelod o’u haelwyd, sy’n cael eu cyflogi neu eu contractio i wneud gwaith ar ran Cyngor Sir Penfro.
Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu?
Er mwyn cyflwyno atgyfeiriad, mae angen y wybodaeth ganlynol arnom:
- Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol
- Rhif ffôn cyswllt
- Gwybodaeth iechyd (symptomau)
Er mwyn cynorthwyo Cyngor Sir Penfro i gyflawni ein cyfrifoldebau fel cyflogwr, darparwr Gofal Cymdeithasol a chomisiynydd darpariaeth gofal, gofynnwn i chi roi gwybod i ni am ganlyniadau eich profion.
Sut ydyn ni'n casglu gwybodaeth amdanoch chi?
Os ydych yn gyflogai i Gyngor Sir Penfro, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn i gasglu'r manylion.
Bydd Darparwyr Gwasanaeth yn casglu manylion am ddefnyddwyr gwasanaeth, gweithwyr hanfodol, neu aelodau o gartrefi gweithwyr hanfodol a byddant yn cyflwyno'r wybodaeth hon i Gyngor Sir Penfro.
Beth yw ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol?
Nid oes rhaid i chi gael prawf; fodd bynnag, os dymunwch gael eich profi yna bydd eich data atgyfeirio yn cael ei brosesu yn unol â’r seiliau cyfreithiol canlynol:
- Erthygl 6(1)(e) – mae angen prosesu ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer yr awdurdod swyddogol a roddwyd i'r rheolydd.
- Erthygl 9(2)(h) – mae angen prosesu at ddibenion meddyginiaeth ataliol neu alwedigaethol, er mwyn asesu gallu gweithio'r cyflogai, diagnosis meddygol, darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaethau gofal cymdeithasol.
- Erthygl 9(2)(i) – mae angen prosesu er budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd, megis diogelu rhag bygythiadau trawsffiniol difrifol i iechyd.
Mae’r seiliau cyfreithiol canlynol yn berthnasol ar gyfer cofnodi canlyniad canlyniadau profion:
- Erthygl 6(1)(b) – mae angen prosesu er mwyn cyflawni cytundeb y mae gwrthrych y data yn barti iddo.
- Erthygl 6(1)(d) – mae angen prosesu er mwyn diogelu buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu ddata person naturiol arall.
- Erthygl 9(2)(h) – mae angen prosesu at ddibenion meddyginiaeth ataliol neu alwedigaethol, er mwyn asesu gallu gweithio'r cyflogai, diagnosis meddygol, darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Am ba mor hir y bydd fy nata personol yn cael ei gadw gan y Cyngor?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw’ch manylion am gyhyd ag sydd angen, gan ystyried cyngor y Llywodraeth a’r risg barhaus a gyflwynir gan COVID-19. Bydd y wybodaeth a amlinellir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn cael ei chadw o leiaf drwy gydol yr ymateb i COVID-19 a’r graddfeydd amser cadw perthnasol.
Gyda phwy fydd fy nata yn cael ei rannu?
Bydd eich data yn cael ei rannu gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda a fydd yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad. Bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn anfon samplau profi at Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n prosesu pob prawf yng Nghymru.
Eich Hawliau
O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau, gan gynnwys:
- Eich hawl i gywiriad – mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro manylion y credwch eu bod yn anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau manylion y credwch eu bod yn anghyflawn;
- Mewn rhai amgylchiadau (e.e. lle mae amheuaeth ynghylch cywirdeb), gallwch ofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol;
- Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol;
- Mae gennych hawl mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol. I wneud cais, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â:
Mynediad i Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 775798
Cwynion ac Ymholiadau
Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion hollgynhwysfawr am bob agwedd ar ein casgliad a’n defnydd o fanylion personol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu esboniad sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn ynglŷn â’r ffordd rydym wedi prosesu eich manylion personol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio’r gyfraith diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow SK9 5AF
Dyma ein Manylion Cyswllt fel Rheolydd Data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP. Rhif ffôn: 01437 764 551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Manylir ar fanylion ein Swyddog Diogelu Data uchod yn yr adran Cwynion ac Ymholiadau.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.