Addewid Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd - Cartref Preswyl Hillside

Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn cwmpasu sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel Rheolydd Data) yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol er mwyn eich cefnogi tra byddwch yn aros yng Nghartref Preswyl Hillside.

Pam fod angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)

Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn:

  • Asesu eich anghenion er mwyn penderfynu pa gymorth neu wasanaethau a allai fod eu hangen
  • rhoi mynediad i chi ar gyfer y cymorth a’r gwasanaethau perthnasol
  • Rhannu gwybodaeth gydag adrannau mewnol eraill a sefydliadau allanol fel darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau bod y cymorth a'r gwasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu eich anghenion unigol.

Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, Deddf Diogelu Data 2018 a:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Iechyd Meddwl 2007 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005
  • Deddf Hawliau Dynol 2010
  • Deddf Llywodraeth Leol 2000
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Gallwn hefyd rannu’r wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod/atal twyll/trosedd neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd).

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd parti at ddibenion marchnata.

Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol sydd ei hangen i ddarparu ein gwasanaeth i chi.

Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu?

Y categorïau o ddata personol sy’n cael eu casglu yw:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt
  • Perthynas agosaf
  • Manylion cyswllt mewn argyfwng
  • Meddyginiaeth ac alergeddau
  • Amgylchiadau iechyd a chymdeithasol
  • Anghenion cymorth
  • Crefydd
  • Ethnigrwydd

Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?

Yn ôl Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU, mae'n ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni er mwyn sicrhau ei bod yn gyfreithlon i brosesu eich data personol. Mae’r amodau perthnasol hyn isod:

  • Erthygl (6)(e) Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu yn angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu’r swyddogaeth sail glir o fewn y gyfraith.

Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill, ac angen mwy o amddiffyniad. Mae hwn yn cael ei ddosbarthu fel ‘categori data arbennig' a gallai gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol.

Rydym yn prosesu’r math hwn o ddata o gategori arbennig am ei fod yn angenrheidiol oherwydd:

  • Erthygl 9(2)(h) Meddyginiaeth ataliol neu alwedigaethol, ar gyfer asesu gallu’r gweithiwr, diagnosis meddygol, darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.

 (Amod perthnasol Deddf Diogelu Data 2018 yw – Atodlen 1 Rhan 1: Dibenion iechyd neu ofal cymdeithasol)

Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol gydag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys:

Adrannau mewnol:

Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol, Gwasanaethau Synhwyraidd, Tîm Iechyd Meddwl, Tîm Camddefnyddio Sylweddau, Tîm Anableddau Dysgu, Gwasanaethau Preswyl Mewnol, Gwasanaethau Cartref Mewnol, Canolfannau Gweithgareddau Cymdeithasol a Chanolfannau Gofal Dydd, Uned Busnes Gofal Cymdeithasol, Diogelu Integredig, Comisiynu Strategol, Broceriaeth, Teleofal, Tai, Grantiau, Cyfreithiol a Chyllid, Trafnidiaeth, Gweithffyrdd, Mân Ddyledwyr, Uned Ddiogelwch, Polisi a Chynllunio, Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS).

Sefydliadau Allanol:

Sefydliadau Trydydd Sector gan gynnwys Sefydliadau Elusennol a Chysylltwyr Cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heddlu Dyfed Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gan gynnwys Meddygfeydd, Nyrsys Ardal, Darparwyr Gofal Preswyl a Dibreswyl, Llywodraeth Cymru - Y Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth (yn agor mewn tab newydd), Gyrfa Cymru, Sefydliadau Cefnogi'r Lluoedd Arfog, Cwmnïau Cyfleustodau, Trwyddedu Teledu, Gofal a Thrwsio, Eiriolaeth, Dewis, Darparwyr Trafnidiaeth, Pobl yn Gyntaf Sir Benfro, Ateb, Fferyllwyr, Darparwyr Gofal Cartref, Gwasanaethau Gwirfoddol, AGC.

Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly mae’n bosibl y bydd yr wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi i ni yn cael ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio, yn fewnol ac yn allanol.

Bydd yr wybodaeth bersonol yr ydym wedi ei chasglu gennych yn cael ei rhannu ag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio eich hunaniaeth. Os canfyddir twyll, efallai y byddwch yn cael eich rhwystro rhag derbyn rhai gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth. Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn ni a’r asiantaethau atal twyll hyn yn defnyddio’ch gwybodaeth, a’ch hawliau diogelu data, i'w gweld drwy fynd i CIFAS (yn agor mewn tab newydd)

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag y bydd ei hangen. Byddwn yn cadw’r wybodaeth a ddarparwyd i ni ar gyfer:

  • pobl â salwch meddyliol (pobl ag "anhwylder meddyliol") - a gedwir am 20 mlynedd ar ôl y cyswllt diwethaf (neu 8 mlynedd ar ôl dyddiad y farwolaeth, pa un bynnag yw'r cynharaf.)
  • pob unigolyn arall - cedwir am 10 mlynedd o'r dyddiad cyswllt diwethaf.

Bydd yr wybodaeth yn cael ei gwaredu'n ddiogel unwaith na fydd ei hangen mwyach.

Eich Hawliau

O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn gan gynnwys:

  • Yr hawl i Gywiriad – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
  • Gallai'r hawl i Gyfyngu'r prosesu fod yn berthnasol – gallwch ofyn i ni roi’r gorau i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, gallai hyn oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi.  Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais, ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i Wrthwynebu - nid yw hon yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
  • Yr hawl i Ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol. Fodd bynnag, gallai hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth, neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais, ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i beidio â bod yn ddarostyngedig i Benderfyniadau a phroffilio awtomataidd
  • Yr hawl i Fynediad - mae gennych yr hawl i ofyn am gopïau o’ch data personol. I wneud cais, cysylltwch â:

Mynediad i Gofnodion

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn 01437 764551

Cwynion neu Ymholiadau

Mae Cyngor Sir Penfro yn ymdrechu i gyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Oherwydd hyn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a gawn am y mater o ddifrif. Rydym yn annog pobl i'n hysbysu os ydynt yn credu bod ein casgliad neu ddefnydd o wybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol. 

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar ein casgliad a’n defnydd o wybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu esboniad sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 764551

Os ydych am wneud cwyn am y ffordd yr ydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill

Ffordd Churchill

Caerdydd

CF10 2HH

E-bost: cymru@ico.org.uk

Ffôn: 0330 414 6421

Ein manylion cyswllt fel Rheolydd Data yw:

Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.

Rhif ffôn: 01437 764551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk

Manylir ar wybodaeth ein Swyddog Diogelu Data uchod yn yr adran Cwynion ac Ymholiadau.

y

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.

 

 

 

 

 

ID: 9292, adolygwyd 16/04/2025