Addewid Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd - Cynlluniau Datblygu

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel rheolydd data) yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu'ch data personol at ddibenion:

a) Paratoi a monitro'r Cynllun Datblygu, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â'r Cynllun Datblygu Lleol, y Cynllun Datblygu Strategol rhanbarthol, dogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol cysylltiedig, gohebiaeth gynllunio gyffredinol yn ymwneud â'r dogfennau cynllunio parhad busnes a grybwyllwyd uchod a’r  rhai cysylltiedig; ynghyd â

b) Monitro rhwymedigaethau cynllunio (yn ymwneud â chytundebau cyfreithiol cynllunio adran 106) a cheisiadau Perchentyaeth Cost Isel sy'n gysylltiedig â rhwymedigaethau cynllunio ac â gofynion Canllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy'r Cyngor. 

Pam mae angen eich gwybodaeth (diben prosesu)

Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn inni allu:

a) Baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol a’r dogfennau canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig (gan gynnwys cynnal a chadw cronfa ddata am ymgynghoriadau), a monitro’r broses o roi’r Cynllun Datblygu Lleol ar waith fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth gynllunio;

b) Monitro'r broses o gyflwyno ceisiadau cynllunio, y Cynllun Datblygu Lleol, y Cynllun Datblygu Strategol rhanbarthol, y dogfennau canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig a gohebiaeth gynllunio gyffredinol sy'n ymwneud â'r hyn a grybwyllwyd uchod, fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth gynllunio;   ac

c) Wrth gyflawni'r asesiad o'ch cymhwyster i dderbyn  Perchnogaeth Cartrefi Cost Isel, yn unol â'r Canllawiau  Cynllunio Atodol ar gyfer Tai Fforddiadwy. 

Caiff yr wybodaeth rydych yn ei darparu ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol, 2004 a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, a hefyd Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2005, a'r Rheoliadau Diwygio, 2015, yn ogystal â Deddf yr Amgylchedd (Cymru), 2016, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2011, Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Argyfyngau Sifil 2004 ac adran 106 o’r cytundebau cyfreithiol sy'n ymwneud â darpariaeth Tai Fforddiadwy.

Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau y mae eu hangen yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu â’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro ac ag Archwilydd Cyffredinol Cymru Polisi Preifatrwydd a Chwcis Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd).

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.

Bydd eich data'n ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob adeg a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn i chi dderbyn ein gwasanaeth.

Pa fath o ddata personol sy’n cael ei gasglu?

Mae’r categorïau data personol sy’n cael ei gasglu fel a ganlyn:

  • Enw, manylion cyswllt, llofnod, gohebiaeth yn ymwneud â safleoedd penodol, ymholiadau cyffredinol neu’n ymwneud â pholisi, dewis cyfathrebu yn Gymraeg neu yn Saesneg, diddordeb mewn tir, cofnodion marwolaethau, gwybodaeth ariannol.

Beth yw ein sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?

Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu’n gyfreithlon.  Mae'r amodau perthnasol hyn isod:

  • Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu'n angenrheidiol i ni gyflawni tasg er budd cyhoeddus neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, a bod gan y dasg neu'r swyddogaeth sail gyfreithiol glir.

 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol gydag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys:

  • Cynllun Datblygu Lleol a Chanllawiau Cynllunio Atodol - bydd enwau a sylwadau yn cael eu cyhoeddi.
  • Arolygon – bydd yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Penfro.  
  • Ceisiadau Perchentyaeth Cost Isel - Asiantaeth Eiddo, Cyfreithwyr, Benthycwyr, Datblygwyr ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod y broses pan fyddwn yn rhoi gwybod a fu cais yn llwyddiannus ai peidio. 
  • Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru
  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, efallai y caiff yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion cynnal archwiliad yn fewnol ac yn allanol.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu ei rhannu ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a’r asiantaethau atal twyll hyn, a’ch hawliau diogelu data, yma: CIFAS (yn agor mewn tavb newydd).

Am ba mor hir byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw’ch gwybodaeth am gyhyd ag sydd angen. Byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarperir inni am 25 mlynedd fodd bynnag fe fydd yn bosibl gwaredu ar yr ohebiaeth gyffredinol yn ymwneud â'r cynlluniau cynharach, ymhell o flaen llaw.

O ran ymholiadau cyffredinol sy'n ymwneud â pholisïau cynllunio, byddwn yn eu cadw am 3 blynedd. 

Fe fydd Ceisiadau Perchentyaeth Cost Isel yn cael eu cadw’n electronig am y cyfnod y byddwch yn berchen ar yr eiddo, os yw’r cais yn llwyddiannus.  Os yw'r cais yn llwyddiannus ond nad yw'r ymgeisydd yn bwrw ymlaen â phrynu’r eiddo, cedwir yr wybodaeth yn electronig hyd nes y ceir cadarnhad nad darpar brynwr  yr eiddo yw perchennog yr eiddo. Os byddwch yn aflwyddiannus, cedwir yr wybodaeth yn electronig am dri mis ar ôl  dyddiad y penderfyniad. 

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei dileu'n ddiogel pan na fydd ei hangen mwyach.

Eich hawliau

O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:

  • Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
  • Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, fodd bynnag, gallai hyn achosi oedi wrth gyflenwi gwasanaeth i chi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi.  Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
  • Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol, ond gall hyn achosi oedi wrth ddarparu gwasanaeth neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth neu rhag parhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
  • Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch data personol.  Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â'r canlynol:

Mynediad i Gofnodion

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk    Rhif ffôn: 01437 764551

Cwynion neu ymholiadau

Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posibl wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn am hyn o ddifrif.  Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu ddefnyddio gwybodaeth mewn modd annheg, camarweiniol neu amhriodol. 

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o’r holl agweddau ar sut rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: diogeludata@sir-benfro.gov.uk

Rhif ffôn: 01437 764551

Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu'ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill

Ffordd Churchill

Caerdydd

CF10 2HH

E-bost: cymru@ico.org.uk

Ffôn: 0330 414 6421

Ein manylion cyswllt fel rheolydd data:

Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.

Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk

Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi'i nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion neu ymholiadau’.

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.

 

ID: 9372, adolygwyd 18/12/2025