Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd - Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys; Cymorth Rhianta Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel Rheolwr Data) yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol gan unigolion a atgyfeirir gan yr heddlu er mwyn darparu cymorth rhianta y tu allan i'r llys ar gyfer Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
Pan ddaw Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 i rym ar 21 Mawrth 2022, bydd yn dileu'r amddiffyniad o gosb resymol. O'r adeg hon ymlaen, bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Os bydd yr heddlu (ar ôl ystyried y profion tystiolaethol a budd y cyhoedd) yn penderfynu cymryd camau pellach yn erbyn rhiant sydd wedi cosbi eu plentyn yn gorfforol, gallent gynnig datrysiadau y tu allan i'r llys (OOCD), er mwyn osgoi'r posibilrwydd o erlyn drwy'r llysoedd am droseddau lefel isel. Un o amodau datrysiadau’r tu allan i’r llys fyddai cymryd rhan mewn cymorth rhianta sydd â'r bwriad o ddatblygu arferion rhianta di-drais cadarnhaol.
Mae'r Grant Cymorth Rhianta y Tu Allan i'r Llys yn darparu cyllid i alluogi awdurdodau lleol i ddarparu'r cymorth rhianta pwrpasol hwn.
Gall yr awdurdod lleol gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol i:
- Asesu anghenion rhianta'r unigolyn i deilwra'r sesiynau cymorth rhianta i'w hanghenion penodol.
- Rhoi mynediad i'r unigolyn at y cymorth rhianta.
- Rhannu gwybodaeth gyda'r heddlu fel eu bod yn gwybod a yw'r unigolyn wedi cydymffurfio ag amodau'r gwarediad y tu allan i'r llys.
- Bodloni rhwymedigaethau diogelu.
- Rhannu gyda Llywodraeth Cymru at ddibenion monitro a gwerthuso, er mwyn asesu a yw'r cymorth rhianta a ddarperir yn effeithiol ac yn diwallu anghenion amrywiaeth o unigolion (yn yr achos hwn, bydd data'r unigolyn yn gyfanredol ac yn ddienw).
Caiff y wybodaeth a roddwch ei phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020, a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac efallai y byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/trosedd neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu â'n Gwasanaeth Archwilio o fewn Cyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru).
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sy'n ofynnol i ddarparu ein gwasanaeth i chi.
Pa ddata personol sy'n cael ei gasglu?
Dyma'r categorïau o ddata personol sy'n cael eu casglu:
- enw
- dyddiad geni
- cyfeiriad preswyl a hanes cyfeiriad
- manylion cyswllt megis cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn
- manylion perthynas/teulu
- swydd
- manylion trosedd gan gynnwys crynodeb o'r digwyddiad
Rydym yn darparu cymorth rhianta i unigolion a atgyfeirir gan yr heddlu ac rydym yn rhoi gwybod i'r heddlu am y cynnydd, gan gynnwys lefelau ymgysylltu a chanlyniadau megis newidiadau mewn effeithiolrwydd rhianta.
Yn ogystal, byddwn yn rhannu gwybodaeth gyfanredol ddienw am nodweddion gwarchodedig unigolion a atgyfeirir ar gyfer cymorth rhianta y tu allan i'r llys i Lywodraeth Cymru. Y diben yw helpu Llywodraeth Cymru i asesu a oes unrhyw wahaniaethau o ran atgyfeirio ar gyfer y cymorth rhianta yn ôl rhyw, ethnigrwydd neu statws anabledd, a chymryd rhan ynddo. Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr agwedd hon ar brosesu data personol. Bydd y data hwn yn cynnwys:
- y tarddiad ethnig; rhyw; a statws anabledd unigolion
- nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd
- y nifer sydd wedi manteisio ar y cymorth rhianta
- y nifer sydd wedi cwblhau'r sesiynau'n rhannol
- y nifer sydd â chanlyniad cadarnhaol a nodwyd
- y nifer a oedd yn ffafrio ac yn cwblhau sesiynau'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg
Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol i amodau penodol gael eu bodloni er mwyn sicrhau bod prosesu eich data personol yn gyfreithlon. Mae'r amodau perthnasol hyn isod:
- Erthygl 6 (1)(c) Rhwymedigaeth gyfreithiol: mae'r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn ddarostyngedig iddi (e.e. Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020) (heb gynnwys rhwymedigaethau cytundebol).
- Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae'r prosesu yn angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu er budd ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.
Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill, ac maent angen mwy o ddiogelwch. Mae hyn yn cael ei ystyried yn 'ddata categori arbennig' a gallai gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol neu aelodaeth undebau llafur a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn prosesu'r math hwn o ddata categori arbennig gan ei fod yn angenrheidiol am resymau:
Erthygl 9(2)(g) budd sylweddol i'r cyhoedd yn unol â Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020
(Yr amod perthnasol o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 yw – Atodlen 1 Rhan 2: Cyfle cyfartal neu driniaeth)
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol gydag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, a bydd hyn yn cynnwys:
- Llywodraeth Cymru
- Heddlu
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, gellir defnyddio'r wybodaeth yr ydych wedi'i rhoi i ni ar gyfer atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Bydd yr wybodaeth bersonol yr ydym wedi'i chasglu gennych yn cael ei rhannu ag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio pwy ydych. Os canfyddir twyll, gallech gael eich gwrthod i rai gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am sut y byddwn ni a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yn cael eu defnyddio gennym ni a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, drwy ymweld â CIFAS
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Ni fydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y bo angen. Byddwn yn cadw'r wybodaeth a roddwyd i ni am 7 mlynedd a bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu'n ddiogel unwaith nad oes ei hangen mwyach.
Eich Hawliau
O dan Ddeddf Rheoleiddio Diogelu Data Cyffredinol y DU a Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:
- Yr hawl i Gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn am i'ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i Gyfyngu prosesu fod yn berthnasol – gallwch chi ofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich data personol, fodd bynnag, gall hyn oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd gofyn i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i Wrthod – nid yw hyn yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i Ddilead – gallwch chi ofyn i ni ddileu eich data personol, fodd bynnag, gall hyn oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth, neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd gofyn i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn ddarostyngedig i Wneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Yr hawl i Fynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol. I wneud cais, cysylltwch â:
Mynediad at Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 764551
Cwynion neu Ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio cyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a dderbyniwn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i dynnu ein sylw os ydynt yn credu bod ein casgliad neu ddefnydd o wybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar ein casgliad a'n defnydd o wybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio cyfraith diogelu data:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
E-bost: wales@ico.org.uk
Rhif Ffôn: 0303 123 1113
Ein Manylion Cyswllt fel Rheolwr Data yw:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP.
Rhif ffôn: 01437 764551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data i'w gweld uchod yn yr adran Cwynion ac Ymholiadau.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.