Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd - Cartref Preswyl Havenhurst
Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn ymwneud â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel Rheolydd Data) yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol er mwyn eich cefnogi tra byddwch yn aros yng nghartref preswyl Havenhurst.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn:
- Asesu eich anghenion i benderfynu pa gymorth neu wasanaethau y gallai fod eu hangen
- rhoi mynediad i chi at y cymorth a'r gwasanaethau perthnasol
- Rhannu gwybodaeth ag adrannau mewnol eraill, a sefydliadau allanol megis darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod y cymorth a'r gwasanaethau wedi'u teilwra i fodloni eich anghenion unigol.
Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, Deddf Diogelu Data 2018 a:
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deddf Iechyd Meddwl 2007 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005
- Deddf Hawliau Dynol 2010
- Deddf Llywodraeth Leol 2000
- RISCA Deddf Cofrestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru 2016
Mae’n angenrheidiol bod y dasg hon yn cael ei chyflawni’n unol â’r Deddfau uchod a deddfwriaeth berthnasol arall a gwmpesir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu’r wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod/atal twyll/trosedd neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu â’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro ac Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd)).
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd parti at ddibenion marchnata.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol sydd ei hangen arnom i ddarparu ein gwasanaeth i chi.
Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu?
Y categorïau o ddata personol sy’n cael eu casglu yw:
- Enw
- Cyfeiriad
- Manylion cyswllt
- Perthynas agosaf
- Manylion cyswllt mewn argyfwng
- Meddyginiaeth ac alergeddau
- Amgylchiadau iechyd a chymdeithasol
- Anghenion cefnogaeth
- Crefydd
- Ethnigrwydd
Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) yn ei gwneud yn ofynnol i amodau penodol gael eu bodloni i sicrhau bod prosesu eich data personol yn gyfreithlon. Mae’r amodau perthnasol hyn isod:
- Erthygl (6)(e) Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu’n angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu’r swyddogaeth sail gyfreithiol glir.
Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill, ac angen mwy o amddiffyniad. Mae’r data hwn yn cael ei ystyried yn ‘ddata categori arbennig’ a gallai gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol a phrosesu data geneteg neu fiometreg, iechyd a bywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol.
- Erthygl 9(2)(h) Meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, ar gyfer asesu gallu gweithio'r gweithiwr, diagnosis meddygol, darpariaeth gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.
Amod perthnasol Deddf Diogelu Data 2018 yw – Atodlen 1 Rhan 1: Dibenion iechyd neu ofal cymdeithasol
Rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol os oes angen.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd parti, bydd hyn yn cynnwys:
Gall adrannau mewnol gynnwys:
Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol, Gwasanaethau Synhwyraidd, Tîm Iechyd Meddwl, Tîm Camddefnyddio Sylweddau, Tîm Anableddau Dysgu, Gwasanaethau Preswyl Mewnol, Gwasanaethau Cartref Mewnol, Canolfannau Gweithgareddau Cymdeithasol a Chanolfannau Gofal Dydd, Uned Busnes Gofal Cymdeithasol, Diogelu Integredig, Comisiynu Strategol, Broceriaeth, Teleofal, Tai, Grantiau, Cyfreithiol a Chyllid.
Gall Sefydliadau Allanol gynnwys:
Sefydliadau Trydydd Sector gan gynnwys Sefydliadau Elusennol a Chysylltwyr Cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a’r Gorllewin, Heddlu Dyfed Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gan gynnwys Meddygfeydd, Nyrsys Ardal, Darparwyr Gofal Preswyl a Dibreswyl, Llywodraeth Cymru - Y Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth (yn agor mewn tab newydd), Gyrfa Cymru, Sefydliadau Cymorth y Lluoedd Arfog, Cwmnïau Cyfleustodau, Trwyddedu Teledu y mae angen i ni rannu manylion eich Asesiad Gofal a Chynllun Gofal a Chymorth â nhw i ddod o hyd i'r gofal mwyaf priodol.
Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, mae’n bosibl y bydd yr wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi i ni yn cael ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Bydd yr wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu gennych yn cael ei rhannu ag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio pwy ydych chi. Os canfyddir twyll, efallai y gwrthodir rhai gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi. Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn ni a’r asiantaethau atal twyll hyn yn defnyddio’ch gwybodaeth, a’ch hawliau diogelu data, ar gael drwy fynd i CIFAS (yn agor mewn tab newydd)
Am ba mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag sydd ei angen, byddwn yn cadw’r wybodaeth a ddarparwyd i ni ar gyfer:
- pobl sydd â salwch meddwl (Pobl ag "anhwylder meddwl") - a gedwir am 20 mlynedd ar ôl y cyswllt diwethaf (neu 8 mlynedd ar ôl dyddiad y farwolaeth, p'un bynnag sydd gyntaf)
- pawb arall – cedwir yr wybodaeth am 10 mlynedd ar ôl y dyddiad cyswllt diwethaf.
Bydd gwybodaeth yn cael ei gwaredu'n ddiogel unwaith na fydd ei hangen mwyach.
Eich Hawliau
O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn gan gynnwys:
- Yr hawl i Gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i'ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i Gyfyngu ar brosesu fod yn berthnasol - gallwch ofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich data personol, fodd bynnag, gallai hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i Wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod, a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i Ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol, fodd bynnag, gallai hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth, neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun prosesau gwneud penderfyniadau a phroffilio Awtomataidd
- Yr hawl i gael Mynediad - mae gennych yr hawl i ofyn am gopïau o'ch data personol, i wneud cais, cysylltwch â
Mynediad at Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn 01437 764551
Cwynion neu Ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ymdrechu i gyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a gawn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i dynnu ein sylw os ydynt yn credu bod ein casgliad neu ddefnydd o wybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion hollgynhwysfawr am bob agwedd ar ein casgliad a’n defnydd o wybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn fodlon darparu unrhyw wybodaeth neu eglurhad ychwanegol sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os ydych am gwyno am y ffordd rydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: cymru@ico.org.uk
Ffôn: 0330 414 6421
Ein manylion cyswllt fel Rheolydd Data yw:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.
Rhif ffôn: 01437 764551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Manylir ar wybodaeth ein Swyddog Diogelu Data uchod yn yr adran cwynion ac ymholiadau.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.