Addewid Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd - Cynllun cydnabyddiaeth ariannol y GIG a gofal cymdeithasol

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymwneud â sut bydd Cyngor Sir Penfro (fel y Rheolydd Data) yn casglu, defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion gweinyddu’r cynllun cydnabyddiaeth ariannol y GIG a gofal cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru.

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)  

Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn i ni allu gweinyddu penderfyniad

Llywodraeth Cymru i ddyfarnu swm o £500 i bob gofalwr am y gwaith a wnaethant yn ystod y pandemig COVID-19. I wneud hyn, bydd angen i sefydliadau sy’n cyflogi gofalwyr cymwys rannu gwybodaeth â ni er mwyn sicrhau bod pob unigolyn cymwys yn cael yr arian y mae ganddynt hawl iddo.  

Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni’n cael ei phrosesu’n unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018. 

Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a gallwn rannu’r wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus er mwyn sicrhau y caiff arian ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn gwneud hynny, caiff gwybodaeth ei rhannu â’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro ac Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

Ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata. 

Bydd eich data’n ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol sydd ei hangen i ddarparu ein gwasanaeth i chi. 

Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu?  

Mae’r categorïau data personol sy’n cael eu casglu fel a ganlyn: 

Cyflwyniad cychwynnol o’r cyflogeion cymwys 

  • Enw 
  • Rhif Yswiriant Gwladol 
  • Rhif cyfeirnod yr asiantaeth (os yw’n berthnasol) 

Manylion y gyflogres ar ôl i’r taliad gael ei wneud 

  • Enw 
  • Rhif Yswiriant Gwladol 
  • Cost Yswiriant Gwladol y Cyflogwr 
  • Cost Pensiwn y Cyflogwr 

Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?  

Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn ei gwneud yn ofynnol bodloni amodau penodol er mwyn sicrhau y caiff eich data ei brosesu’n gyfreithlon. Mae’r amodau perthnasol hyn i’w gweld isod:   

Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu’n angenrheidiol i chi gyflawni’r dasg er budd cyhoeddus neu ar gyfer eich gweithrediadau swyddogol, a bod gan y dasg neu’r gweithrediad sail gadarn yn y gyfraith

Pwy fyddwn yn eich rhannu eich gwybodaeth â nhw?  

Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon. Bydd hyn yn cynnwys: 

  • Llywodraeth Cymru 
  • Data Cymru
  • Cydwasanaethau GIG Cymru
  • Awdurdod lleol arall os nodir taliadau dyblyg 

Nid oes angen rhannu’r wybodaeth y gofynnir amdani â Llywodraeth Cymru er mwyn i’r taliad gael ei wneud. Fodd bynnag, mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro roi gwybod i Lywodraeth Cymru sawl unigolyn yn y Sir sy’n gymwys i gael y taliad. 

Gellir cymharu rhan o rif Yswiriant Gwladol (YG) â phrif restr sy’n cael ei chadw gan Data Cymru at ddibenion dilysu. 

Mewn amgylchiadau lle’r ydych yn gweithio yn Sir Benfro ond yn byw y tu allan i’r sir ac yn cael Gostyngiad y Dreth Gyngor, byddwn yn rhoi gwybod i’ch awdurdod lleol am y taliad fel na fydd yn effeithio ar eich Gostyngiad i’r Dreth Gyngor. 

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu’r gronfa gyhoeddus mae’n ei rheoli. Felly, gellir defnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i roi i ni i atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio mewnol ac allanol. 

Am ba hyd byddwn yn cadw eich gwybodaeth? 

Bydd Cyngor Sir Penfro yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y bo angen yn unig. Byddwn yn cadw’r wybodaeth a roddir i ni am hyd at 7 mlynedd ac yn cael gwared arni’n ddiogel pan nad oes ei hangen mwyach. 

Eich hawliau 

Dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys: 

  • Yr hawl i Gywiro – mae gennych hawl i ofyn bod eich gwybodaeth yn cael ei chywiro. 
  • Gall yr hawl i Gyfyngu ar brosesu fod yn berthnasol – gallwch ofyn i ni roi’r gorau i brosesu eich data personol; fodd bynnag, gallai hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais, ond efallai y bydd angen i ni ddal neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol. 
  • Yr hawl i Wrthwynebu – nid yw’r hawl hon yn absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm am brosesu eich gwybodaeth bersonol. 
  • Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomatig.  
  • Yr hawl i Fynediad – mae gennych hawl i ni ofyn am gopïau o’ch data personol. I wneud cais, cysylltwch â :

Mynediad i Gofnodion 

Cyngor Sir Penfro 

Neuadd y Sir 

Hwlffordd 

SA61 1TP 

E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk  Rhif ffôn: 01437 775798

Cwynion neu Ymholiadau: 

Mae Cyngor Sir Penfro yn ymdrechu i fodloni’r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion yn ymwneud â hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i roi gwybod i ni os ydynt o’r farn bod y modd rydym yn casglu neu’n defnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu’n amhriodol. 

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn fodlon rhoi unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei (h)angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn at y cyfeiriad isod: 

Swyddog Diogelu Data 

Cyngor Sir Penfro 

Neuadd y Sir 

Hwlffordd 

SA61 1TP 

E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk  Rhif ffôn: 01437 764551 

Os hoffech gwyno am y ffordd rydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n gorchwylio cyfraith diogelu data: 

Information Commissioner’s Office 

Wycliffe House 

Water Lane 

Wilmslow 

SK9 5AF 

E-bost: wales@ico.org.uk 

Rhif ffôn: 0303 123 1113 

Ein manylion cyswllt fel y Rheolydd Data: 

Cyngor Sir Penfro 

Neuadd y Sir 

Hwlffordd 

Sir Benfro 

SA61 1TP 

E-bost: enquiries@pembrokeshire.gov.uk 

Rhif ffôn: 01437 764551

Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi’i manylu uchod yn yr adran Cwynion ac Ymholiadau. 

Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn: 

Rydym yn cadw ein hysbysiad preifatrwydd dan arolwg yn barhaus.

ID: 8850, adolygwyd 21/03/2023