Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd - Gofal i Oedolion - Gwasanaethau Dydd a Chyfleon Dydd
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel rheolydd data) yn casglu, defnyddio a rhannu'ch data personol at ddibenion mynychu cyfleoedd dydd.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
Rydym yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol fel y gallwn wneud y canlynol:
- Diogelu pobl hŷn ac oedolion ag anableddau dysgu
- Gweithredu ar atgyfeiriadau
- Darparu'r gefnogaeth berthnasol pan fyddwch yn mynychu'r gwasanaeth
- Monitro'r cymorth a'r gwasanaeth rydym yn eu darparu
- Rhannu'r wybodaeth ag adrannau mewnol eraill a sefydliadau allanol, fel darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, i sicrhau bod y cymorth a'r gwasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion unigol pob cwsmer.
- Rhannu gwybodaeth ag adrannau mewnol a'r sefydliadau allanol priodol i sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau diogelu .
- Paratoi gwybodaeth gywir am nifer y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau a'u hanghenion gwahanol i'n helpu i ddarparu'r cyfleoedd dydd cywir a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
- Cynnal gwahanol fathau o ddadansoddiadau gan gynnwys ystadegau a chyfrifiadau o gyfraddau gwasanaeth.
- Cael ein harchwilio
Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Iechyd Meddwl 2007 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005, Deddf Llywodraeth Leol 2000 a Deddf Hawliau Dynol 2010. Mae’r gwaith prosesu yn angenrheidiol i ddiogelu buddiant allweddol testun y data neu unigolyn arall. Er mwyn cyflawni’r dasg hon, mae’n angenrheidiol gwneud hynny yn unol â’r deddfau uchod a deddfwriaeth berthnasol a gwmpesir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau y mae eu hangen yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru Polisi Preifatrwydd a Chwcis Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Ni fyddwn ni’n datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data'n ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn i chi dderbyn ein gwasanaeth.
Pa fath o ddata personol sy'n cael ei gasglu?
Mae’r categorïau o ddata personol sy'n cael eu casglu fel a ganlyn:
- Enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, perthynas agosaf, manylion cyswllt brys, gwybodaeth addysg, gwybodaeth iechyd fel anghenion cymorth, sefyllfa gymdeithasol.
- Ar gyfer teledu cylch cyfyng: Delweddau (Dim sain)
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu’n gyfreithlon. Mae'r amodau perthnasol hyn fel a ganlyn:
- Erthygl 6 (1) (e) Tasg gyhoeddus: mae'r gwaith prosesu'n angenrheidiol i ni gyflawni tasg a gynhelir er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.
Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill, ac mae angen iddynt gael eu diogelu’n fwy. Dosberthir y rhain fel 'data categori arbennig' a gallent gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol neu aelodaeth undeb llafur, a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhywiol, a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn prosesu’r math hwn o ddata categori arbennig gan ei fod yn angenrheidiol am y rhesymau canlynol:
- Erthygl 9 (2)(h) Meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, at ddiben asesu gallu’r gweithiwr i weithio, diagnosis meddygol, darparu iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth, neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.
(Amod perthnasol Deddf Diogelu Data 2018 yw – Atodlen 1, Rhan 1: Diben iechyd neu ofal cymdeithasol)
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen i ni rannu'ch data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys y canlynol:
Adrannau mewnol:
- Canolfan Gyswllt
- Timau Gofal ac Asesu
- Refeniw a Chyllid at ddibenion bilio
- Tîm Pontio
- Ysgol Portfield
- Gwasanaethau Hamdden
- Arlwyo
- Trafnidiaeth
- Diogelu
- Mân Ddyledwyr
- Cyfreithiol
- Uned Ddiogelwch
- Cyllid
- Polisi a Chynllunio
- Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS)
Sefydliadau allanol / eraill:
- Darparwyr trafnidiaeth
- Eiriolaeth - Dewis a Pobl yn Gyntaf Sir Benfro
- Gweithffyrdd
- Llywodraeth Cymru - Y Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth (yn agor mewn tab newydd)
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gan gynnwys meddygfeydd, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd ac iaith, nyrsys cymunedol
- Darparwyr Gofal Allanol
- Cysylltwyr Cymunedol / Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro / Hwb Cymunedol
- Sefydliadau Gwirfoddol / Trydydd Sector
- Gofal a Thrwsio
- Ateb
- Fferyllwyr
- Darparwyr Gofal Cartref
- Yr heddlu
- Y Gwasanaeth Tân ac Achub
- Gladstone (sef ein prosesydd data ar gyfer rhai o'r data Opportunies Dydd rydym yn eu casglu)
- Darparwyr Cyfleoedd Dydd
Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, efallai y caiff yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion cynnal archwiliad yn fewnol ac yn allanol.
Caiff y wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gellir eich rhwystro rhag derbyn gwasanaethau penodol, arian neu waith. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma: CIFAS (yn agor mewn tab newydd)
Pa mor hir byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw'ch gwybodaeth am gyhyd ag y bo angen. Byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarparwyd i ni fel a ganlyn:
- Cofnodion gofal cymdeithasol oedolion (gan gynnwys cynlluniau gofal) a bydd eich gwybodaeth. - 8 mlynedd.
- Teledu cylch cyfyng - Cedwir am 30 diwrnod cyn trosysgrifo'i hun.
Caiff eich gwybodaeth ei dileu’n ddiogel pan na fydd ei hangen mwyach.
Eich hawliau
Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:
- Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, ond gallai hyn achosi oedi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd gofyn i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol. I wneud cais, cysylltwch â:
Mynediad at Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Rhif ffôn: 01437 764551
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ymdrechu i fodloni’r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Oherwydd hyn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a dderbyniwn ynglŷn â hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i roi gwybod i ni os ydynt o'r farn fod y ffordd yr ydym yn casglu gwybodaeth neu yn ei defnyddio yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o'r holl agweddau ar sut rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon i'r cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd yr ydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio'r gyfraith ynglŷn â diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: cymru@ico.org.uk
Ffôn: 0330 414 6421
Ein manylion cyswllt ni fel rheolydd data yw:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Mae manylion ein Swyddog Diogelu Data wedi’u cynnwys uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydyn ni’n adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.