Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd - Cyfleusterau Cyhoeddus
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel Rheolwr Data) yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion parhau gyda'ch cwyn a/neu hawliad.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
Rydym yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol fel y gallwn gasglu tystiolaeth, adborth ac archwilio eich cwyn a/neu hawliad.
Mae'r wybodaeth rydych yn ei darparu yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014, Deddf Gweithdrefn Sifil 1997, Deddf Yswiriant 2015, Deddf Traffig Ffyrdd 1988,Deddf Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) 1969, Rheoliadau (Yswiriant) Hedfan Sifil 2005, Deddf Yswiriant Morol 1906, Rheoliadau Yswiriant Modur (Yswiriant Gorfodol) 2016, Rheoliadau Cerbydau Modur (Gofynion Yswiriant) (Llonyddu, Symud Ymaith a Gwaredu) 2011, Deddf Cyllid 1994, Rheoliadau Yswiriant Treth Premiwm 1994, Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac efallai y byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/trosedd neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro ac Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru).
Ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob adeg a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn darparu ein gwasanaeth i chi.
Pa ddata personol sy'n cael ei gasglu?
Y categorïau ar gyfer y data personol sy’n cael ei gasglu yw:
- Enw
- Cyfeiriad
- Manylion Cyswllt
- Rhyw
- Anableddau corfforol
- Enw a chyfeiriad meddyg teulu
Beth yw'n sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu’n gyfreithlon. Mae'r amodau perthnasol isod:(dilëwch fel sy'n berthnasol neu cysylltwch â'r tîm Llywodraethu Gwybodaeth am ragor o arweiniad)
- Erthygl 6 (1)(c) Rhwymedigaeth gyfreithiol: mae'r prosesu'n angenrheidiol er mwyn i ni gydymffurfio â'r gyfraith (heb gynnwys rhwymedigaethau dan gontract). Mae hyn mewn perthynas â hawliadau yswiriant.
- Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae angen inni brosesu er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sylfaen glir yn y gyfraith.
Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill ac mae angen eu diogelu’n fwy. Mae’r mathau hyn o ddata yn cael eu hystyried fel 'data categori arbennig' a gall gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hil neu ethnigrwydd, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu foesegol neu aelodaeth undeb llafur a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn prosesu’r math hwn o ddata categori arbennig gan ei fod yn angenrheidiol am y rhesymau canlynol:
- Erthygl 9 (2)(g) O fudd sylweddol i’r cyhoedd.
(Yr amodau perthnasol o fewn Deddf Diogelu Data 2018 yw – Atodlen 1 Rhan 2: Dibenion statudol a llywodraethol ac Yswiriant)
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol gydag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon. Bydd hyn yn cynnwys:
- Cynnal a Chadw Adeiladau CSP
- Cyfleusterau CSP
- Gwasanaethau Cyfreithiol CSP
- Cwynion Corfforaethol CSP
- DANFO
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, efallai y caiff yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion cynnal archwiliad yn fewnol ac yn allanol.
Caiff y wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gellir eich rhwystro rhag derbyn gwasanaethau penodol, arian neu waith. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma: CIFAS
Pa mor hir ydyn ni’n cadw eich gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag y bo angen. Byddwn yn cadw’r wybodaeth sydd wedi’i rhoi i ni am o leiaf 3 blynedd a hyd at 7 mlynedd a cheir gwared ar eich gwybodaeth yn ddiogel pan na fydd ei hangen arnom mwyach.
Eich Hawliau
Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:
- Yr hawl i gywiriad – mae gennych yr hawl i ofyn i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, fodd bynnag gallai hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn ni’n ymdrechu i gydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd angen i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hyn yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd gofyn i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Hawl mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol. I wneud cais, cysylltwch â'r canlynol:
Mynediad at Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 764551
Cwynion neu Ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ymdrechu i fodloni’r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a dderbyniwn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i dynnu ein sylw os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu’n defnyddio gwybodaeth mewn modd annheg, camarweiniol neu amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o bob agwedd ar ein casgliad a'n defnydd o wybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon i’r cyfeiriad isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os hoffech chi gyflwyno cwyn ynghylch y ffordd rydyn ni wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
E-bost: wales@ico.org.uk
Rhif Ffôn: 0303 123 1113
Ein Manylion Cyswllt fel Rheolwr Data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Mae manylion ein Swyddog Diogelu Data wedi’u cynnwys uchod yn yr adran Cwynion ac Ymholiadau.
Newid i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydyn ni’n adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.