Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd Defnydd yr adran Safonau Masnach or Gronfa Ddata Gwybodaeth Sancsiynau (SiD) ar gyfer ymchwiliadau a chamau gorfodi
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys sut mae Cyngor Sir Penfro (fel y rheolydd data) yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion hysbysu'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd o gamau a chanlyniadau gorfodi troseddol a sifil penodol a gyflawnir gan yr adran Safonau Masnach.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
Rydym yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn inni allu bodloni dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i hysbysu'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd o gamau a fwriadwyd ac a gwblhawyd mewn perthynas â darnau penodol o ddeddfwriaeth Safonau Masnach ar gyfer gorfodi sifil a throseddol (a amlinellir isod).
Rhoddir gwybod i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd trwy’r Gronfa Ddata Gwybodaeth Sancsiynau, sy'n cael ei rheoli a'i chynnal gan y Rhwydwaith Gwrth-dwyll Cenedlaethol. Mae'r Gronfa Ddata Gwybodaeth Sancsiynau yn ystorfa ar gyfer yr holl dor rheolau Safonau Masnach ac mae'n galluogi chwilio'r data a gedwir i hwyluso swyddogaethau ymchwilio neu orfodi.
Gall aelodau'r Rhwydwaith Gwrth-dwyll Cenedlaethol, timau Safonau Masnach awdurdodau lleol, a sefydliadau a restrir yn Rhan 8 o Ddeddf Menter 2002 gael mynediad at y Gronfa Ddata Gwybodaeth Sancsiynau i gyflawni eu rhwymedigaethau hysbysu i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (mwy o fanylion ar gael ar gais).
Caiff yr wybodaeth rydych yn ei darparu ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Menter 2002 a Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau y mae eu hangen yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data'n ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob adeg a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn i chi dderbyn ein gwasanaeth.
Pa fath o ddata personol sy'n cael eu casglu?
Mae’r categorïau data personol sy'n cael eu casglu fel a ganlyn:
- Eich enw, enw'r cwmni/busnes
- cod post y cyfeiriad;
- dyddiad geni / rhif Yswiriant Gwladol os yw'n hysbys;
- y ddeddfwriaeth y bwriedir gweithredu camau gorfodi oddi tani;
- natur y camau gorfodi, e.e. erlyniad, rhybuddiad, gorchymyn gorfodi;
- y dyddiad ac enw'r llys lle gwrandawyd ar yr achos a'r canlyniad, gan gynnwys manylion unrhyw gosb
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod prosesu eich data personol yn cael ei wneud mewn ffordd gyfreithlon. Nodir yr amodau perthnasol hyn isod:
- Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae'r prosesu'n angenrheidiol i ni gyflawni tasg a gynhelir er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen inni rannu'ch data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys y canlynol:
- Y gwasanaethau cymdeithasol, yr adran gyfreithiol, yr adran cyllid, yr heddlu, yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd a'r Rhwydwaith Gwrth-dwyll Cenedlaethol.
Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, gall yr wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma: CIFAS (yn agor mewn tab newydd)
Pa mor hir ydyn ni’n cadw'ch gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag y bydd angen. Byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarperir inni am 7 mlynedd ar ôl i'r busnes/masnachwr roi'r gorau i weithredu a bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu mewn modd diogel unwaith nad oes ei hangen arnom mwyach.
Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw gan y Rhwydwaith Gwrth-dwyll Cenedlaethol ar y Gronfa Ddata Gwybodaeth Sancsiynau am gyfnod a bennir gan ddifrifoldeb y troseddau a'r camau gorfodi a'r canlyniad dilynol (manylion pellach ar gael ar gais).
Eich hawliau
Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:
- Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol; fodd bynnag, gallai hyn oedi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu'ch gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn inni am gopïau o'ch data personol. Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â'r canlynol:
Mynediad i Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu ddefnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o'r holl agweddau ar sut rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu'ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
E-bost: wales@ico.org.uk
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Ein manylion cyswllt fel rheolydd data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.
Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi'i nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.