Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd - Canolfan Arloesedd Y Bont
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel rheolydd data) yn casglu, defnyddio a rhannu'ch data personol at ddibenion prosesu ffurflenni cais ar gyfer swyddfa neu uned twf ac ymrwymo i gontract prydles neu denantiaeth yn ôl ewyllys.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben y prosesu)
Rydym yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn ymrwymo i gytundeb prydles neu denantiaeth gyda chi ar gyfer swyddfa neu uned twf yng Nghanolfan Arloesedd y Bont.
Wrth ymweld â Chanolfan Arloesedd y Bont, mae teledu cylch cyfyng ar waith, a diben hwn yw atal a chanfod troseddau a diogelwch staff.
Wrth weithio yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, ceir mynediad trwy ffob diogelwch, sy'n cofnodi pwy sydd yn yr adeilad gyda dyddiad ac amser bob tro y defnyddir y ffob ar gyfer mynediad. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio at ddibenion diogelwch a bydd yn cael ei defnyddio i wacáu’r adeilad.
Caiff yr wybodaeth rydych yn ei darparu ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac efallai y byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chosteffeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru Polisi Preifatrwydd a Chwcis Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Ni fyddwn ni’n datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob amser a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol y mae ei hangen arnom er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn i chi.
Pa ddata personol sy'n cael ei gasglu?
Mae’r categorïau data personol sy'n cael eu casglu fel a ganlyn:
- Cwmni, enw a chyfeiriad
- Eich cyfeiriad cartref
- Manylion e-bost
- Strwythur y cwmni
- Rhif ffôn y cwmni
- Rhif ffôn personol
- Delwedd (teledu cylch cyfyng)
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod prosesu eich data personol yn cael ei wneud mewn ffordd gyfreithlon. Nodir yr amodau perthnasol hyn isod:
- Erthygl 6 (1)(b) Contract: mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer contract sydd gennych gyda'r unigolyn, neu oherwydd ei fod wedi gofyn ichi gymryd camau penodol cyn ymrwymo i gontract.
- Erthygl 6 (1)(f) Buddiannau cyfreithlon: mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer eich buddiannau cyfreithlon neu fuddiannau cyfreithlon trydydd parti, oni bai fod rheswm da i warchod data personol yr unigolyn sy'n diystyru'r buddiannau cyfreithlon hynny. Mae hyn yn ymwneud â defnyddio ein system ddiogelwch a'n teledu cylch cyfyng.
 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen i ni rannu'ch data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys y canlynol:
- Adrannau Eiddo a Chyfreithiol Cyngor Sir Penfro
- Dyfed Alarms os oes angen cymorth gyda theledu cylch cyfyng
Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, efallai y caiff yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion cynnal archwiliad yn fewnol ac yn allanol.
Caiff yr wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai eich rhwystro rhag derbyn gwasanaethau penodol, arian neu waith. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma: CIFAS (yn agor mewn tab newydd).
Am ba hyd rydym yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw'ch gwybodaeth am gyhyd ag y bo angen. Byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarparwyd i ni am y cyfnod pan fydd contract eich prydles neu denantiaeth mewn grym ac am 12 mis wedi hynny. Cedwir lluniau teledu cylch cyfyng am 30 diwrnod. Ar gyfer y system ddiogelwch, mae manylion yn cael eu storio ar y system nes i chi adael y swyddfa yng Nghanolfan Arloesedd y Bont. Byddwn yn gwaredu eich gwybodaeth yn ddiogel pan nad oes ei hangen mwyach.
Eich hawliau
Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:
- Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, ond gallai hyn ein hoedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn ni’n ymdrechu i gydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd angen i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol, ond gallai hyn ein hoedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd gofyn i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol. Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â'r canlynol:
Mynediad i Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 764551
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ymdrechu i fodloni’r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i roi gwybod i ni os ydynt o'r farn fod y ffordd yr ydym yn casglu gwybodaeth neu’n ei defnyddio yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar ein gwaith o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon i’r cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os hoffech chi gyflwyno cwyn ynghylch y ffordd rydyn ni wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: cymru@ico.org.uk
Ffôn: 0330 414 6421
Ein manylion cyswllt fel rheolydd data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Mae manylion ein Swyddog Diogelu Data wedi’u cynnwys uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydyn ni’n adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.